Newyddion a Gweithgareddau
Cystadleuaeth y Pasg
Addurnwch yr wy!
Casglwch ffurflen gais o'ch llyfrgell lleol!
Llyfrgell Symudol Tregaron
Ymweliad awdur yn ysbrydoli pobl ifanc Ceredigion
Ar ddydd Llun 11 Medi 2023, ymwelodd Joseph Coelho, Awdur Llawryfog Plant Waterstones (2022-2024), â Llyfrgell Llanbedr Pont Steffan fel rhan o’i ymgyrch genedlaethol ‘Marathon Llyfrgelloedd’ er mwyn ymuno â llyfrgell ym mhob awdurdod lleol trwy Brydain.
Ymunodd plant o Flwyddyn 6 Ysgol Bro Pedr ag ef yn Llyfrgell Llanbedr Pont Steffan ar gyfer prynhawn o adrodd straeon a barddoniaeth, gyda Coelho yn rhannu ei frwdfrydedd at lyfrau gan ysbrydoli nifer o syniadau creadigol gan y plant eu hunain.
Nod ymweliad Coelho oedd hyrwyddo llyfrgelloedd a chariad at ddarllen, ac annog pobl o bob oed i ymuno â’u llyfrgell leol. Pwysleisiodd Coelho y rôl hanfodol mae llyfrgelloedd yn ei chwarae fel hybiau hollbwysig a chanolog yn y gymuned.


Dywedodd Joseph Coelho: “I lyfrgelloedd mae’r diolch fy mod i’n awdur, a llyfrgelloedd sy’n gwneud i gymunedau ffynnu. Rwy’n hynod ddiolchgar i lyfrgelloedd a’r gwasanaethau maen nhw’n eu darparu, felly rwy eisiau defnyddio fy rôl fel Awdur Llawryfog Plant Waterstones i hyrwyddo’r deorfeydd dysgu hanfodol yma. Rwy eisiau cofleidio pob Llyfrgell, y sefydliadau gwyrthiol hyn lle mae gorwelion newydd i’w cael ar bob silff, a lle mae meddyliau’n cael eu meithrin.”
Ychwanegodd Delyth Huws, Llyfrgellydd Plant Gwasanaeth Llyfrgell Ceredigion: “Roedd yn gymaint o anrhydedd medru croesawu Joseph Coelho i Lyfrgell Llanbedr Pont Steffan. Mae rhannu storïau a chyd-ddarllen yn cynnig cymaint o fanteision amrywiol i blant, a chyda’r argyfwng costau byw presennol mae llyfrgelloedd yn cynnig gofod diogel a chynnes, sy’n llawn llyfrau anhygoel a fydd yn ysbrydoli plant o bob oed ac yn effeithio’n gadarnhaol ar eu bywydau yn y dyfodol.”
Ymunodd Coelho â Llyfrgell Llanbedr Pont Steffan ar ddiwedd ei ymweliad.
I gael rhagor o wybodaeth a dod o hyd i lyfrau yn eich llyfrgell leol, ewch i wefan Llyfrgell Ceredigion.
Clwb Lego Aberaeron
Dydd Llun 1af y Mis yn Llyfrgell Aberaeron rhwng 3:45yp a 5yp. I gofrestru e-bostiwch siriol.teifi3@ceredigion.gov.uk.