Llwybrau ger yr Afon Teifi
Yn 73 milltir o hyd, Afon Teifi yw'r afon hiraf yn gyfan gwbl yng Nghymru. Am lawer o'i hyd mae'n ffurfio'r ffin rhwng Ceredigion a Sir Gaerfyrddin gyda'r 3 milltir olaf rhwng Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n ymestyn o byllau Teifi sydd i'w ganfod yn ucheldiroedd eang agored dwyrain Ceredigion, i'r man lle mae'n cwrdd â'r môr yng Ngwbert a Poppit.
Mae’n werth archwilio’r afon gyfan ond dyma rai syniadau cerdded.