Ymgynghoriad Cyhoeddus Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Llefydd Parcio Oddi ar y Stryd) 2025
Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar y 4ydd o Rhagfyr 2024.
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad Gwreiddiol
Hysbysir drwy hyn bod Cyngor Sir Ceredigion yn bwriadu gwneud Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Llefydd Parcio Oddi ar y Stryd) 2025.
Effaith y Gorchymyn hwn fydd:
- Dirymu Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Llefydd Parcio Oddi ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2012; Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Llefydd Parcio Oddi ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2012 (Gorchymyn Diwygio 1) 2014; a Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Llefydd Parcio Oddi ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2012 (Gorchymyn Diwygio 2) 2017
- Ailgyflwyno darpariaethau'r Gorchmynion uchod ac eithrio fel a ganlyn:
- Newid dyddiau ac oriau codi tâl y meysydd parcio canlynol – Ffordd yr Eglwys a Stryd y Cware, Ceinewydd; Traeth y De, Aberaeron a Promenâd Newydd, Aberystwyth – o 1 Mawrth – 31 Hydref, 8am – 10pm i Bob Dydd, 8am – 6pm
- Newid dynodiad Maes Parcio Pendre, Aberteifi o Faes Parcio Deiliad Trwydded yn Unig i Faes Parcio Arhosiad Byr, Pob Dydd, 8am- 6pm, uchafswm arhosiad 2 awr
- Newid dynodiad Maes Parcio Rhes Gloster / Red Lion, Aberteifi o Faes Parcio Talu ac Arddangos i Faes Parcio Deiliad Trwydded yn Unig
- Wedi'i esemptio rhag talu taliadau mewn Meysydd Parcio Arhosiad Hir ac Arhosiad Byr Gerbyd sy'n arddangos Bathodyn dilys Person Anabl ar yr amod bod y Cerbyd hwnnw ar adeg ei barcio naill ai'n cael ei yrru neu'n cael ei feddiannu fel teithiwr gan ddeiliad Bathodyn y Person Anabl
- Cyflwyno darpariaethau sy'n ymwneud â defnyddio Cilfachau Gwefru Cerbydau Trydan a Mannau cysylltiedig Gwefru Cerbydau Trydan
- Newid maint Maes Parcio Maesyrafon, Aberystwyth i gynnwys yr estyniad newydd arfaethedig i'r maes parcio hwn
- Cyflwyno Atodlenni diwygiedig Taliadau
- Diweddaru darpariaethau sy'n ymwneud â dulliau talu'r taliadau ar gyfer defnyddio Llefydd Parcio Arhosiad Hir a Byr
- Diweddaru a mewnosod diffiniadau o dan Ran 2 – Dehongli
- Diweddaru'r Atodlen o fapiau sy'n dynodi maint y Llefydd Parcio er mwyn:
- adlewyrchu data topograffig wedi'i ddiweddaru
- cael gwared ar ddarnau o dir a werthwyd gan y Cyngor
- cael gwared ar ddarnau o dir nad ydynt bellach yn cael eu lesio gan y Cyngor, a
- i gywiro hepgoriadau / gwallau ym maint y Llefydd Parcio presennol
- Dileu darpariaethau nad ydynt bellach yn berthnasol
- Diweddaru darpariaethau lle bo angen er mwyn cyd-fynd â newidiadau mewn deddfwriaeth
Mae manylion llawn y cynigion hyn wedi'u cynnwys yn y Gorchymyn drafft.
Gellir archwilio'r cynigion hefyd yn swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion ym Mhenmorfa, Aberaeron; Canolfan Alun R Edwards, Maes y Frenhines, Aberystwyth; Swyddfeydd y Cyngor, Stryd Morgan, Aberteifi; a Swyddfeydd y Cyngor, Stryd y Farchnad, Llanbedr Pont Steffan, yn ystod oriau arferol swyddfeydd.
Datganiad o resymau
Mae Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Llefydd Parcio Oddi ar y Stryd) 2025 yn cael ei gynnig ar sail sicrhau bod Llefydd Parcio Cyngor Sir Ceredigion sy’n dod o dan y Gorchymyn yn cael eu rheoli’n effeithlon. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, symleiddio a rhesymoli’r trefniadau codi tâl, sicrhau bod Llefydd Parcio yn briodol ar gyfer y math o gerbyd / defnyddiwr a ganiateir, cynyddu capasiti, cymell pobl i brynu trwyddedau parcio, ymestyn yr eithriadau presennol ar gyfer Deiliaid Bathodynnau Glas, adlewyrchu’r newidiadau technolegol a sicrhau bod darpariaethau’r Gorchymyn – sy'n sail i'r trefniadau yn y Llefydd Parcio – yn gywir a pherthnasol.
Gwrthwynebiadau
Gwrthwynebiadau, gan nodi’r rhesymau yn ysgrifenedig, at clic@ceredigion.gov.uk neu’r Gwasanaethau Cyfreithiol, trwy law Ystafell y Post, Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE neu drwy'r ffurflen ar-lein, i'w cael erbyn 04/12/2024.
Ffurflen ar-lein
Ymgynghoriad Cyhoeddus Gorchymyn Llefydd Parcio Oddi ar y Stryd
Os bydd eich ymateb yn mynd y tu hwnt i'r uchafswm o ran cymeriadau testun anfonwch eich ymateb at clic@ceredigion.gov.uk gan roi yn y blwch testun: Ymgynghoriad Cyhoeddus - Gorchymyn Arfaethedig Cyngor Sir Ceredigion (Lleoedd Parcio Oddi ar y Stryd) 2025).
Gwybodaeth Atodol
- Dogfen gwybodaeth ategol
- Gorchmynion Llefydd Parcio Oddi ar y Stryd Presennol
- Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Llefydd Parcio Oddi ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2012
- Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Llefydd Parcio Oddi ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2012 (Gorchymyn Diwygio 1) 2014
- Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Llefydd Parcio Oddi ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2012 (Gorchymyn Diwygio 2) 2017