Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Cynllun Benthyciadau Cartrefi Cynnes

Mae cynllun benthyciadau Cartrefi Cynnes Llywodraeth y DU yn rhan bwysig o'r Cynllun Cartrefi Cynnes a fydd yn helpu aelwydydd i gael mynediad at gyllid mwy fforddiadwy er mwyn gwneud gwelliannau i’w cartrefi, i’w gwneud yn gynhesach ac yn fwy effeithlon o ran ynni.

Bydd y Cynllun yn helpu perchnogion tai a landlordiaid preifat cymwys i leihau neu gael gwared ar gostau ymlaen llaw ar gyfer gwelliannau megis pympiau gwres, paneli solar a storfeydd batri, drwy eu galluogi i ledaenu'r gost dros amser. Bydd cefnogaeth y llywodraeth yn helpu i leihau’r gost o fenthyg y benthyciadau cymwys. Bydd y benthyciadau eu hunain yn cael eu darparu gan ystod o fenthycwyr sy'n cymryd rhan, a’r rhain fydd yn gyfrifol am eu cynnyrch unigol, y cyfraddau llog, y telerau ad-dalu, gofynion cymhwysedd, gwirio a yw’n fforddiadwy, a phenderfyniadau ynghylch y benthyca.

Mae gwybodaeth, gan gynnwys pa welliannau i’r cartref sy’n gymwys, pa fenthycwyr sy'n cymryd rhan a sut i wneud cais, ar gael ar dudalen Cynllun Benthyciadau Cartrefi Cynnes, GOV.UK. Gwneir cais drwy’r benthycwyr sy'n cymryd rhan yn hytrach nag i'r Llywodraeth yn uniongyrchol.