Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Cysylltu â Gwaith (CtW)

Logo Cysylltu a Gwaith

Mae Cysylltu â Gwaith yn rhaglen cymorth cyflogaeth am ddim ar gyfer pobl yng Ngheredigion a Phowys sy’n wynebu rhwystrau i ddod o hyd i waith neu i aros mewn gwaith. Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU ac yn cael ei darparu gan Gyngor Sir Powys ar y cyd â Chyngor Sir Ceredigion.

Pwy mae’r rhaglen ar ei chyfer:

Gall Cysylltu â Gwaith gefnogi:

  • Bobl anabl
  • Pobl â chyflyrau iechyd hirdymor
  • Pobl â anghenion iechyd meddwl
  • Pobl neuroamrywiol
  • Unigolion sy’n gwella ar ôl salwch neu sy’n wynebu risg o golli eu swydd
  • Pobl ifanc 16–24 oed, gan gynnwys y rhai ag ADY
  • Unigolion sy’n wynebu rhwystrau cymdeithasol, ariannol neu wledig

Pa gymorth sydd ar gael

Rydym yn cynnig:

  • Cymorth un-i-un gydag ymgynghorydd cyflogaeth
  • Cymorth i ddod o hyd i waith, hyfforddiant neu wirfoddoli
  • Cysylltiadau â chyflogwyr a gwasanaethau lleol
  • Cymorth cyn dechrau gwaith ac yn barhaus unwaith mewn swydd
  • Gwybodaeth gwbl ddwyieithog ac hygyrch

Sut i gael mynediad at y gwasanaeth

Gallwch ymuno â Chysylltu â Gwaith drwy:

Tîm Cymorth Cyflogadwyedd - Mynegiant o Ddiddordeb

  • Cael eich atgyfeirio gan weithiwr proffesiynol (Meddyg Teulu, gweithiwr iechyd, DWP, ysgol, coleg neu sefydliad gwirfoddol)
  • Mynychu un o’n sesiynau galw heibio neu ddigwyddiadau yn y gymuned
  • Cefnogaeth i gyflogwyr

Rydym yn gweithio gyda busnesau o bob maint i hyrwyddo recriwtio cynhwysol.

Gall cyflogwyr gael mynediad at:

  • Cyngor ar recriwtio cynhwysol
  • Canllawiau ar arferion da
  • Cymorth i gysylltu â darpar ymgeiswyr

Cysylltwch â ni

Am ragor o wybodaeth am Cysylltu â Gwaith, e-bostiwch TCC-EST@ceredigion.gov.uk.