Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cymeradwyo cyllideb y Cyngor ar gyfer 2025-26

Cymeradwywyd cyllideb Cyngor Sir Ceredigion 2025/26 yng nghyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd heddiw, sef dydd Llun, 3 Mawrth 2025.

Fel pob Awdurdod Lleol ledled Cymru, mae Cyngor Sir Ceredigion yn parhau i wynebu pwysau ariannol sylweddol, lle mae cynnal gwasanaethau wedi’u hariannu’n briodol yn heriol dros ben i’r Cyngor. Ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod, mae'r Cyngor yn wynebu pwysau o ran costau ariannol o oddeutu £11.8m (sy'n cyfateb i gyfradd chwyddiant o 6.1%), ond derbyniwyd cynnydd ariannol gan Lywodraeth Cymru o 3.8% yn unig (gwerth £5.3m).
 
Gosodwyd Cyllideb Cyngor Sir Ceredigion 2025-2026 ar £209.2m. O ganlyniad gwelwyd cynnydd yn Nhreth y Cyngor sy’n cyfateb â 8.7% ar gyfer Gwasanaethau’r Cyngor Sir, gyda chynnydd pellach o 0.6% yn Nhreth y Cyngor i ariannu'r ardoll Tân yn llawn, a osodwyd gan Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, sy'n golygu cynnydd cyffredinol at ddibenion y Cyngor Sir o 9.3%.

Wrth bennu Cyllideb y Cyngor, cytunodd y Cynghorwyr i fuddsoddi £481k yn y Gwasanaeth Casglu Gwastraff a £346k yn y Gwasanaeth Gorfodi Cynllunio, sy’n cyfateb i gyfanswm cynnydd o 1.5% yn Nhreth y Cyngor. Mae effaith cynnydd y Canghellor mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr hefyd wedi cael effaith ariannol sylweddol sy'n cyfateb i gynnydd o 2.9% yn Nhreth y Cyngor, gyda rhan sylweddol o’r cynnydd hyn (ychydig o dan £1m) ei angen i gefnogi'r sector Gofal Cymdeithasol.
 
Mae ein cyllideb wedi'i rhannu fel a ganlyn:
•    Bydd 75% o gyllideb y Cyngor yn cael ei gwario ar wasanaethau Ysgolion a Dysgu Gydol Oes (30%), Gwasanaethau Llesiant Gydol Oes sy'n cynnwys Gofal Cymdeithasol (35%) a Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol (10%).
•    Mae 10% pellach o gyllideb y Cyngor ei angen ar gyfer costau sydd i raddau helaeth yn gostau sefydlog - Ardoll Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, Lwfansau Aelodau, Costau Ariannu Cyfalaf a dyfarniadau eithrio o dan Gynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor.
•    Mae hyn yn gadael 14% ar gyfer costau cynnal holl wasanaethau eraill y Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: "Unwaith eto, mae’r broses o bennu’r gyllideb wedi bod yn un anodd iawn, gan fod y cyllid a dderbynnir gan y llywodraeth ymhell o fod yr hyn sydd ei angen o gydnabod y galw cynyddol a'r gost o redeg gwasanaethau'r Cyngor, yn enwedig i awdurdod sy'n darparu gwasanaethau hanfodol ar draws ardal wledig eang. Am yr ail flwyddyn yn olynol mae Ceredigion wedi derbyn y cynnydd isaf o ran cyllid fesul un o'r boblogaeth yng Nghymru."

"Gwnaed arbedion sylweddol yn y gyllideb yn 2024/25 ac eleni rydym yn cydnabod nad yw trigolion Ceredigion am weld mwy o wasanaethau'n cael eu colli na'u torri ac felly rydym yn ceisio amddiffyn a buddsoddi yn y gwasanaethau allweddol y mae'r cyhoedd yn eu gwerthfawrogi. Wrth bennu cyllideb, mae ystyriaethau allweddol gan gynnwys sicrhau bod y rhai sy’n fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yng Ngheredigion yn cael eu diogelu a pharhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol o ansawdd uchel i'n preswylwyr - fodd bynnag, mae cost ynghlwm â chyflawni'r ddwy agwedd hon."

"Rydyn ni'n gwybod y bydd y cynnydd yn Nhreth y Cyngor yn effeithio ar lawer o aelwydydd yng Ngheredigion. Gall cymorth fod ar gael o dan Gynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor yng Ngheredigion. Mae hwn yn gynllun prawf modd ond byddem yn annog preswylwyr i wirio eu cymhwysedd gan ddefnyddio ein Cyfrifiannell Hawl."

"Rydym yn cael ein hasesu'n barhaus gan reoleiddwyr allanol fel Arolygiaeth Gofal Cymru, Estyn ac Archwilio Cymru yn ogystal â meincnodi ein gwasanaethau gydag Awdurdodau Lleol eraill. Daeth yr adolygiad annibynnol diweddar o berfformiad y Cyngor i'r casgliad ‘Ceir tystiolaeth gref bod y Cyngor yn cyflawni ei swyddogaethau yn effeithiol’ ac ‘o ystyried y galw mawr am wasanaethau ar hyn o bryd a'r pwysau ariannol hynod heriol, mae Cyngor Sir Ceredigion yn awdurdod lleol sy’n cael ei redeg yn dda’. Rwy'n falch o'r Gwasanaethau yr ydym yn parhau i'w cynnig i drigolion Ceredigion a'n Staff sy'n gweithio'n ddiwyd ac yn ddiflino i ddarparu'r gwasanaethau hynny.''
 
Mae rhagor o wybodaeth am Gynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor i’w gweld yma: Budd-dal Tai a Threth y Cyngor - Cyngor Sir Ceredigion a'r Cyfrifiannell Hawl ar gael yma: Budd-daliadau - Cyngor Sir Ceredigion