
Dechreuodd Cyfyngiadau Gwastraff Gweddilliol ar 23 Mehefin 2025
Mae cartrefi yng Ngheredigion bellach wedi'u cyfyngu i 3 bag o wastraff gweddilliol (bagiau du) bob 3 wythnos. Ewch i'r dudalen Gwastraff Gweddilliol (Gwastraff Nad Oes Modd Ei Ailgylchu) am ragor o wybodaeth.
Cymorth Ariannol a Chymorth Aelwydydd
Rhagor o wybodaeth ar y dudalen Cymorth Costau Byw.
Newyddion a Digwyddiadau
Newyddion

£4m ar gael ar gyfer prosiectau adfywio canol trefi ledled y Canolbarth
Mae cyfanswm o £4 miliwn wedi'i ddyrannu tuag at brosiectau adfywio canol trefi ledled y Canolbarth (Powys a Cheredigion) dros y ddwy flynedd nesaf (2025-2027).
12/09/2025

Pobl Ifanc a Chwmni Theatr Arad Goch yn lansio ffilm fer bwerus i godi ymwybyddiaeth o alar a phrofedigaeth
Eleni, dathlwyd Diwrnod Ymwybyddiaeth Galar Cenedlaethol ar 30 Awst 2025, ac fel cydnabyddiaeth briodol o alar a phrofedigaeth, ac i'r rhai sy'n profi colled, lansiwyd ffilm fer a grëwyd gan bobl ifanc yn swyddogol ar 29 Awst 2025 yn Arad Goch, Aberystwyth.
12/09/2025

Arlwy hydref a gaeaf 2025 Theatr Felinfach
Mae’r flwyddyn newydd ddiwylliannol ar fin cychwyn yn Theatr Felinfach ac mae yna wledd yn eich disgwyl o nawr hyd at y Nadolig.
04/09/2025

Rali Ceredigion 2025: Cymunedau, Diogelwch a Chynaliadwyedd wrth galon y rali eleni
Gyda dim ond dwy wythnos i fynd tan JDS Machinery Rali Ceredigion 2025, mae'r trefnwyr yn annog trigolion a busnesau ledled Ceredigion a Phowys i gynllunio ymlaen llaw, bod yn ymwybodol, a chymryd rhan yn yr hyn sy'n argoeli i fod yn rali fydd yn canolbwyntio fwyaf ar y gymuned.
22/08/2025