
Cymorth Ariannol
Arian a Materion Ariannol
Prinder arian yw un o’r rhwystrau sy’n aml yn atal pobl rhag adnewyddu eiddo i’w rentu neu’i werthu.
Isod, cewch hyd i wybodaeth am ffrydiau ariannu posibl ac am faterion ariannol eraill. Os yw unrhyw un o’r cynlluniau ariannu isod o ddiddordeb i chi, cysylltwch â’r Tîm Tai i gael mwy o wybodaeth.
Troi Tai'n Gartrefi
Mae benthyciadau Troi Tai’n Gartrefi ar gael i sicrhau bod cartrefi gwag (cartrefi sydd wedi bod yn wag am o leiaf 6 mis) yn cael eu defnyddio eto drwy eu gwerthu neu’u rhentu. O dan y cynllun, bydd benthyciadau di-log ar gael. Bydd modd defnyddio’r arian fel a ganlyn:
- benthyciadau i adnewyddu eiddo i’w werthu – bydd angen ad-dalu’r benthyciadau hyn cyn pen 2 flynedd
- benthyciadau i adnewyddu eiddo i’w rentu llawn amser – bydd angen ad-dalu’r benthyciadau hyn cyn pen 5 blynedd
Bydd yr arian ar gael cyn i’r gwaith ddechrau i sicrhau bod gan berchnogion gyfalaf gweithio. Gellir rhoi benthyciadau i unigolion (disgwylir 3 mis o slipiau cyflog), elusennau (3 blynedd o gyfrifon), cwmnïau/busnesau (3 blynedd o gyfrifon).
Bydd uchafswm y benthyciad yn £35,000 fesul uned lety, hyd at uchafswm o £250,000 fesul ymgeisydd. Bydd benthyciadau yn cael eu sicrhau fel tâl cyntaf neu ail dâl yn erbyn Teitl y Gofrestrfa Tir.
Gweler ein tudalen Troi Tai'n Gartrefi - Benthyciad Eiddo Gwag am ragor o fanylion.
Cynllun Grantiau Cartrefi Gwag Cenedlaethol
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn rhan o Gynllun Grantiau Cartrefi Gwag Cenedlaethol Llywodraeth Cymru.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi unigolion i adnewyddu cartrefi gwag er mwyn adfywio cymunedau a darparu tai y mae mawr eu hangen ledled Cymru.
Mae grantiau o hyd at £25,000 ar gael i berchnogion tai neu ddarpar berchnogion i adnewyddu tai gwag er mwyn eu gwneud yn ddiogel i fyw ynddynt ac i wella’u heffeithlonrwydd ynni.
Gweler ein tudalen Y Cynllun Grantiau Cartrefi Gwag Cenedlaethol am ragor o wybodaeth.
Cynllun Lesio Cymru
Cynllun peilot a gefnogir gan Lywodraeth Cymru yw Cynllun Lesio Cymru sydd â’r nod o alluogi mwy o bobl i rentu tai fforddiadwy, o safon, dros gyfnod hir yn y sector rhentu preifat. Yn gyfnewid am ddarparu eich eiddo, mae’r cynllun yn cynnig y canlynol i landlordiaid: Lesoedd gyda Chyngor Sir Ceredigion am gyfnodau o rhwng 5 ac 20 mlynedd, gan ddibynnu ar amodau; pecyn llawn o ran rheoli’r eiddo, gan gynnwys atgyweirio a chynnal a chadw; incwm rhent wedi ei warantu am oes y les, hyd yn oed pan na fo tenant yn yr eiddo; hyd at £5000, fel grant, i wella'r eiddo er mwyn sicrhau ei fod o'r safon y cytunwyd arni neu i gynyddu sgôr yr EPC i lefel C. Mae cyllid grant ychwanegol posib o hyd at £25,000 ar gael ar gyfer eiddo gwag. Bydd lleoliad a chyflwr yr eiddo yn helpu i lywio a fydd y cynllun ar gael i chi. Ystyrir pob cais yn unigol.
Gweler ein tudalen Cynllun Lesio Cymru am ragor o fanylion.
Treth y Cyngor
Mae eithriad 6 mis ar gyfer eiddo sydd heb ei ddodrefnu, ac mae eithriad 12 mis ar gael ar gyfer eiddo heb ei ddodrefnu lle mae gwaith atgyweirio mawr yn cael ei gynnal er mwyn ei wneud yn addas i fyw ynddo. Pan fydd eiddo wedi bod yn wag a heb ddodrefn am fwy na 12 mis, rhaid talu premiwm Treth Cyngor, sef 100% ychwanegol.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar tudalen Treth y Cyngor.
Cymhelliad Treth
Gostyngiadau TAW er mwyn adnewyddu tai gwag
Gan mwyaf, rhaid talu TAW ar gostau adnewyddu neu addasu cartref gwag i’w ddefnyddio eto. Ond, mewn sawl achos, codir TAW ar waith adeiladu ar gyfradd ostyngedig neu gyfradd sero. Os ydych chi’n bwriadu adnewyddu cartref gwag, mae’n bwysig eich bod yn deall y cyfraddau hyn, oherwydd anaml iawn y mae adeiladwyr yn gwybod am y gwahanol gyfraddau TAW. Gallech dalu gormod o TAW a gall fod yn anodd hawlio unrhyw TAW gormodol yn ôl. Cewch hyd i’r holl ganllawiau ynghylch TAW ar waith adeiladu yn hysbysiadau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC), sef Hysbysiad 708 os ydych yn defnyddio adeiladwyr a Hysbysiad 431c os ydych yn cyflawni’r gwaith eich hunan.
TAW ar gyfradd ostyngedig
Os ydych yn defnyddio adeiladwyr sydd wedi’u cofrestru at ddibenion TAW, a bod yr eiddo wedi bod yn wag am fwy na dwy flynedd cyn i’r gwaith ddechrau, a’i fod yn cael ei ddefnyddio at ddibenion preswyl yn unig ar ôl i’r gwaith ddod i ben, mae’n bosib y bydd y gwaith yn gymwys am TAW ar gyfradd ostyngedig (5% ar hyn o bryd). Mae mwy o fanylion ar gael ar tudalen Buildings and construction (VAT Notice 708) y Llywodraeth. Nid oes cyfradd TAW ostyngedig o’r fath ar gael os byddwch yn cyflawni’r gwaith eich hunan.
TAW ar gyfradd sero (defnyddio adeiladwyr)
Os ydych yn defnyddio adeiladwyr, rhaid bod y cartref wedi bod yn wag am fwy na deng mlynedd cyn i’r gwaith ddechrau, a rhaid iddo gael ei ddefnyddio at ddibenion preswyl yn unig ar ôl i’r gwaith ddod i ben. Mewn achos o’r fath, mae’n bosibl na chodir TAW o gwbl. Mae mwy o fanylion ar gael ar tudalen Buildings and construction (VAT Notice 708) y Llywodraeth.
TAW ar gyfradd sero (cyflawni’r gwaith eich hunan)
Os yw’r eiddo wedi bod yn wag am fwy na deng mlynedd ac os bydd yn cael ei ddefnyddio at ddibenion preswyl yn unig ar ôl i’r gwaith ddod i ben, ni chodir TAW ar ddeunyddiau adeiladu. Bydd angen i chi dalu’r holl gostau, gan gynnwys TAW, i’ch cyflenwyr ac yna hawlio’r TAW yn ôl oddi wrth Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Mae mwy o fanylion ar gael ar dudalen Reclaim VAT on a self build home y Llywodraeth.
Profi am ba hyd mae cartref wedi bod yn wag
Ym mhob un o’r tri achos uchod, bydd angen i chi brofi am ba hyd mae’r eiddo wedi bod yn wag. Un ffordd o wneud hyn yw gofyn i’r cyngor am lythyr sy’n cadarnhau am ba hyd mae’r eiddo wedi bod yn wag yn ôl ei gofnodion ef. Os na all y cyngor ddarparu llythyr o’r fath, efallai y bydd modd i chi gael tystiolaeth o ba mor hir mae’r eiddo wedi bod yn wag o’r gofrestr etholiadol (mae’r gofrestr hon ar gael o swyddfa leol y cyngor neu o’r brif lyfrgell leol) neu drwy gael gwybodaeth gan gwmnïau’r cyfleustodau ynghylch datgysylltu cyflenwadau. Os nad oes modd i chi ddangos bod yr eiddo wedi bod yn wag am fwy na dwy flynedd, gall fod modd i chi dalu llai o TAW am resymau eraill, gan gynnwys gosod deunyddiau i arbed ynni, gwneud addasiadau cymeradwy i adeilad rhestredig a ddefnyddir gan elusen, ac addasu adeilad nad yw’n adeilad preswyl yn gartref i’w ddefnyddio gan gymdeithas dai. Ceir rhagor o fanylion am y gostyngiadau hyn ar tudalen Buildings and construction (VAT Notice 708) y Llywodraeth.
Cynlluniau Eraill
Mae cynllun lwfans cyfalaf ar gael hefyd sy’n caniatáu i gostau addasu gofodau gwag uwchben siopau yn fflatiau gael eu gwrthbwyso yn erbyn elw’r busnes. Nid oes llawer yn gwybod am y lwfansau treth hyn, ac yn aml bydd adeiladwyr yn codi TAW ar gyfradd sy’n rhy uchel ar waith adeiladu mewn cartrefi gwag heb yn wybod iddynt. Os ydych chi’n defnyddio adeiladwyr, gwnewch yn siŵr eich bod chi a’r adeiladwyr yn deall pa gyfradd TAW i’w chodi, ac yn cytuno arni, cyn dechrau ar y gwaith. Bydd eich cyfrifydd yn medru eich rhoi ar ben ffordd.
Mae cyfraddau TAW gostyngedig hefyd yn berthnasol i sawl math o waith adeiladu, fel gosod mesurau i arbed ynni, addasu adeilad ar gyfer person anabl, neu addasu adeilad nad yw’n adeilad preswyl yn gartref. Gall y gostyngiadau hyn fod yn berthnasol i waith i droi tŷ gwag yn gartref. Mae mwy o wybodaeth am y gostyngiadau hyn ar gael gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.