Rhybudd Ambr am wyntoedd cryfion wrth i Storm Darragh daro Ceredigion
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi datgan rhybudd Ambr am wynt a fydd mewn grym o 03:00 dydd Sadwrn 07 Rhagfyr tan 21:00 ddydd Sadwrn 07 Rhagfyr, 2024.
Mae hefyd rhybudd tywydd Melyn am wynt rhwng 15:00 dydd Iau 05 Rhagfyr tan 06:00 dydd Sul 08 Rhagfyr, 2024, a rhybudd tywydd Melyn am law rhwng 15:00 Dydd Gwener 06 Rhagfyr tan 12:00 dydd Sadwrn 07 Rhagfyr, 2024.
Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhagweld gwyntoedd a fydd yn aml yn cyrraedd 60-70mya, a 70-80mya mewn lleoliadau agored ar hyd yr arfordir ar adegau, gyda disgwyliad o 20mm-30mm o law. Gyda rhai rhannau o Gymru yn debygol i weld 50-60mm dros y cyfnod hwn bydd gallu arwain i lifogydd ac amhariad mewn rhannau.
Cynghorir trigolion Ceredigion ac ymwelwyr i fod yn ddiogel a pheidio â gwneud teithiau diangen yn ystod y rhybuddion tywydd.
Atgoffir y cyhoedd i fod yn ofalus wrth deithio oherwydd gall y gwyntoedd arwain at goed yn disgyn a malurion ar briffyrdd. Gofynnir i’r cyhoedd hefyd fod yn wyliadwrus mewn perthynas â’r difrod posibl i adeiladau a strwythurau eraill, a allai arwain at deils a malurion eraill yn disgyn i ardaloedd cyhoeddus.
Gallai’r gwyntoedd hefyd arwain at dorri cysylltiadau pŵer gan effeithio ar wasanaethau’r Cyngor.
Ewch i wefan Y Swyddfa Dywydd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sefyllfa’r tywydd: www.metoffice.gov.uk/
Bydd unrhyw ddiweddariadau pellach i’r sefyllfa yng Ngheredigion yn cael eu cyhoeddi yma: www.ceredigion.gov.uk/StormDarraghCy