Cynllun Cyngor i’r Gymuned - Severn Wye
Cael hi’n anodd talu eich biliau ynni? Ydych chi'n teimlo'n gynnes yn y cartref? Elusen cynaliadwyedd yw Severn Wye sy'n gweithio'n bennaf yng Nghymru a siroedd y gororau yn Lloegr.
Wedi'i ariannu gan Gynllun Gwirfoddol Gwneud Iawn y Diwydiant Ynni, mae Severn Wye yn cynnig cefnogaeth am ddim i drigolion Ceredigion gan gynnwys:
- Cymorth o ran dyledion tanwydd
- Cyngor ar garbon monocsid
- Cyngor ar y Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth
- Cyngor ar effeithlonrwydd ynni a biliau
- Ymgysylltu gyda'ch cyflenwr
Os ydych chi'n teimlo eich bod wedi'ch llethu gan ynni cartref ac angen rhywun ar eich ochr chi, gallwch anfon e-bost at Severn Wye ‒ communityadvice@severnwye.org.uk ‒ i drefnu apwyntiad cyfrinachol neu ffonio tîm Severn Wye ar 0800 170 1600 rhwng dydd Llun a dydd Gwener, 9am tan 5pm i weld a all cynghorydd yn y gymuned gynnig ymweliad am ddim â’ch cartref. Gallwch hefyd ymweld â thudalen we Advice and support Severn Wye i lenwi ffurflen gyswllt.