Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Pencampwriaethau Seiclo

Ceredigion fydd cartref Pencampwriaethau Rasio Ffordd Genedlaethol Lloyds gan British Cycling am yr ail flwyddyn yn olynol.

Bydd Pencampwriaethau Ffordd Cenedlaethol Lloyds yn dychwelyd i Geredigion yn 2026, gan ddigwydd rhwng 25-28 Mehefin 2026.

Rhagor o wybodaeth am y rasys yma.

Darllenwch am y bencampwriaeth sy'n dychwelyd yma.

Heol/Lleoliad Dyddiadau Dyddiadau/Amserau Cyfiawnhad am y Cyfyngiad Adnoddau
Llanbedr Pont Steffan & Aberystwyth nifer o ffyrdd, gwelir ar y map wedi atodi

25/06/2026 – 28/06/2026 Fe welwch ar y map wedi ei atodi a'r Hysbysiad Cyhoeddus

Pencampwriaethau Cenedlaethol Beicio Prydain

British Cycling Events LTD

Dydd Iau Map 1

Dydd Iau Map 2

Dydd Iau Map 3

Dydd Gwener Map

Dydd Sadwrn Map

Dydd Sul Map 1

Dydd Sul Map 2

Dydd Sul Map 3

Dydd Sul Map 4

Dydd Sul Map 5

Dydd Sul Map 6

Dydd Sul Map 7

Dydd Sul Map 8

Hysbysiad Cyhoeddus

Parcio

I'r rhai sy'n teithio i wylio'r rasys, mae nifer o opsiynau parcio ar gael:

  • Yn Llanbedr Pont Steffan, bydd pob maes parcio ar agor ac ar gael i ymwelwyr
  • Yn Aberystwyth, cynghorir ymwelwyr i ddefnyddio meysydd parcio Maesyrafon, Rhodfa Park Avenue a Lower Park Avenue ar y dydd Gwener a’r dydd Sul. Bydd maes parcio North Road ar agor, ond dim ond o gyfeiriad North Road y gellir ei gyrraedd (dim mynediad drwy Queen’s Road)
  • Bydd parcio ar gyfer beiciau modur ar Bromenâd Aberystwyth wedi ei ddiddymu rhwng dydd Gwener 26 Mehefin a dydd Sul 28 Mehefin.

Ardal Arddangos - Promenâd Aberystwyth

Bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau Ardal Arddangos fywiog ar Bromenâd Aberystwyth a fydd ar agor ar ddydd Gwener 26 Mehefin a dydd Sul 28 Mehefin.

Bydd sgrin fawr ar y Promenâd, gan roi cyfle i wylwyr ddilyn yr holl rasys yn fyw dros y penwythnos tra'n mwynhau awyrgylch yr ŵyl.

Gall ymwelwyr â’r Ardal Arddangos hefyd edrych o gwmpas amrywiaeth o stondinau gan sefydliadau cefnogol:

  • Cyngor Sir Ceredigion – Adran Economi ac Adfywio (Canolfan Croeso, Arfordir a Chefn Gwlad a Chynnal y Cardi)
  • Ceredigion Actif
  • Clwb Beicio Ystwyth
  • Summit Cycles
  • Beicio Cymru
  • Clwb Rotary Aberystwyth
  • Aber Adventure
  • Afan Cycles
  • Aber Outdoors
  • Aberpoeth
  • Provision
  • Walk Wheel Cycle Trust / Sustrans
Pencampwriaethau Prawf Amser Cenedlaethol Lloyds

Pencampwriaethau Prawf Amser Cenedlaethol Lloyds

Llanbedr Pont Steffan, 25 Mehefin 2026

Pencampwriaethau Prawf Amser Cenedlaethol Lloyds
Pencampwriaethau Rasio Cylchffordd Cenedlaethol Lloyds

Pencampwriaethau Rasio Cylchffordd Cenedlaethol Lloyds

Aberystwyth, 26 Mehefin 2026

Pencampwriaethau Rasio Cylchffordd Cenedlaethol Lloyds
Pencampwriaethau Rasio Ffordd Cenedlaethol Lloyds

Pencampwriaethau Rasio Ffordd Cenedlaethol Lloyds

Aberystwyth, 28 Mehefin 2026

Pencampwriaethau Rasio Ffordd Cenedlaethol Lloyds

Llanbedr Pont Steffan

Os ydych chi’n chwilio am rywle i fwyta neu yfed yn ystod y ras prawf amser yn Llanbedr Pont Steffan ddydd Iau 25 Mehefin, ewch i weld y rhestr lawn o fusnesau.

Bydd rhai busnesau ar agor yn gynharach/yn cau’n hwyrach yn ystod y diwrnod felly anogir ymwelwyr a beicwyr i ddilyn eu tudalennau cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Aberystwyth

Bydd nifer o sefydliadau a darparwyr bwyd a diod gwych yn bresennol ar hyd y promenâd yn Aberystwyth yn ystod y digwyddiad, yn ogystal ag amrywiaeth eang o gaffis bwyd a diod yn y dref ei hunan. Anogir ymwelwyr a beicwyr i ddilyn eu tudalennau cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf neu ewch i weld y rhestr lawn o fusnesau.

Bwyta allan yn Aberystwyth

Bwyta allan i'r gogledd-dwyrain o Aberystwyth

Tecawês yn Aberystwyth