Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ymgynghoriad talu am barcio ar Bromenâd Aberystwyth

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ymgynghori ar y cynigion i godi tâl am barcio ar hyd rhannau o’r Promenâd yn Aberystwyth.

Cynigir gwneud Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Dadlwytho) 2019 (Glan Môr Aberystwyth) (Lleoedd Parcio a Thaliadau Parcio) (Gorchymyn Diwygio Rhif 13) 202x er mwyn cyflwyno newidiadau i’r cyfyngiadau parcio sy’n dod o dan y Gorchymyn, a hynny er mwyn:

  1. Cynyddu trosiant y cerbydau sy’n parcio ar y stryd, ac felly hybu masnachu.
  2. Annog pobl i ddefnyddio mwy o drafnidiaeth gyhoeddus ac i fynd o un dull teithio i’r llall.
  3. Lleihau tagfeydd traffig a gwella llif y traffig mewn mannau lle ceir llawer o draffig yn y dref.
  4. Hyrwyddo rhagor o deithio llesol.

Caiff trigolion eu hannog i ddarllen y gorchymyn drafft a’r wybodaeth ategol sydd i’w gweld yma Ymgynghoriad ar Leoedd Parcio a Thaliadau Parcio ar lan môr Aberystwyth - Rhagfyr 2024 ac os ydynt yn gwrthwynebu’r cynigion, i naill ai lenwi’r ffurflen ar-lein i gyflwyno’u rhesymau am wrthwynebu (os bydd yr ymateb yn mynd yn fwy na’r nifer o lythrennau a ganiateir, anfonwch eich ymateb i clic@ceredigion.gov.uk gan nodi Pwnc: Ymgynghoriad Cyhoeddus - Gorchymyn Diwygio Rhif 13 Cyngor Sir Ceredigion - Lleoedd Parcio a Thaliadau Parcio Glan Môr Aberystwyth neu anfonwch lythyr yn nodi’r rhesymau am wrthwynebu at y Gwasanaethau Cyfreithiol, drwy law Ystafell y Post, Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE fel na fydd yn cyrraedd yn hwyrach na 27 Rhagfyr 2024.

Gellir bwrw golwg ar y gorchymyn drafft a’r wybodaeth ategol yn swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion yn Llyfrgell Canolfan Alun R. Edwards, Sgwâr y Frenhines, Aberystwyth, SY23 2EB yn ystod oriau gwaith arferol.