Hyrwyddo a Hwyluso’r Iaith Gymraeg yng Ngheredigion
“Rydym am weld y Gymraeg a Chymreictod yn perthyn i bob un yng Ngheredigion ac yn destun balchder ymysg holl drigolion y sir.”
Mae Strategaeth Hybu’r Iaith newydd i Geredigion wedi cael ei chymeradwyo ar gyfer y cyfnod 2024-2029. Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, cymeradwywyd y Strategaeth gan Gabinet Cyngor Sir Ceredigon mewn cyfarfod ar y 3ydd o Ragfyr 2024.
Mae’r Strategaeth hon yn adeiladu ar y seiliau a osodwyd gan Strategaeth Iaith 2018-23 a’r gwaith arbennig a wnaed gan y Cyngor a’i bartneriaid i gynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ar draws y Sir. Mae hyfywedd yr iaith Gymraeg yn ddibynnol ar gynnal cymunedau lle mae nifer sylweddol o’r boblogaeth yn gallu siarad yr iaith ac yn medru ei defnyddio ymhob agwedd o fywyd bob dydd.
Yn unol ȃ Mesur Y Gymraeg 2011 mae’n ofynnol i Gyngor Sir Ceredigion gydymffurfio gyda Safonau’r Gymraeg. Mae’r Safonau yn osod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i ddatblygu Strategaeth Iaith sy’n esbonio sut y bydd ar y cyd gyda sefydliadau eraill yn mynd ati i hybu’r Gymraeg ac i hwyluso defnydd o’r Gymraeg yn ehangach o fewn yr ardal leol.
Mae’r Strategaeth yn cyflwyno nifer o gamau a chanlyniadau uchelgeisiol er mwyn gweld yr iaith yn ffynnu ar draws y Sir. Bydd y Strategaeth hefyd yn cyfrannu tuag at gyrraedd Strategaeth Iaith Llywodraeth Cymru Cymraeg 2050, sydd yn gosod y targed o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050.
Dywedodd Y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet ar gyfer Diwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid
Strategaeth Hybu'r Iaith Gymraeg 2024-2029
Mae Pwyllgor Fforwm Dyfodol Dwyieithog yn gyfrifol am fonitro gweithredu’r Strategaeth a datblygiadau yn ymwneud â’r Gymraeg yn y sir. Mae gan y Fforwm bedwar is-bwyllgor ar y themau Dysgu, Byw, Perthyn a Llwyddo sy’n canolbwyntio ar gamau gweithredu pedair thema y Strategaeth.
Mae’r Fforwm Dyfodol Dwyieithog Ceredigion wedi datblygu Adnodd Iaith i’ch helpu i ddefnyddio’r Gymraeg.
Mae’r Strategaeth yn cydblethu gyda Strategaethau eraill sy’n ymweud a hybu defnydd o’r Gymraeg.
Mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn nodi bwriad y Cyngor i hyrwyddo addysg Gymraeg yn y sir.
Mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio tuag at gyflawni Fframwaith Strategol ‘Mwy na Geiriau’ ar gyfer gwella gwasanaethau Cymraeg o fewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol.
Mae’r Cyngor hefyd yn cefnogi Cered (Menter Iaith Ceredigion) gyda’r nod o greu cyfleoedd ac annog trigolion Ceredigion i ddefnyddio’r Gymraeg yn amlach ym mhob agwedd o’u bywydau.