Llwybrau ger y Dyfi
Mae ffin ogleddol Ceredigion wedi'i nodi gan yr afon Dyfi. Mae ei haber yn adnabyddus am Gors Fochno – gwarchodfa natur mawnog, Ynys Las – y rhwydwaith mwyaf o dwyni tywod yng Ngheredigion ac Ynys Hir – gwarchodfa’r RSPB sy’n hafan i adar.
Mae’r dewis o deithiau cerdded yma yn cynnig golygfeydd ar draws yr afon a’r aber i Wynedd, yn ogystal ag ymweld â sawl pentref bach yng ngogledd Ceredigion.