Skip to main content

Ceredigion County Council website

Trosglwyddo preswylwyr Tregerddan i Gartref Gofal Hafan y Waun

Mae preswylwyr sy'n byw yng Nghartref Gofal Tregerddan yn Bow Street wedi symud i Gartref Gofal Hafan y Waun yn Aberystwyth yn gynharach yr wythnos hon. Digwyddodd y cam hwn yn dilyn wythnosau o drafodaethau manwl a phroses ymgynghori gyda phreswylwyr, teulu, ffrindiau a staff yng Nghartref Gofal Tregerddan ac amryw o rhanddeiliaid eraill.

Yn ystod mis Awst 2024, gwahoddwyd preswylwyr, staff, teulu a ffrindiau i ymweld â'r cyfleusterau a ddarperir yn Hafan y Waun, sy'n cynnwys ystafelloedd gwely gydag ystafell ymolchi, mannau cymunedol dynodedig fel caffi, ystafell weithgareddau, a lolfeydd amrywiol sy'n helpu pobl i gysylltu â'i gilydd, eu hymwelwyr a'r staff.

Ymwelodd Arolygiaeth Gofal Cymru Gartref Gofal Hafan y Waun ym mis Mehefin 2024 eleni. Yn yr adroddiad, nododd ‘caiff y bobl eu hannog i fod mor annibynnol a chymdeithasol ag y bo modd gan fod yr adeilad wedi'i gynllunio'n dda. Mae'r bobl yn personoli eu hystafelloedd eu hunain fel y mynnant. Mae'r bobl yn defnyddio'r gwahanol ardaloedd i wneud pethau maent yn eu mwynhau, er enghraifft, cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau ysgogol a rhyngweithio â'i gilydd, â'r staff, ac ymwelwyr. Mae'r gerddi'n hygyrch a gall y bobl wneud pethau sy'n bwysig iddynt.’

Nododd yr adroddiad hefyd fod gan bobl lais ac maent yn cyfrannu at y ffordd y caiff y gwasanaeth ei redeg, a bod pobl yn ymddangos yn hapus iawn ac yn fodlon â'r gofal a'r cymorth hynod effeithiol a roddir iddynt. Mae cydgysylltwyr gweithgareddau brwdfrydig yn trefnu amrywiaeth eang o weithgareddau, fel aromatherapi, dawnsio, garddio, barddoniaeth a digwyddiadau â thema. Caiff y gerddi sydd wedi'u dylunio'n dda eu defnyddio mewn tywydd cynhesach ar gyfer gweithgareddau fel garddio ysgafn a gemau pêl. 

Roedd yr ymatebion yn dilyn yr ymweliadau yn hynod gadarnhaol gyda rhai preswylwyr yn gofyn a gallant symud y diwrnod canlynol! 

Mae swyddogion y Cyngor wedi bod yn brysur yn sicrhau bod trefniadau ar waith ar gyfer trosglwyddo preswylwyr a sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu.

Dywedodd Eluned Evans, Merch Phyllis Evans (Kinney), sy'n byw yn Hafan y Waun: “Rydym yn teimlo’n lwcus ei bod hi wedi gallu dod yma ac mor falch bod y Cyngor wedi cymryd drosodd ac yn ystyried barn preswylwyr am eu cartref eu hunain, cartref gofal Hafan y Waun. Hefyd, barn teuluoedd y preswylwyr. Dwi'n teimlo ein bod ni, fel teulu, yn ffodus iawn bod Mam wedi gallu dod i Hafan y Waun.”

"Nid cartref gofal yn unig yw Hafan y Waun, ei chartref hi ydyw. Ni allaf ganmol y staff ddigon, maen nhw'n gofalu am yr holl breswylwyr mor dda gyda chymaint o garedigrwydd. Maen nhw hefyd yn parchu mam fel person.”

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion ac Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Lesiant Gydol Oes: “Hoffwn ddiolch i'r holl staff a gymerodd ran am eu gwaith caled a'u hymroddiad wrth baratoi ar gyfer y cam hwn, a sicrhau yr ymgynghorir â'r preswylwyr, eu teulu a'u ffrindiau er mwyn nodi eu hanghenion a'u blaenoriaethau presennol a pharhaus. Rwyf wedi ymweld â'r cyfleusterau ardderchog a ddarperir yn Hafan y Waun, ac rwy'n gobeithio y bydd ein holl breswylwyr yn teimlo'n gartrefol, ac yn derbyn gofal da gan y staff rhagorol, a'r gefnogaeth a ddarparwyd.”

Mae'r Cyngor yn estyn eu diolch i Gyfeillion Tregerddan sydd wedi rhoi dillad gwely i'r preswylwyr sy'n symud o Dregerddan i Hafan y Waun. Mae'r Cyngor yn edrych ymlaen at gydweithio ymhellach yn y flwyddyn newydd.

Hoffwn ddiolch hefyd i Drafnidiaeth Cymru am ganiatáu defnydd o’u maes parcio fel bod ein staff yn gallu trosglwyddo dodrefn, offer a phreswylwyr yn ddiogel i Hafan y Waun.