Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ymgeiswyr llwyddiannus yn dechrau ar eu hastudiaethau dichonoldeb i optimeiddio gridiau gwledig drwy gymunedau amaethyddol

Mae Tyfu Canolbarth Cymru yn falch o gyhoeddi'r pum ymgeisydd sydd wedi llwyddo i gael cyllid i gynnal astudiaethau dichonoldeb i ddatgarboneiddio amaethyddiaeth.

Bydd y prosiectau'n archwilio atebion arloesol sy'n defnyddio dull systemau cyfan o ddeall rôl amaethyddiaeth a diwydiannau'r tir o ran gwneud datgarboneiddio'n bosibl ar draws cymunedau gwledig.

Mae'r cyllid ar gyfer y prosiectau wedi'i gael drwy Gronfa Her Ymchwil ac Arloesi Systemau Cyfan ar gyfer Datgarboneiddio (WSRID) Llywodraeth Cymru.

Mae gan Ganolbarth Cymru wledig gymuned amaethyddol gref, sy'n sector economaidd hanfodol sy'n cynnig cyflogaeth helaeth ar draws y rhanbarth. Mae'r Cynlluniau Ynni Ardal Leol ar gyfer Powys a Cheredigion yn tynnu sylw at yr angen brys am fuddsoddiad o £559 miliwn mewn seilwaith grid i gefnogi'r broses trawsnewid ynni i sero net. Fodd bynnag, gall atebion clyfar ac arloesol sy'n integreiddio amaethyddiaeth leihau'r gost hon a chyflymu cynnydd.

Mae'r prosiectau hyn yn y cam astudiaeth ddichonoldeb ar hyn o bryd, sy'n golygu y bydd angen gwneud mwy o waith cyn i unrhyw gamau gweithredu gael eu cymryd yn y dyfodol.

Dyma'r ymgeiswyr llwyddiannus ynghyd â chrynodeb o ffocws eu hastudiaethau:

  • Asiantaeth Ynni Hafren Gwy - Helpu busnesau i leihau'r galw am ynni: Gan ganolbwyntio ar weithredu Systemau Ynni Lleol Clyfar mewn parciau diwydiannol a busnes, nod y prosiect hwn yw lleihau'r galw am ynni ar y grid drwy gynhyrchu ynni adnewyddadwy lleol a storio ynni mewn batris. Wedi'i leoli yn Llandysilio ger Y Trallwng.
  • Y Ganolfan Cydraddoldeb Ynni - HARVEST (Holistic Agriculture and Rural Virtual Energy System Transition): Gan ddefnyddio model datganoledig sy'n eiddo i'r gymuned, dyma orsaf bŵer rithwir a fyddai'n cysylltu cartrefi, busnesau a systemau ynni adnewyddadwy ar ffermydd—fel paneli solar a batris. Wedi'i leoli yn Llanidloes.

  • Challoch Energy - Ynni gwledig i bentrefi yng Nghanolbarth Cymru:  Gwerthuso'r potensial ar gyfer datblygu system ynni integredig leol yn y gymuned a fydd yn datgarboneiddio'r gymuned ac yn cynnig manteision ariannol drwy fwy o ynni fforddiadwy.

  • Lafan a Choleg Sir Gâr - Defnydd cynaliadwy o slyri da byw ar gyfer cynhyrchu adnewyddadwy, optimeiddio grid ac allforio maethynnau gweddilliol i ganolfan driniaeth ganolog: Ymchwilio i ffyrdd o ddefnyddio slyri da byw (cymysgedd o dail a dŵr o ffermydd) i gynhyrchu ynni adnewyddadwy. Bydd hyn yn cynnwys y nod ychwanegol o adennill maethynnau defnyddiol o'r slyri a dod o hyd i ffyrdd o wella sut mae'r grid ynni'n gweithio, gan ei wneud yn fwy effeithlon a chynaliadwy.

  • Water to Water - Llaeth Sero Net Cyntaf Cymru: Gan weithio mewn partneriaeth â First Milk, nod y prosiect yw dangos potensial Systemau Ynni Lleol Clyfar ar ffermydd llaeth, a fydd yn ei gwneud yn bosibl i fod yn hunangynhaliol o ran ynni gan sicrhau ar yr un pryd sefydlogrwydd ariannol hirdymor ac ysgogi'r potensial i gyflymu'r defnydd o ynni adnewyddadwy mewn cymunedau gwledig.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a'r Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys: "Mae'r prosiectau hyn yn dangos ysbryd arloesol ein rhanbarth. Drwy archwilio sut gall amaethyddiaeth a diwydiannau'r tir gyfrannu at ddatgarboneiddio, rydym yn gosod y sylfaen ar gyfer Canolbarth Cymru sy'n fwy cynaliadwy a gwydn. Drwy gydweithio a meddwl yn arloesol, mae'r astudiaethau dichonoldeb hyn yn gam hanfodol tuag at fynd i'r afael â newid hinsawdd a chefnogi ein cymunedau a'n heconomïau gwledig ar yr un pryd."

I gael rhagor o fanylion am Gronfa Her WSRID a'r prosiectau llwyddiannus, ewch i https://www.tyfucanolbarth.cymru/WSRID-CY.

Gwyliwch clip am astudiaeth Lafan a Coleg Sir Gâr yma: https://youtu.be/_OSocEC4DmM. Bydd mwy o glipiau am yr astudiaethau eraill ar gael i'w gwylio yn ystod yr wythnosau nesaf. Gallwch gael gwybod am ddatblygiadau diweddaraf Tyfu Canolbarth Cymru drwy danysgrifio i'n llythyr newyddion misol. Anfonwch ebost i tyfucanolbarthcymru@ceredigion.llyw.cymru.