Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Llwyddiant wrth i Geredigion gynnal Pencampwriaethau Seiclo Cymru a Phrydain

Am benwythnos a hanner! Roedd Ceredigion yn gyffro i gyd y penwythnos hwn wrth gynnal Pencampwriaethau Seiclo Cenedlaethol ar y cyd â British Cycling, Llywodraeth Cymru a Beicio Cymru.

Croesawyd y cystadleuwyr gan bobl leol o Geredigion a thu hwnt wrth iddynt gystadlu yn Aberaeron ac yn Aberystwyth yn ystod y rasys amrywiol dros y penwythnos. 

Diolch yn fawr i'r trefnwyr, noddwyr, gwirfoddolwyr, a'r gwasanaethau brys am eu gwaith caled i’n galluogi i gynnal digwyddiad o’r radd flaenaf yn ddiogel.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: "Roedd yn bleser cael cynnal Pencampwriaethau Rasio Prydain yng Ngheredigion, gan roi ein sir ar y llwyfan mawr fel lleoliad arbennig i gynnal digwyddiadau mawreddog o’r radd flaenaf fel y rhain.

"Daeth seiclwyr proffesiynol o bell ac agos i fentro heolydd Ceredigion oedd yn cynnig y cydbwysedd perffaith rhwng bod yn heriol ond hefyd yn hynod o bleserus. Roedd hi hefyd yn wych gweld cymaint o bobl yn ymweld â’n sir gan fwynhau’r holl bethau sydd gan ein busnesau lleol i'w gynnig. Llongyfarchiadau i bawb a fu’n rhan o’r digwyddiad."

Roedd yn wych gweld Pencampwriaethau Beicio Cymru yn cael eu cynnal ar ddydd Sadwrn 28 Mehefin gan gynnwys y rasys beicio ar gyfer disgyblion ysgolion Ceredigion fel rhan o gynllun Beicio Cymru, Ystwyth Cycling a Ceredigion Actif.

Ychwanegodd y Cynghorydd Davies: "Hoffai'r Cyngor ddiolch i'r holl wirfoddolwyr a fu'n rhoi eu hamser yn ystod y penwythnos yn ogystal â chefnogaeth preswylwyr yng Ngheredigion i ni allu cynnal y digwyddiad yn ddiogel." 

I gael y canlyniadau llawn, ewch i www.britishcycling.org.uk/news

 

#
#
#
#
#
#