Goleuadau Stryd
Mae ffyrdd sydd wedi eu goleuo’n dda yn cynorthwyo â lleihau nifer y damweiniau traffig a throseddau gan hefyd lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn gyfrifol am reoli a chynnal nifer o’r goleuadau stryd yma yng Ngheredigion. Fodd bynnag dylech nodi nad yw pob un o’r goleuadau stryd yn y Sir yn gyfrifoldeb y Cyngor:
- Mae golau ar dir preifat yn aml yn gyfrifoldeb ar y perchennog tir
- Mae’r A487 a’r A44 yn rhan o Asedau Cefnffordd Llywodraeth Cymru ac Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru sy’n gyfrifol am eu cynnal a’u cadw. Os hoffech chi gofnodi nam ar oleuadau ar y Cefnffyrdd ffoniwch 0300 123 1213
Ewch i'r dudalen Goleuadau Traffig Dros Dro am ragor o wybodaeth.
Cofnodi nam neu broblem:
Y ffordd gyflymaf a hawsaf o roi gwybod am nam ar oleuadau stryd a'i olrhain yw drwy Fy Nghyfrif. Drwy roi gwybod am y nam ar-lein, gallwch gyflwyno’r adroddiad ar unrhyw adeg a monitro ei gynnydd heb orfod cysylltu â ni am ddiweddariadau.
Cyn rhoi gwybod am nam, gwnewch nodyn o’r Rhif Uned sydd wedi’i arddangos ar yr ased, gan y bydd hyn yn ein helpu i adnabod yr union leoliad a phrosesu eich cais yn gyflymach. Os na allwch ddod o hyd i’r Rhif Uned neu os oes angen cymorth arnoch i gyflwyno eich adroddiad, ffoniwch 01545 572572.
Drwy Fy Nghyfrif gallwch roi gwybod am broblemau sy’n ymwneud â goleuadau stryd, bolardiau wedi’u goleuo, arwyddion wedi’u goleuo, croesfannau i gerddwyr, goleuadau traffig parhaol a signalau rhybuddio sy’n fflachio.
Mewn argyfwng, ffoniwch 01545 572572. Ar gyfer argyfyngau y tu allan i oriau swyddfa, cysylltwch â 01970 625277 (Gogledd Ceredigion) neu 01239 851604 (De Ceredigion).