Amddifyn yr Arfordir
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn Awdurdod Amddiffyn yr Arfordir o dan Ddeddf Amddiffyn y Glannau 1949, ac o dan y Ddeddf honno mae’r Cyngor yn meddu ar bwerau caniataol i orchymyn neu gyflawni gwaith Amddiffyn yr Arfordir pan mae’n credu fod hynny’n angenrheidiol er mwyn diogelu tir.
Fel Awdurdod Amddiffyn yr Arfordir, mae’r Cyngor yn rheoli a chynnal a chadw mwy na 12 cilometr o amddiffynfeydd artiffisial (morfuriau, morgloddiau, grwynau, muriau cynnal ac ati) sy’n diogelu llawer o’r cymunedau ar ein harfordir, yn ogystal ag eiddo’r Cyngor. Mae hynny’n cynnwys promenâd Aberystwyth, y ddau Bier yng Ngheinewydd ac Aberaeron, a’r amrywiaeth o forfuriau ar hyd arfordir Ceredigion.
Eiddo preifat yw’r 84 cilometr arall o’r arfordir, a pherchnogion y tir sy’n gyfrifol am ddiogelu eu heiddo’u hunain rhag erydu a llifogydd. Nid yw’r Cyngor yn gyfrifol o gwbl am Amddiffyn yr Arfordir o ran eiddo preifat.
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i leihau’r perygl i bobl, adeiladau a’r amgylchedd yn sgil llifogydd ac erydu’r arfordir, ac mewn blynyddoedd diweddar mae wedi gweithredu cynlluniau mawr i amddiffyn yr arfordir ar Draeth y Gogledd yn Aberaeron ac yn Y Borth; dilynwch y dolenni cyswllt isod am fwy o wybodaeth.
Mae’r Cyngor hefyd yn bwriadu gweithredu cynlluniau i amddiffyn yr arfordir ar lan y môr yn Aberystwyth ac wrth yr Harbwr/Traeth y De yn Aberaeron. Datblygir y cynlluniau hyn yn y misoedd i ddod, a bydd y Cyngor yn trefnu digwyddiadau arbennig i ymgynghori â’r cyhoedd fel y bydd gan bawb gyfle i leisio’u barn ar y cynigion.
Cylchlythyron
Cylchlythyr - Cynllun Amddiffyn Arfordir Aberaeron Tachwedd 2024
Cylchlythyr - Cynllun Amddiffyn Arfordir Aberearon - Awst 2024
Cylchlythyr - Cynllun Amddiffyn Arfordir Aberaeron - Ebrill 2024
Cylchlythyr - Cynllun Amddiffyn Arfordir Aberaeron - Ionawr 2024