Newyddion
Bargen Twf Canolbarth Cymru yn sicrhau cyllid pellach i gefnogi cynnydd rhanbarthol
Mae Tyfu Canolbarth Cymru wedi croesawu rhyddhau cyfran bellach o gyllid, £11.857m, gan Lywodraethau’r DU a Chymru drwy Fargen Twf Canolbarth Cymru — gan atgyfnerthu eu hymrwymiad parhaus i’r rhanbarth a chefnogi cynnydd wrth i brosiectau symud drwy’r camau datblygu tuag at gyflawni.19/03/2026
Cymeradwyo Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer Canolbarth Cymru
Mae Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Canolbarth Cymru, a ddatblygwyd gan Tyfu Canolbarth Cymru fel Cyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru, mewn partneriaeth â Chynghorau Sir Ceredigion a Phowys, bellach wedi’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.18/03/2026
Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn dod â lliw i stand cae chwarae Aberteifi
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion wedi cryfhau gwaith ymyrraeth gynnar ac atal ledled y sir drwy’r rhaglen Pontiau a Mannau Diogel (BASS), a ariennir gan y Swyddfa Gartref ac a ddarperir mewn partneriaeth â Chronfa Mannau Poeth Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys Dyfed Powys.17/03/2026
Ceredigion yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda Gŵyl Ffrinj ar draws y sir
Dathlodd Cyngor Sir Ceredigion Dydd Gŵyl Dewi 2026 gyda rhaglen fywiog o weithgareddau a gynhaliwyd drwy gymorth cyllid Llywodraeth Cymru.13/03/2026
Diwrnod Agored llwyddiannus arall ar Fferm Llettytwppa
Cynhaliwyd diwrnod agored llwyddiannus ar Fferm Llettytwppa ar 06 Mawrth 2026. Daeth cyfanswm o 226 o bobl, gan gynnwys darparwyr, cwmnïau, sefydliadau, aelodau’r gymuned, unigolion â diddordeb yn natblygiad y fferm a darpar-ddysgwyr oedd am ddysgu mwy am cyrsiau a’r cyfleoedd hyfforddi a fydd ar gael ar y fferm.12/03/2026
Pobl leol yn helpu llunio dyfodol monitro arfordirol ac afonydd yng Ngheredigion
Daeth gwirfoddolwyr lleol, grwpiau cymunedol a phartneriaid amgylcheddol ynghyd yng Nghastell Aberteifi ar 18 Chwefror i ddysgu mwy am sut mae gwyddoniaeth dinasyddion yn helpu i warchod afonydd, arfordir a bywyd morol Ceredigion.12/03/2026
Mae Ceredigion Ifanc nawr ar TikTok
Mae Porth Cymorth Cynnar, sef y swyddogaeth Cymorth Cynnar ac Atal o fewn model Cymorth a Gofal Llesiant Ceredigion Drwy Oes, wedi lansio ei gyfrif TikTok newydd.10/03/2026
Dedfrydu dyn am achosion ailadroddus o fethu ag atal geifr rhag crwydro
Mae dyn o Fetws Ifan wedi cael ei ddedfrydu am iddo fethu â stopio ei eifr rhag crwydro ar dir cyfagos ac ar y briffordd gyhoeddus.10/03/2026
Gorchymyn siop tecawê Indiaidd i dalu £2,808 ar ôl torri’r rheolau ar alergenau a gwybodaeth am fwyd
Mae tecawê Indiaidd wedi cael gorchymyn i dalu cyfanswm o £2,808 ar ôl i ymchwiliad gan Gyngor Sir Ceredigion ddatgelu methiannau sylweddol ym mesurau’r busnes ar reoli a rhoi gwybodaeth am alergenau.06/03/2026
Pencampwriaethau Ffordd Cenedlaethol Lloyds 2026 i ddychwelyd i Geredigion
Bydd Pencampwriaethau Ffordd Cenedlaethol Lloyds yn dychwelyd i Geredigion rhwng 25 a 28 Mehefin 2026, fel rhan o gytundeb rhwng British Cycling a Llywodraeth Cymru i gynnal y Pencampwriaethau yng Nghymru tan 2027.04/03/2026
Nifer cynyddol o gartrefi LHDTC+ yn maethu yng Nghymru
Mae gofalwyr maeth LHDTC+ yn gyfran llawer mwy o’r gofalwyr yng Nghymru, yn ôl ffigurau newydd.03/03/2026
Cymeradwyo cyllideb Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer 2026-2027
Mae cyllideb Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer 2026-2027 wedi'i chymeradwyo mewn cyfarfod o'r Cyngor a gynhaliwyd ddydd Llun 02 Mawrth 2026.02/03/2026
Ethol aelodau newydd i arwain Cyngor Ieuenctid Ceredigion 2025-26
Ar 17 Hydref 2025, etholodd Cyngor Ieuenctid Ceredigion Gadeirydd, Is-Gadeirydd ac Aelod newydd i gynrychioli Ceredigion yn Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig ar gyfer 2025-26.27/02/2026
Cyfle i ddysgu mwy am yr hyn sydd i ddod yn Llettytwppa
Bydd cyfle i aelodau’r gymuned, darpar-ddysgwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb yn natblygiad Fferm Llettytwppa ymuno â’r diwrnod agored nesaf i glywed am gynlluniau’r fferm a’r cyrsiau prentisiaeth fydd yn cael eu cynnig yno.27/02/2026
Peilot Cyswllt Gyrfa yn cysylltu dysgwyr Canolbarth Cymru â chyflogwyr lleol
Mae dysgwyr ledled Canolbarth Cymru yn cael cipolwg uniongyrchol ar gyfleoedd gyrfa lleol drwy beilot newydd Cyswllt Gyrfa, partneriaeth rhwng Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru a Gyrfa Cymru.25/02/2026
Canolfan Bwyd Cymru yn dathlu 30 mlynedd o gefnogi bwyd a diod o Gymru
Mae Canolfan Bwyd Cymru yn falch o nodi ei phen-blwydd yn 30 oed ym mis Mawrth 2026 – tri degawd o hyrwyddo busnesau bwyd a diod o Gymru. Ers iddi agor ym 1996, mae’r Ganolfan wedi cefnogi cannoedd o gynhyrchwyr, o gwmnïau newydd i enwau cyfarwydd, a’u helpu i arloesi, tyfu a llwyddo.24/02/2026
‘Ein Cegin’ yn cryfhau cysylltiadau cymunedol drwy fwyd, creadigrwydd a thwf cynaliadwy
Wrth i’r argyfwng costau byw barhau i effeithio ar deuluoedd ledled y DU, mae bron un o bob pedwar rhiant sy’n gweithio bellach yn dibynnu ar fanciau bwyd. Mewn ymateb i’r angen cynyddol hwn, mae Ein Cegin yn Aberteifi wedi datblygu model arloesol dan arweiniad y gymuned sy’n cael ei gydnabod fel patrwm ar gyfer trefi eraill yng Ngheredigion.23/02/2026
18/02/2026
Rhannwch eich barn ar gynlluniau’r dyfodol ar gyfer Pont Rhiwarthen, Capel Bangor
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gwahodd trigolion, busnesau a defnyddwyr y ffordd i rannu eu barn ar y gwaith gwella arfaethedig i Bont Rhiwarthen yng Nghapel Bangor.17/02/2026
Pum cân newydd sbon gan ddisgyblion uwchradd y sir
I ddathlu Dydd Miwsig Cymru ar 13 Chwefror eleni, bydd pum cân newydd yn cael eu lansio gan bum ysgol uwchradd yn y sir.10/02/2026
Teithio Llesol yng Ngheredigion – dweud eich dweud
Mae pobl ledled y sir yn cael eu gwahodd i rannu eu barn ar ble y gellir gwneud Teithio Llesol yn fwy diogel ac yn haws i bawb.09/02/2026
Prosiect Ysbrydoli Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn dod â chenedlaethau ynghyd drwy gemau retro
Ar ddydd Iau 15 Ionawr, ymunodd aelodau o brosiect Ysbrydoli Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion â thrigolion cartref gofal Hafan Y Waun ar gyfer digwyddiad gemau aml genhedlaeth unigryw a gyflwynwyd mewn cydweithrediad ag E-Chwaraeon Cymru, diolch i gyllid gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys.09/02/2026
Grant mawr gan Lywodraeth Cymru i hybu diwylliant ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru
Mae cymunedau ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru ar fin elwa o fuddsoddiad diwylliannol mawr, wrth i'r rhanbarth sicrhau grant a ddyfarnwyd o dan ffrwd ariannu newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer ei Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant.06/02/2026
Gwaith carthu wedi dechrau yn sianel harbwr Aberaeron
Mae'r gwaith o garthu sianel harbwr Aberaeron wedi dechrau.04/02/2026
Cardi Cranks yn noddi dysgwyr Mecaneg Lefel 1 TSC+
Rydym yn dymuno estyn ein diolch diffuant i ‘Cardi Cranks’ am eu nawdd caredig i ddysgwyr Mecaneg Lefel 1 TSC+.02/02/2026
Rhannwch eich barn ar gynlluniau’r dyfodol ar gyfer dau safle allweddol yn Llandysul
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gwahodd trigolion i gymryd rhan mewn ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol defnydd dau safle pwysig yn Llandysul – cyn gartref gofal Awel Deg a chaeau chwarae’r hen ysgol.27/01/2026
Cofrestrwch i bleidleisio ar gyfer yr Etholiad i Senedd Cymru
Bydd Etholiad i Senedd Cymru yn cael ei gynnal ddydd Iau, 07 Mai 2026, lle gall pleidleiswyr ledled Cymru ddewis 96 o Aelodau a fydd yn eu cynrychioli yn Senedd Cymru.27/01/2026
Cynllun Llyfrau Iechyd Mislif Ceredigion ar gyfer ysgolion a llyfrgelloedd tref
Mae Cynllun Urddas Mislif Ceredigion wedi gallu cynnig 'pecynnau llyfrau' cynhwysfawr i bob Ysgol Uwchradd a Gydol Oes a llyfrgelloedd tref yn y Sir, yn dilyn cyllid gan Grant Urddas Mislif Llywodraeth Cymru, ac mewn partneriaeth â Gwasanaeth Llyfrgelloedd Ceredigion.27/01/2026
Cyllid o £2.95m Innovate UK wedi’i ddyfarnu i naw prosiect technoleg amaeth a thechnoleg bwyd
Mae naw prosiect arloesol ar draws Canolbarth a Gogledd Cymru wedi sicrhau cyfanswm o £2.95 miliwn mewn cyllid Ymchwil a Datblygu Cydweithredol gan Innovate UK, gan gryfhau ecosystem arloesi technoleg amaeth a thechnoleg bwyd y rhanbarth.26/01/2026
Gweinidog yn gweld potensial twf Parc Arloesi Dyfodol Gwyrdd newydd
Mae Gweinidog o Swyddfa Cymru wedi clywed am gynlluniau i ddatblygu Parc Arloesi Dyfodol Gwyrdd newydd ar ymweliad i Brifysgol Aberystwyth.23/01/2026
23/01/2026
Gwyddoniaeth gymunedol a monitro arfordirol yn cymryd y llwyfan yng nghynhadledd forol Ceredigion
Mae trigolion, gwirfoddolwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn diogelu arfordir Ceredigion yn cael eu gwahodd i fynychu Cynhadledd Monitro Morol ar 18 Chwefror yng Nghastell Aberteifi. Bydd y digwyddiad yn arddangos sut mae arfordir Ceredigion yn cael ei ddeall yn well a’i ddiogelu drwy brosiect dan arweiniad y gymuned sy’n dod â phobl leol ac arbenigwyr ynghyd i fonitro ansawdd dŵr — a bydd hefyd yn egluro sut y gall eraill gymryd rhan.20/01/2026
Awdurdod Lleol Ceredigion yn Cefnogi Mudiad Cenedlaethol Plentyndod Heb Ffonau Clyfar
Mae Cyngor Sir Ceredigion, mewn partneriaeth ag ysgolion a theuluoedd ledled y sir, yn falch o gyhoeddi ei gefnogaeth i’r mudiad cenedlaethol Plentyndod Heb Ffonau Clyfar. Mae’r menter yn hyrwyddo plentyndod sy’n llawn rhyddid, chwarae ac ymddygiad cymdeithasol cadarnhaol.19/01/2026
Dathlu doniau cerddorol Ceredigion
Roedd Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth yn llawn dop ddiwedd mis Rhagfyr wrth i gynulleidfa frwd ymgynnull i fwynhau cyngerdd Gwasanaeth Cerdd a Drama Ceredigion, a gynhaliwyd mewn partneriaeth â Rotari Ardal Aberystwyth.16/01/2026
Gwaith adeiladu ar y gweill ar gyfer llwybr Teithio Llesol rhwng Waunfawr ac IBERS
Mae gwaith adeiladu pellach wedi'i gynllunio ar gyfer 2026 i ddarparu'r llwybr beicio a cherdded newydd rhwng Waunfawr ac IBERS.13/01/2026
Cynnydd cyson ym mhresenoldeb disgyblion y sir
Mae pob diwrnod yn yr ysgol yn cyfrif wrth feithrin arferion dysgu cryf, cefnogi lles a pharatoi plant a phobl ifanc ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol.12/01/2026
Eira: Ysgolion ar gau yng Ngheredigion
Bydd nifer o ysgolion ar gau heddiw (09/01/2026) yng Ngheredigion oherwydd yr tywydd:09/01/2026
Diweddariad Storm Goretti – cymerwch ofal wrth deithio
Disgwylir tywydd garw ac amodau gyrru heriol dros yr oriau nesaf (dydd Iau 08 Ionawr) ac yfory (dydd Gwener 09 Ionawr) wrth i Storm Goretti daro Ceredigion.08/01/2026
Llysiau lleol yn cymryd lle blaenllaw ar fwydlenni Ysgolion Ceredigion
Mae Ceredigion yn rhan o brosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion. Ers Ionawr 2025, mae pob ysgol yng Ngheredigion wedi bod yng nghymryd rhan yn y prosiect, gan weini llysiau organig wedi’u tyfu yng Nghymru fel rhan o’u cinio ysgol.07/01/2026
Bwrw golwg yn ôl ar gyflawniadau 2024-2025
Bob blwyddyn, mae Cyngor Sir Ceredigion yn cyhoeddi adroddiad hunanasesu blynyddol. Mae’r adroddiad diweddaraf, sy’n adolygu blwyddyn 2024-2025, bellach ar gael i'w ddarllen ar wefan y Cyngor.07/01/2026
Storm Goretti: rhybudd am ragor o eira i Geredigion
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd Ambr a rhybudd Melyn am eira a fydd yn effeithio ar rannau o Geredigion dros y dyddiau nesaf.07/01/2026
Rhannwch eich barn ar gynlluniau pont troed Plascrug
Bydd digwyddiad ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ar 14 Ionawr i archwilio opsiynau a chynigion ar gyfer Pont Teithio Lesol ym Mhlascrug, Aberystwyth, a gynigir gan Gyngor Sir Ceredigion.06/01/2026
Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn lansio ymgysylltiad i lunio strategaeth newydd
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn gwahodd pobl ifanc, partneriaid a chymunedau i gyfrannu at lunio dyfodol gwaith ieuenctid ar draws y sir.06/01/2026
Cyngor Ieuenctid Ceredigion yn sgwrsio gydag Elin Jones AS
Ar 15 Rhagfyr 2025, ymwelodd aelodau o Gyngor Ieuenctid Ceredigion â Senedd Cymru yng Nghaerdydd, a chyfarfod ag Elin Jones AS i drafod materion allweddol sy’n bwysig i bobl ifanc.29/12/2025
Helpwch i lunio dyfodol Ceredigion Oed Gyfeillgar
Gwahoddir trigolion lleol i gymryd rhan yn y gwaith o lunio blaenoriaethau Cynllun Gweithredu Oed Gyfeillgar y sir ar gyfer y tair blynedd nesaf.24/12/2025
Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn Dosbarthu Pecynnau Lles i Gefnogi Pobl Ifanc dros y Nadolig
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion wedi paratoi 108 o Becynnau Llesiant i ddod â chysur a llawenydd i blant a phobl ifanc sy'n cael cymorth yn y sir ar hyn o bryd.23/12/2025
Buddsoddiad sylweddol yn trawsnewid cyfleusterau hamdden a llyfrgell Aberaeron
Cafwyd cyfle i ddathlu gwelliannau sylweddol i gyfleusterau hamdden a llyfrgell Aberaeron yn ystod ymweliad gan Jack Sargeant AS, y Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, ar 18 Rhagfyr 2025.19/12/2025
Amgueddfa Ceredigion yn ymuno â menter genedlaethol i ysbrydoli gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd
Mae Amgueddfa Ceredigion wedi cael ei dewis fel un o 12 o bartneriaid amgueddfeydd, treftadaeth a diwylliannol ledled y DU i gyflwyno digwyddiadau a gweithgareddau gyda'r nod o greu eiriolwyr dros y blaned.19/12/2025
Blas ar y cyrsiau galwedigaethol sydd i ddod yn Llanbedr Pont Steffan
Mae datblygiadau cyffrous ar y gweill i ddarparu cyrsiau galwedigaethol ar Fferm Llettytwppa yn Llanbedr Pont Steffan.18/12/2025
Trefniadau casglu gwastraff dros gyfnod yr ŵyl
Bydd rhywfaint o newid i’r trefniadau casglu gwastraff yng Ngheredigion dros gyfnod yr ŵyl.16/12/2025
Dathlu doniau eithriadol yng Ngheredigion – cyhoeddi enillwyr Gwobrau Caru Ceredigion 2025
Cynhaliwyd Gwobrau Caru Ceredigion 2025 neithiwr, 11 Rhagfyr, ar gampws Llanbedr Pont Steffan, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a dathlwyd cyfraniadau a chyflawniadau eithriadol busnesau, prosiectau cymunedol ac unigolion ledled y sir.12/12/2025
Galwad ar agor yn awr am brosiectau cyfalaf newydd yn y canolbarth
Caiff sefydliadau ar draws y canolbarth eu gwahodd yn awr i gyflwyno cynigion ar gyfer prosiectau cyfalaf newydd er mwyn helpu i lunio rhestr ranbarthol gryfach o brosiectau arfaethedig ar gyfer buddsoddi. Mae’r alwad agored yn fyw erbyn hyn.10/12/2025
Rhybuddion Llifogydd: Afon Teifi yng Nghenarth, Llechryd a Chastellnewydd Emlyn
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi sawl rhybudd llifogydd yn ne Ceredigion.09/12/2025
Dweud eich dweud: llunio Polisi Gorfodi Corfforaethol Ceredigion
Mae ymgynghoriad wedi agor i gasglu barn y cyhoedd am Bolisi Gorfodi Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion.08/12/2025
Rhannwch eich barn ar y polisi diwygiedig ar gyfer Ymgysylltu a Chyfranogi
Hoffem glywed barn trigolion, grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid ar Bolisi Diwygiedig Ymgysylltu a Chyfranogi Cyngor Sir Ceredigion.05/12/2025
Hud Parêd Llusernau Enfawr Aberteifi yn dychwelyd
Mae Theatr Byd Bach yn falch iawn o gyhoeddi dychweliad Parêd Llusernau Mawr Aberteifi ddydd Gwener 5 Rhagfyr, gan ddod â golau, creadigrwydd ac ysbryd cymunedol i’r dref.04/12/2025
Gweithdai i annog pobl ifanc a chymunedau i gofrestru i bleidleisio
Cynhaliwyd ‘Taith fy Mhleidlais Gyntaf’ yn ystod mis Tachwedd eleni ar y cyd rhwng Gwasanaethau Etholiadol Ceredigion a Chomisiwn y Senedd i godi ymwybyddiaeth disgyblion a chymunedau am eu hawl i bleidleisio yn Etholiadau’r Senedd yn 2026.03/12/2025
Gwahoddwyd trigolion i helpu i lunio defnydd cyfrifol o dronau gan Gyngor Sir Ceredigion
Gofynnir i drigolion ledled Ceredigion rannu eu barn ar sut y dylid defnyddio technoleg drôn i gefnogi diogelwch cymunedol.03/12/2025
Dweud eich dweud cyn cyllideb nesaf y Cyngor
Mae'r amser wedi dod eto i ddechrau paratoi ar gyfer gosod Cyllideb y Cyngor ar gyfer 2026-27.02/12/2025
Dathlu’r ‘dolig yn Theatr Felinfach!
Mae Nadolig ar y gorwel ac mae Theatr Felinfach yn edrych ymlaen at eich croesawu i ddathlu’r Ŵyl.02/12/2025
Angen cymorth parhaus i deuluoedd Wcráin sy’n ffoi rhag rhyfel
Ers dechrau'r rhyfel yn Wcráin yn 2022, mae Ceredigion wedi croesawu 90 o deuluoedd drwy'r rhaglen Cartrefi i Wcráin.02/12/2025
Grantiau Gwaith Ieuenctid i roi hwb ariannol i flaenoriaethau pobl ifanc
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion wedi cyhoeddi dyraniad o £50,000 mewn Grantiau Gwaith Ieuenctid i sefydliadau ieuenctid gwirfoddol ledled y sir, gan gefnogi prosiectau sy’n adlewyrchu’r blaenoriaethau a nodwyd gan bobl ifanc eu hunain.28/11/2025
Ymweliad Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol â safleoedd arloesi allweddol yng Nghanolbarth Cymru
Ymwelodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Derek Walker, â Chanolbarth Cymru ar 25 Tachwedd i archwilio cyfleoedd hirdymor ar gyfer economi ranbarthol ffyniannus a chynaliadwy.26/11/2025
Eira: Ysgolion ar gau yn ne Ceredigion
Mae nifer o ysgolion ar gau heddiw (21/11/2025) yn ne Ceredigion oherwydd yr tywydd:21/11/2025
Cyhoeddi rhestr fer Gwobrau Caru Ceredigion 2025
Mae rhestr fer Gwobrau Caru Ceredigion 2025 wedi’i gyhoeddi yn swyddogol, gyda ystod drawiadol o gystadleuwyr yn y rownd derfynol yn cynrychioli 12 categori.19/11/2025
19/11/2025
13/11/2025
Llwyddiant i Dîm Arlwyo Cyngor Sir Ceredigion yng Ngwobrau Dathlu 10 Mlynedd Bwyd a Hwyl Cymru
Cymerodd 231 o ddisgyblion Ceredigion, ar draws chwe ysgol, ran yng Nghynllun Bwyd a Hwyl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn ystod y gwyliau haf yn 2025.12/11/2025
Ceisiadau Grantiau Cymunedol Ceredigion ar agor ar gyfer 2026/2027
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn annog grwpiau cymunedol, eglwysi a chapeli, mudiadau gwirfoddol a dielw sy’n dymuno gwella ac ehangu’r ystod o gyfleusterau, gweithgareddau a chyfleoedd ar draws y sir i wneud cais i Gronfa Grant Cymunedol Ceredigion.12/11/2025
Adroddiad Bywyd Ar-lein yn Amlygu Bywydau Digidol Pobl Ifanc ar draws Dyfed-Powys
Mae adroddiad newydd a gomisiynwyd gan Gyngor Sir Ceredigion yn taflu goleuni ar sut mae bywyd ar-lein yn siapio profiadau, llesiant ac ymddygiad pobl ifanc ar draws Dyfed-Powys.12/11/2025
Ceredigion yn ymrwymo i weledigaeth Ymarfer Perthynol ar gyfer pob ysgol
Mae menter newydd wedi'i lansio yng Ngheredigion i gefnogi pob ysgol a lleoliad addysg i ddatblygu a defnyddio ymarfer perthynol yn rhan o'u gwaith o ddydd i ddydd.11/11/2025
Mynd i'r afael â gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd yng Ngheredigion
Mae cynllun yn cael ei ddatblygu i osod Camerâu Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) mewn lleoliadau strategol ledled ucheldir ucheldiroedd Ceredigion i atal y gweithgaredd peryglus ac anghyfrifol hwn.07/11/2025
Beth mae diwylliant yn ei olygu i chi yng Ngheredigion?
Mae prosiect newydd yn lansio i archwilio’r holl agweddau sy’n gysylltiedig â diwylliant yng Ngheredigion, ac rydym eisiau clywed gennych chi.06/11/2025
Rhybuddion Llifogydd: Afon Teifi yng Nghenarth, Llechryd a Chastellnewydd Emlyn
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi sawl rhybudd llifogydd yn ne Ceredigion yn dilyn y glaw uchel dros nos.05/11/2025
Dynodi Dinas Llên UNESCO cyntaf Cymru
Aberystwyth Ceredigion yn ymuno â rhwydwaith byd-eang o Ddinasoedd Creadigol31/10/2025
Stori gadwyn gan ddisgyblion Ceredigion, wedi’i hysbrydoli gan T. Llew Jones
I ddathlu Diwrnod T. Llew Jones ar 11 Hydref 2025, daeth pedwar ar ddeg o ysgolion cynradd ledled Ceredigion ynghyd i gymryd rhan mewn prosiect ysgrifennu cydweithredol unigryw wedi’i ysbrydoli gan y gerdd Yr Hen Dŷ Gwag gan y bardd a’r awdur T. Llew Jones.30/10/2025
Dweud eich dweud ar y Polisi Trwyddedu nesaf
Mae Polisi Trwyddedu Cyngor Sir Ceredigion yn cwmpasu llefydd fel tafarndai a bariau, a'r rhan fwyaf o leoliadau sy'n gwerthu alcohol, yn gweini bwyd poeth yn hwyr yn y nos, neu'n cynnal adloniant fel cerddoriaeth fyw, dawnsio, ffilmiau, neu rai digwyddiadau chwaraeon.29/10/2025
Ceredigion yn ehangu ar y cymorth ar gyfer rhyddhau cleifion o’r ysbyty a gofal cymunedol
Mae Tîm Porth Gofal Cyngor Sir Ceredigion yn cael ei ehangu i leihau oedi i breswylwyr sy'n barod i adael yr ysbyty ond sydd angen cymorth gofal.28/10/2025
Cwblhau gwelliannau i lwybr teithiol llesol mewn pryd ar gyfer Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd
Yn sgil cwblhau'r gwaith adeiladu, bydd y llwybr rhwng Llanbadarn Fawr a Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar gael i'w defnyddio unwaith eto, a hynny mewn pryd ar gyfer Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd (27 Hydref – 02 Tachwedd).24/10/2025
Cerddwyr Aberystwyth Ramblers yn rhoi clwydi i gefnogi gwelliannau i lwybrau cyhoeddus
Efallai y bydd cerddwyr sydd wedi bod yn crwydro llwybrau ardal Aberystwyth dros y blynyddoedd diwethaf wedi sylwi ar gatiau newydd a phlaciau’n nodi gwelliannau ar hyd y llwybrau. Mae’r gwelliannau hyn yn rhan o ymdrech ehangach i wneud cefn gwlad yn fwy hygyrch, ac mae stori am ymroddiad cymunedol yn perthyn i lawer ohonynt.15/10/2025
Pennod newydd i Lyfrgell Aberaeron
Mae gwaith yn ei gamau olaf i gynnig cyfleusterau gwell mewn gofod croesawgar newydd i Lyfrgell Aberaeron.13/10/2025
Cynhadledd Gofal Plant a Chwarae Ceredigion 2025 yn Dathlu Rhagoriaeth ac Arloesedd Sector
Cynhaliodd yr Uned Gofal Plant yng Nghyngor Sir Ceredigion Gynhadledd Gofal Plant a Chwarae bywiog ac ysbrydoledig 2025 ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan ar ddydd Sadwrn, 27 Medi 2025. Wedi'i ariannu gan Grant Plant a Chymunedau – Hyfforddiant a Chymorth Llywodraeth Cymru, daeth y digwyddiad â gweithwyr gofal plant proffesiynol o bob cwr o'r sir ynghyd ar gyfer diwrnod o ddysgu, myfyrio a chydweithio.13/10/2025
Gwaith amddiffyn rhag llifogydd yn dod i ben ar Gynllun Amddiffyn Arfordirol Aberaeron
Mae carreg filltir arall wedi’i chyrraedd yn y gwaith adeiladu ar Gynllun Amddiffyn Arfordirol Aberaeron, a fydd yn darparu amddiffyniad rhag llifogydd ac erydiad arfordirol yn y dyfodol.07/10/2025
Ceisiadau nawr ar agor ar gyfer Gwobrau Caru Ceredigion 2025
Yn dilyn llwyddiant Gwobrau Caru Ceredigion a gynhaliwyd am y tro cyntaf y llynedd, bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal eto eleni yn 2025 gyda chategorïau newydd sbon.03/10/2025
Rhybudd y tafod glas: annog ffermwyr yng Ngheredigion i fod yn wyliadwrus
Mae'r achosion cyntaf a gadarnhawyd o feirws y Tafod Glas (BTV) bellach wedi'u canfod yng Nghymru, ac anogir ffermwyr ac unrhyw un sy’n cadw da byw i fod yn ymwybodol o unrhyw symptomau posibl.01/10/2025
Llwyddiant i raglenni haf Bwyd a Hwyl Ysgolion Ceredigion eto eleni
Cymerodd 231 o ddisgyblion Ceredigion ran yng Nghynllun Bwyd a Hwyl y Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yr haf hwn.30/09/2025
Cynllun Llunio Lleoedd yng Ngheredigion
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn blaenoriaethu buddsoddiad mewn cymunedau a lleoedd. Maeʼn canolbwyntio ar alluogi lleoedd i fuddsoddi ac adfer eu mannau cymunedol a chreuʼr sylfeini priodol ar gyfer cymunedau lleol llewyrchus.29/09/2025
Bwrsari Ieuenctid Ceredigion 2025 wedi’i wobrwyo
Mae person ifanc o Geredigion wedi elwa o fwrsariaeth a ddarparwyd unwaith eto eleni gan West Wales Holiday Cottages. Derbyniodd Ffion Marston, 20 oed y fwrsariaeth i’w chefnogi i gyrraedd eu nod personol i ddatblygu busnes harddwch symudol newydd.25/09/2025
Llwyddiant Rhaglen Gwyliau’r Haf
Bu Rhaglen Gwyliau’r Haf 2025 Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer plant, pobl ifanc, teuluoedd a phobl hŷn yn llwyddiant ysgubol.24/09/2025