Cyfle i weithio gyda’r Cyngor i wella cartrefi a hybu annibyniaeth pobl yng Ngheredigion
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn chwilio am gontractwyr adeiladu medrus sydd â diddordeb mewn helpu’r gymuned ehangach, i drawsnewid bywydau trigolion trwy wneud addasiadau hanfodol i’r cartref. Os ydych chi'n gontractwr sy'n chwilio am waith cyson a gwerth chweil sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, dyma'ch cyfle chi i weithio gyda ni.
Mae gweithio gyda Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl yn cynnig nifer o fanteision, megis:
- Llif cyson o brosiectau: Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i wella hygyrchedd i breswylwyr sydd ei angen, ac mae llif parhaus o waith ar gynlluniau ar gael.
- Gwaith amrywiol – O osod rampiau a lifftiau grisiau, addasu ystafelloedd ymolchi a cheginau i estyniadau cartref llawn, mae amrywiaeth o waith ar gael.
- Gwaith gwerthfawr a chydweithio – Rydym yn gwerthfawrogi perthynas waith gref gyda chontractwyr lleol ac yn sicrhau cydymffurfiaeth â’r argymhellion gan therapyddion galwedigaethol.
- Yr effaith leol – Bydd eich gwaith o fudd uniongyrchol i bobl yn eich cymuned, gan eu helpu i fyw'n ddiogel ac yn annibynnol.
I'r rhai sydd â diddordeb mewn darparu addasiadau cartref o ansawdd uchel i'r rhai sydd eu hangen fwyaf yn y sir, dewch i'n digwyddiad Contractwr 'Fframwaith Contractwyr (System Brynu Ddeinamig) Ceredigion' i gyfrannu at y gwaith hanfodol hwn yn y gymuned leol.
Bydd ein Digwyddiad Ymgysylltu â Chontractwyr yn cael ei gynnal yn y Ganolfan Byw'n Annibynnol ym Mhenmorfa, Aberaeron, ar 27 Mawrth rhwng 10am a 3:30pm.
Fel arall, cysylltwch â Rachel O’Dwyer o’r tîm Addasiadau ac Effeithlonrwydd Ynni ar rachel.odwyer@ceredigion.gov.uk i drefnu cyfarfod a dysgu sut i weithio gyda thîm grantiau’r Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet ar gyfer Partneriaethau, Gwasanaethau Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd: “Mae hwn yn gyfle gwych i’r busnesau hynny yn y sir sydd eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl trwy addasiadau hanfodol i’r cartref. Ymunwch â ni i weithio tuag at ddyfodol mwy hygyrch i bobl Ceredigion!”