Teuluoedd ffoaduriaid o Wcráin yn dod at ei gilydd i ddweud diolch
Cynhaliwyd digwyddiad arbennig yn Aberaeron yn ddiweddar i ddangos gwerthfawrogiad i’r rhai sydd wedi agor eu cartrefi i gynnal teuluoedd o Wcráin sydd wedi cyrraedd Ceredigion i ddod o hyd i ddiogelwch o’r rhyfel yn Wcráin.
Trefnwyd y digwyddiad gan dîm Cydraddoldeb a Chynhwysiant Cyngor Sir Ceredigion ar 9 Tachwedd. Nod y diwrnod hwyl i’r teulu oedd dod â phobl at ei gilydd a chyfle i roi diolch i’r amgylchedd croesawgar sydd wedi’i greu gan drigolion Ceredigion. Thema’r digwyddiad oedd ‘Diolch’.
Agorwyd y digwyddiad gan Grŵp Iwcalili gwych Teifi a diddanodd y gynulleidfa gyda chaneuon adnabyddus y gallai pawb eu canu. Roedd teuluoedd wedi mwynhau peintio serameg, gwneud addurniadau Nadolig traddodiadol o Wcráin, crefftau, rhoi cynnig ar saethyddiaeth, chwarae gêm enfawr cyswllt pedwar a Jenga enfawr. Yn ogystal, roedd peintio wynebau a lluniau i’w cadw fel cofnod o’r diwrnod. Roedd pawb a ddaeth i’r digwyddiad wedi cael y cyfle i rannu bwyd, straeon a chymdeithasu.
Dywedodd Karen Grainger, Gweithiwr Achosion Ffoaduriaid Ceredigion: “Roedd yn ddiwrnod llawn cynhesrwydd, creadigrwydd a’r llawenydd o fod gyda’n gilydd. Roedd yn hyfryd gweld sawl aelod o Aberaid yn y digwyddiad a chael y cyfle i’w diolch am fynd y tu hwnt i’r galw yn eu gwaith i gefnogi ffoaduriaid yn ardal Aberystwyth.”
Roedd amryw o wasanaethau'r Cyngor yn bresennol i gynnig cyngor a chefnogaeth gan gynnwys timau Gofalwyr a Chymunedol Ceredigion, Gwasanaeth Ieuenctid y Cyngor a oedd yn cynnig gwybodaeth a phecynnau urddas mislif i bobl a Ceredigion Actif a ddaeth ag offer chwarae actif er mwyn i’r teuluoedd a’r plant allu chwarae gemau. Roedd partneriaid eraill fel tîm Allgymorth Cymunedol a Thîm Bydwreigiaeth Gymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Diverse Cymru i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth i deuluoedd.
Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a’r Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Bolisi a Pherfformiad sy’n cynnwys ailsefydlu ffoaduriaid: “Rwy’n falch iawn o’r croeso cynnes Cymreig y mae Ceredigion wedi’i gynnig i’r teuluoedd hyn. Maen nhw wedi profi cyfnod mor frawychus yn eu gwledydd cartref ac yn wynebu mwy o ansicrwydd ar gyfer y dyfodol. Rwy’n gobeithio bod y digwyddiad hwn wedi’u helpu i ddod i delerau â’r hyn sydd wedi digwydd a’u bod nhw’n gallu gweld ein hymrwymiad i’w helpu i deimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu croesawu.”
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Adleoli Ffoaduriaid drwy e-bost, clic@ceredigion.gov.uk neu drwy ffonio 01545 570881.