
Datblygiadau cyffrous ar y gweill i gynnal traddodiad addysg yn Llanbedr Pont Steffan
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a Mr Emlyn Dole, Cadeirydd Cyngor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant:
"Mae Cyngor Sir Ceredigion a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng nghamau cynnar iawn y broses o ganfod cyfleoedd i ddatblygu ymhellach ar y ddarpariaeth sgiliau a hyfforddiant galwedigaethol yng Ngheredigion.
"Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.
“Dyma gyfle cyffrous i archwilio sut y gall Campws y Brifysgol yn Llambed barhau i wneud cyfraniad sylweddol i economi'r ardal a chymuned ehangach Llambed.
"Wrth i'r gwaith hwn fynd yn ei flaen, byddwn yn sicrhau bod y syniadau hyn, yn ogystal â syniadau’r grŵp rhanddeiliaid y mae’r Brifysgol wedi’i gynnull, yn cael eu casglu ynghyd fel y gallwn ni ymgysylltu ymhellach â'r gymuned am ddyfodol campws Llambed."