Gorchmynion Rheoleiddio Traffig arfaethedig a rhai a gyflwynwyd yn ddiweddar/Gorchmynion Traffig Arbrofol cyfredol
Mae'r Cyngor yn cynnig gwneud Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Dadlwytho) 2019 (Maes Mwldan, Aberteif) (Gorchymyn Diwygiedig Rhif 14) 2025. Bydd y Gorchymyn hwn yn cyflwyno cilfach aros am gyfnod cyfyngedig newydd 35m o hyd o bwynt 1m i'r de o wal ogleddol y fynedfa i Gartref Gofal Maes Mwldan ar Stryd y Baddondy ar ei ochr ddwyreiniol, Llun - Sadwrn, 8am - 6pm, 1 awr, dim dychwelyd o fewn 2 awr. Byddai hyn yn disodli safle bws nas defnyddiwyd a pharth gollwng anffurfiol. Gellir archwilio'r manylion yn Swyddfa'r Cyngor ar Stryd Morgan, Aberteifi. Dylid anfon gwrthwynebiadau, gan nodi rhesymau’n ysgrifenedig at: clic@ceredigion.gov.uk neu'r Gwasanaethau Cyfreithiol, trwy law Ystafell y Post, Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE i gyrraedd erbyn 15/04/2025.
DATGANIAD O’R RHESYMAU
Mae Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Dadlwytho) 2019 (Maes Mwldan, Aberteifi) (Gorchymyn Diwygiedig Rhif 14) 2025 ar sail sicrhau bod traffig cerbydol a thraffig arall (gan gynnwys cerddwyr) yn symud yn gyflym, yn hwylus ac yn ddiogel a darparu digon o gyfleusterau parcio addas.
Cynlluniau i'w dirymu
CE81-H23
Cynlluniau i'w mewnosod
CE81-H23
Hysbysiad Cyhoeddus
Mae'r Cyngor yn cynnig gwneud Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Terfynau Cyflymder 20 mya, 30 mya, 40 mya a 50 mya a Ffyrdd a Ddatgyfyngwyd) (Cydgrynhoi) 2014 (Gogerddan A4159 a C1010) (Gorchymyn Diwygio Rhif 27) 202x.
Bydd hyn yn cyflwyno terfyn cyflymder parhaol o 40mya ar yr A4159 ger y groesffordd yng Ngogerddan, gan ddisodli'r terfyn 50mya presennol. Bydd hefyd yn cyflwyno terfyn cyflymder 30mya parhaol newydd ar ran orllewinol y C1010 o'r gyffordd â'r A4159, ar y groesffordd yng Ngogerddan i'w chyffordd â'r A487 ger Ffynnon Caradog. Gallwch weld y manylion yn Swyddfa’r Post Bow Street, Bow Street, Aberystwyth SY24 5AX. Gallwch anfon gwrthwynebiadau, gan nodi’r rhesymau yn ysgrifenedig, at clic@ceredigion.gov.uk neu i’r Gwasanaethau Cyfreithiol, drwy law Ystafell y Post, Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE i gyrraedd erbyn 02/01/2025.
Datganiad o'r Rhesymau
Mae Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Terfynau Cyflymder 20 mya, 30 mya, 40 mya a 50 mya a Ffyrdd a Ddatgyfyngwyd) (Cydgrynhoi) 2014 (Gogerddan A4159 ac C1010) (Gorchymyn Diwygio Rhif 27) 202x yn cael ei gynnig ar sail diogelwch ffyrdd, a chydgysylltu â mesurau ar Llwybrau Teithio Llesol newydd.
Cynlluniau i'w dirymu
Cynlluniau i'w mewnosod
Hysbysiad Preifatrwydd
Yn unol â Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1996, mae'n ofynnol i ni gasglu eich enw a'ch manylion cyswllt fel y gallwn ymateb i bob person sy'n codi gwrthwynebiad. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd Ymgynghoriad Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1996.
Hysbysiad Cyhoeddus
Mae'r Cyngor yn cynnig gwneud Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Dadlwytho) 2019 (Glannau Môr Aberystwyth) (Lleoedd a Thaliadau Parcio) (Gorchymyn Diwygiedig Rhif 13) 202x er mwyn cyflwyno newidiadau i’r cyfyngiadau parcio a nodir isod.
Rhif y Lleoliad | Lleoliad | Disgrifiad |
---|---|---|
1 | Rhodfa Fuddug, pen y gogledd ar ochr y môr, o’r Gwaharddiad presennol ar Aros ar Unrhyw Adeg, gan gynnwys y man troi, i gyfeiriad y de am bellter o 233m. | Cilfan newydd Talu ac Arddangos/ Talu drwy ffôn, 8am-8pm, 4 awr, dim dychwelyd o fewn 4 awr, yn lle’r Aros Cyfyngedig presennol, Llun - Sadwrn, 8am-6pm, 4 awr, dim dychwelyd o fewn 4 awr. |
2 | Rhodfa Fuddug, pen y gogledd ar yr ochr fewndirol, o’r Gwaharddiad presennol ar Aros ar Unrhyw Adeg, gan gynnwys y man troi, i gyfeiriad y de am bellter o 168m. | Gwaharddiad newydd ar Aros 8am-8pm yn lle’r Gwaharddiad presennol ar Aros 9am-6pm. |
3 | Rhodfa Fuddug, ar yr ochr fewndirol o ben deheuol y gwaharddiad uchod, i gyfeiriad y de am bellter o 35m. | Gwaharddiad newydd ar Aros ar Unrhyw Adeg yn lle’r Gwaharddiad presennol ar Aros 9am-6pm. |
4 | Heol yr Orsaf Heddlu, ochr ogleddol, o’i chyffordd â Rhodfa Fuddug i gyfeiriad y dwyrain am bellter o 8m. | Gwaharddiad newydd ar Aros ar Unrhyw Adeg yn lle’r Gwaharddiad presennol ar Aros 9am-6pm. |
5 | Heol yr Orsaf Heddlu, ochr ogleddol, o ben dwyreiniol y gwaharddiad uchod, i gyfeiriad y dwyrain am bellter o 14m. | Gwaharddiad newydd ar Aros ar Unrhyw Adeg 8am-8pm (dim cyfyngiad presennol) i gwrdd â phen gorllewinol y Gwaharddiad presennol ar Aros ar Unrhyw Adeg. |
6 | Heol yr Orsaf Heddlu, ochr ddeheuol, o’i chyffordd â Rhodfa Fuddug i gyfeiriad y dwyrain am bellter o 15m. | Gwaharddiad newydd ar Aros ar Unrhyw Adeg yn lle’r Gwaharddiad presennol ar Aros 9am-6pm, i gwrdd â phen gorllewinol y Gwaharddiad presennol ar Aros ar Unrhyw Adeg. |
7 | Rhodfa Fuddug, ar yr ochr fewndirol o ben deheuol y Gwaharddiad newydd ar Aros ar Unrhyw Adeg yn lleoliad 3 uchod, i gyfeiriad y de am bellter o 30m. | Gwaharddiad newydd ar Aros 8am-8pm yn lle’r Gwaharddiad presennol ar Aros 9am-6pm. |
8 | Rhodfa Fuddug, ar yr ochr fewndirol, o ddiwedd y cyfyngiad yn lleoliad 7, i gyfeiriad y de am bellter o 4m. | Gwaharddiad newydd ar aros 8am-8pm yn lle’r Gwaharddiad presennol ar aros 9am-6pm. |
9 | Maes Albert, ochr ogleddol, o 8m i’r dwyrain o’i chyffordd â Rhodfa Fuddug, i gyfeiriad y dwyrain am bellter o 20m. | Gwaharddiad newydd ar Aros ar Unrhyw Adeg yn lle’r Gwaharddiad presennol ar Aros 9am-6pm, i gwrdd â phen gorllewinol y Gwaharddiad presennol ar Aros ar Unrhyw Adeg wrth y gyffordd â Morfa Mawr. |
10 | Coedlan y Frenhines, ochr ogleddol, o bwynt 27m i’r dwyrain o’i chyffordd â Morfa Mawr, i gyfeiriad y dwyrain am bellter o 31m. | Gwaharddiad newydd ar Aros ar Unrhyw Adeg yn lle’r Gwaharddiad presennol ar Aros 9am-6pm, i gwrdd â’r Gwaharddiad presennol ar Aros ar Unrhyw Adeg wrth y gyffordd â Ffordd y Gogledd. |
11 | Coedlan y Frenhines, ochr ddeheuol, o bwynt 10m i’r dwyrain o’i chyffordd â Morfa Mawr, i gyfeiriad y dwyrain am bellter o 47m. | Gwaharddiad newydd ar Aros ar Unrhyw Adeg yn lle’r Gwaharddiad presennol ar Aros 9am-6pm, i gwrdd â’r Gwaharddiad presennol ar Aros ar Unrhyw Adeg wrth y gyffordd â Ffordd y Gogledd. |
12 | Glan y Môr, ar yr ochr fewndirol o’r Gwaharddiad presennol ar Aros ar Unrhyw Adeg wrth ei chyffordd â Maes Albert, i gyfeiriad y de am bellter o 5m. | Gwaharddiad newydd ar Aros ar Unrhyw Adeg yn lle’r Gwaharddiad presennol ar Aros 9am-6pm. |
13 | Glan y Môr, ar ochr y môr o’r Gwaharddiad presennol ar Aros ar Unrhyw Adeg wrth ei chyffordd â Maes Albert, i gyfeiriad y de am bellter o 115m. | Cilfan newydd Talu ac Arddangos/ Talu drwy ffôn, 8am-8pm, 4 awr, dim dychwelyd o fewn 4 awr, yn lle’r Aros Cyfyngedig presennol, Llun - Sadwrn, 8am-6pm, 4 awr, dim dychwelyd o fewn 4 awr. |
14 | Glan y Môr, ar ochr y môr o ben deheuol y cyfyngiad blaenorol, i gyfeiriad y de am bellter o 3m. | Gwaharddiad newydd ar Aros ar Unrhyw Adeg i gwrdd â marciau igam-ogam presennol y groesfan i gerddwyr. |
15 | Glan y Môr, ar yr ochr fewndirol o ben deheuol y Gwaharddiad newydd ar Aros ar Unrhyw Adeg yn lleoliad 12 uchod, i gyfeiriad y de am bellter o 118m. | Gwaharddiad newydd ar Aros ar Unrhyw Adeg 8am-8pm yn lle’r Gwaharddiad presennol ar Aros 9am-6pm i gwrdd â marciau igam-ogam presennol y groesfan i gerddwyr. |
16 | Glan y Môr, ar ochr y môr o ben deheuol marciau igam-ogam presennol y groesfan i gerddwyr, i gyfeiriad y de am bellter o 106m. | Gwaharddiad newydd ar Aros ar Unrhyw Adeg a Gwahardd Llwytho 10am-8pm yn lle’r Gwaharddiad presennol ar Aros a Llwytho 10am-8pm, a lleihau hynna gan 2m ar y pen gogleddol i gwrdd â marciau igam-ogam presennol y groesfan i gerddwyr wrth y gyffordd â Ffordd y Môr. |
17 | Glan y Môr, ar yr ochr fewndirol o ben deheuol marciau igam-ogam presennol y groesfan i gerddwyr, i gyfeiriad y de am bellter o 16m. | Gwaharddiad newydd ar Aros 8am-8pm yn lle’r Gwaharddiad presennol ar Aros 9am-6pm. |
18 | Glan y Môr, ar yr ochr fewndirol o ben deheuol y cyfyngiad yn lleoliad 17 uchod, i gyfeiriad y de am bellter o 90m. | Cilfan newydd Talu ac Arddangos/ Talu drwy ffôn, 8am-8pm, 4 awr, dim dychwelyd o fewn 4 awr, yn lle’r Aros Cyfyngedig presennol, 1 Mai – 30 Medi, Llun - Sadwrn, 9am-6pm, 2 awr, dim dychwelyd o fewn 2 awr. |
19 | Glan y Môr, ar ochr y môr, o 5m i gyfeiriad y de-orllewin o ganol ei chyffordd â Ffordd y Môr, i gyfeiriad y de-orllewin am bellter o 28m. | Cilfan newydd ar gyfer Bws Twristaidd yn unig, 8am-8pm, 15 munud, dim dychwelyd o fewn 1 awr, yn lle’r Gilfan bresennol ar gyfer Bws Twristaidd yn unig, 1 Ebrill – 31 Hydref, 9am-6pm, 15 munud, dim dychwelyd o fewn 1 awr (cyd-fynd â marciau presennol y gilfan). |
20 | Glan y Môr, ar yr ochr fewndirol o ben de-orllewinol y Gwaharddiad presennol ar Aros ar Unrhyw Adeg, wrth ei chyffordd â Ffordd y Môr, i gyfeiriad y de-orllewin ar y cyfan, am bellter o 53m. | Cilfan newydd Talu ac Arddangos/ Talu drwy ffôn, 8am-8pm, 4 awr, dim dychwelyd o fewn 4 awr, yn lle’r Aros Cyfyngedig presennol, 9am-6pm, 1 awr, dim dychwelyd o fewn 1 awr. |
21 | Glan y Môr, ar ochr y môr, o ddiwedd marciau’r Gilfan bresennol ar gyfer Bws Twristaidd yn unig (gweler lleoliad 19) i gyfeiriad y de-orllewin am bellter o 43m. | Cilfan newydd Talu ac Arddangos/ Talu drwy ffôn, 8am-8pm, 4 awr, dim dychwelyd o fewn 4 awr, yn lle’r Aros Cyfyngedig presennol, Llun - Sadwrn, 8am-6pm, 4 awr, dim dychwelyd o fewn 4 awr. |
22 | Glan y Môr, ar ochr y môr, o ben de-orllewinol y cyfyngiad yn lleoliad 21, i gyfeiriad y de-orllewin am bellter o 21m. | Cilfan ar gyfer Deiliaid Bathodyn Anabledd yn unig, 8am-8pm, 4 awr, dim dychwelyd o fewn 4 awr, yn lle’r Gilfan bresennol ar gyfer Deiliaid Bathodyn Anabledd yn unig. |
23 | Glan y Môr, ar ochr y môr, o ben de-orllewinol y cyfyngiad yn lleoliad 22, i gyfeiriad y de-orllewin am bellter o 110m. | Cilfan newydd Talu ac Arddangos/ Talu drwy ffôn, 8am-8pm, 4 awr, dim dychwelyd o fewn 4 awr, yn lle’r Aros Cyfyngedig presennol, Llun-Sadwrn, 8am-6pm, 4 awr, dim dychwelyd o fewn 4 awr. |
24 | Glan y Môr, ar yr ochr fewndirol o ddiwedd y Gwaharddiad presennol ar Aros ar Unrhyw Adeg wrth derfyn rhifau 8 a 9 Glan y Môr, i gyfeiriad y de-orllewin am bellter o 50m. | Cilfan newydd Talu ac Arddangos/ Talu drwy ffôn, 8am-8pm, 4 awr, dim dychwelyd o fewn 4 awr, yn lle’r Aros Cyfyngedig presennol, Llun-Sadwrn, 8am-6pm, 1 awr, dim dychwelyd o fewn 1 awr. |
25 | Glan y Môr, ar yr ochr fewndirol o ben de-orllewinol y cyfyngiad yn lleoliad 24, i gyfeiriad y de-orllewin i gwrdd â’r Gwaharddiad presennol ar Aros ar Unrhyw Adeg wrth y gyffordd â Heol y Wig. | Gwaharddiad newydd ar Aros ar Unrhyw Adeg yn lle’r Aros Cyfyngedig presennol, Llun-Sadwrn, 8am-6pm, 1 awr, dim dychwelyd o fewn 1 awr. |
26 | Maes Lowri, ar yr ochr orllewinol, o’r mynediad i Eglwys San Mihangel i gyfeiriad y de-ddwyrain am bellter o 6m. | Gwaharddiad newydd ar Aros ar Unrhyw Adeg i gyd-fynd â’r gwaharddiad presennol ar ochr y gogledd-orllewin i’r mynediad. |
27 | Stryd y Brenin, ar yr ochr fewndirol o ben gorllewinol y Gwaharddiad presennol ar Aros ar Unrhyw Adeg wrth y gyffordd â Maes Lowri, i gyfeiriad y de-orllewin am bellter o 109m. | Cilfan newydd Talu ac Arddangos/ Talu drwy ffôn, 8am-8pm, 4 awr, dim dychwelyd o fewn 4 awr, a Gwaharddiad ar Aros ar gyfer Carafanau a Chartrefi Modur, 11pm-8am, yn lle’r Aros Cyfyngedig presennol, Llun - Sadwrn, 8am-6pm, 2 awr, dim dychwelyd o fewn 2 awr, a gyflwynir gan Orchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Dadlwytho) 2019 (Glannau Môr Aberystwyth) (Gorchymyn Diwygiedig Rhif 11) 2024. |
28 | Rhodfa Newydd, ar ochr y môr, o bwynt 69m i gyfeiriad y gorllewin o ganol ei chyffordd â Heol y Wig, i gyfeiriad y de-orllewin am bellter o 55m. | Cilfan newydd Talu ac Arddangos/ Talu drwy ffôn, 8am-8pm, 4 awr, dim dychwelyd o fewn 4 awr, a Gwaharddiad ar Aros ar gyfer Carafanau a Chartrefi Modur, 11pm-8am, yn lle’r Aros Cyfyngedig presennol, Llun - Sadwrn, 8am-6pm, 4 awr, dim dychwelyd o fewn 4 awr, a’r Gwaharddiad ar Aros ar gyfer Carafanau a Chartrefi Modur, 11pm-8am a gyflwynir gan Orchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Dadlwytho) 2019 (Glannau Môr Aberystwyth) (Gorchymyn Diwygiedig Rhif 11) 2024. |
29 | Rhodfa Newydd, ar ochr y môr, o bwynt 22m i gyfeiriad y de-orllewin o ben de-orllewinol y cyfyngiad yn lleoliad 29, i gyfeiriad y de-orllewin am bellter o 90m. | Cilfan newydd Talu ac Arddangos/ Talu drwy ffôn, 8am-8pm, 4 awr, dim dychwelyd o fewn 4 awr, a Gwaharddiad ar Aros ar gyfer Carafanau a Chartrefi Modur, 11pm-8am, yn lle’r Aros Cyfyngedig presennol, Llun - Sadwrn, 8am-6pm, 4 awr, dim dychwelyd o fewn 4 awr, a’r Gwaharddiad ar Aros ar gyfer Carafanau a Chartrefi Modur, 11pm-8am a gyflwynir gan Orchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Dadlwytho) 2019 (Glannau Môr Aberystwyth) (Gorchymyn Diwygiedig Rhif 11) 2024. |
Gwybodaeth Atodol - Darllenwch Cyn Ymateb
Datganiad o'r Rhesymau
Mae Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Dadlwytho) 2019 (Glan Môr Aberystwyth) (Lleoedd Parcio a Thaliadau) (Gorchymyn Diwygio Rhif 13) 2025 yn cael ei gynnig am y rhesymau canlynol:
- Cynyddu trosiant y cerbydau sy’n parcio ar y stryd, ac felly hybu masnachu
- Annog pobl i ddefnyddio mwy o drafnidiaeth gyhoeddus ac i fynd o un dull teithio i’r llall
- Lleihau tagfeydd traffig a gwella llif y traffig mewn mannau sensitif yn y dref
- Hyrwyddo rhagor o deithio llesol
Map Mawr gyda Hysbysiad Lleoliad
Cynlluniau i'w Dirymu
Cynlluniau i'w Mewnosod