Hysbysiadau Lleol i Forwyr a Threfniadau Awdurdod Goleudy Lleol
Mae Hysbysiadau i Forwyr yn cael eu hysbysu er mwyn cynghori ynghylch gwybodaeth diogelwch llywio hanfodol. Mae hysbysiadau i Forwyr wedi’u cyhoeddi isod ac yn cael eu diweddaru pan fo rhai newydd yn cael eu cyflwyno. Mae hysbysiadau i Forwyr hefyd yn cael eu danfon trwy e-bost i randdeiliaid perthnasol, a’r rheiny sydd wedi gofyn i gael eu cynnwys yn rhestr bostio Hysbysiadau i Forwyr. Os hoffech gael eich cynnwys i restr bostio Hysbysiadau Lleol i Forwyr, cysylltwch â’r Tîm Gwasanaethau Harbyrau gan ddefnyddio’r manylion ar y tudalen Cysylltwch â ni.
Dylai holl forwyr a defnyddwyr yr harbyrau lywio yn ofalus gan ddefnyddio’r holl ddulliau priodol , a dylid sicrhau bod yr holl offer llywio a chyhoeddiadau yn cael eu cynnal mewn cyflwr gwaith da ac yn parhau i fod yn gyfredol.
Hysbysiadau a gyhoeddwyd gan Gyngor Sir Ceredigion i Forwyr:
CN Rhif 06.24 Cei NEwydd - cyhoeddwyd 09/12/2024
AE Rhif 10.24 Aberaeron - cyhoeddwyd 23/10/2024
AE Rhif 09.24 Aberaeron - cyhoeddwyd 16/10/2024
AE Rhif 05.24 Cei Newydd - cyhoeddwyd 12/09/2024
AE Rhif 08.24 Abeaeron - cyhoeddwyd 15/08/2024
AE Rhif 07.24 Abeaeron - cyhoeddwyd 19/07/2024
NQ Rhif 04.24 Cei Newydd - cyhoeddwyd 09/07/2024
AE Rhif 06.24 Abeaeron - cyhoeddwyd 05/07/2024
AT Rhif 01.24 Afon Teifi - cyhoeddwyd 03/07/2024
AE Rhif 05.24 Aberaeron - cyhoeddwyd 26/06/2024
AB Rhif 02.24 Clarach - cyhoeddwyd 20/06/2024
AE Rhif 01.24 Aberystwyth - cyhoeddwyd 14/06/2024
AE Rhif 04.24 Aberaeron - cyhoeddwyd 30/04/2024
AE Rhif 03.24 Aberaeron - cyhoeddwyd 17/04/2024
AE Rhif 02.24 Aberaeron - cyhoeddwyd 13/03/2024
CN Rhif 03.24 Cei Newydd - cyhoeddwyd 06/03/2024
CN Rhif 02.24 Cei Newydd - cyhoeddwyd 06/03/2024
CN Rhif 01.24 Cei Newydd - cyhoeddwyd 04/03/2024
AE Rhif 01.24 Aberaeron - cyhoeddwyd 19/01/24
AE Rhif 02.23 Aberaeron - cyhoeddwyd 27/11/2023
AB (DD) Rhif 07.22 Aberystwyth - cyhoeddwyd 04/10/2022
Wrth lywio o fewn neu ger Bae Ceredigion, rhaid bod yn ymwybodol o Hysbysiadau Lleol i Forwyr wrth holl Awdurdodau Goleudai a Harbyrau Lleol a rhanddeiliaid perthnasol. Gellir dod o hyd i hysbysiadau a gyhoeddir gan yr Awdurdod Goleudy Lleol a rhanddeiliaid sy’n cyhoeddi Hysbysiadau Lleol i Forwyr a gwybodaeth i forwyr isod:
- Tudalen Rhybuddion Morwriaeth Lleol Cyngor Gwynedd
- Tudalen Harbwr Cyngor Sir Penfro
- Tudalen Notice to Mariners Port of Milford Haven
- Tudalen Information for Mariners MOD Aberporth
- Gwybodaeth Diogelwch Morol Porthladd Abergwaun
Trefniadau Awdurdod Goleudai Lleol
Cyngor Sir Ceredigion yw’r Awdurdod Goleudai Lleol ar gyfer yr arfordir rhwng Ynyslas a Gwbert. Mae hyn yn cynnwys cyfrifoldeb dros Gymorth i Lywio (golau llywio, marciau llywio a bwoi) yn Harbyrau Aberystwyth, Aberaeron a Chei Newydd. Mae’r Tîm Gwasanaethau Harbyrau yn rheoli, archwilio a chynnal y Cymorth i Lywio yn yr harbyrau hynny y maent y gyfrifol amdanynt, yn unol â gofynion Côd Diogelwch Porthladd Morol, Trinity House a gofynion IALA.
Gofynnir i ddefnyddwyr yr harbwr a'r rhai sy'n llywio ar hyd yr arfordir i roi gwybod i'r Tîm Gwasanaethau Harbwr os byddant yn dod yn ymwybodol o ddiffygion i unrhyw eitem Cymorth i Lywio, neu unrhyw beth a allai effeithio ar ddiogelwch mordwyo. Gall hyn gynnwys:
- Golau wedi’i ddiffodd
- Marc/arwydd ar goll o’r orsaf
- Marc uchaf (top mark) coll
- Marc heb ei gofnodi
- Perygl neu ddrylliad llywio heb ei farcio
- Man bas neu dir gwag heb ei gofnodi
- Unrhyw beth arall sydd yn eich barn chi yn effeithio ar ddiogelwch llywio
Gellir dod o hyd i wybodaeth gyswllt ar y tudalen Cysylltwch â ni.