PERYGL - Disgwylir tywydd eithafol yng Ngheredigion yn dilyn rhybudd tywydd Coch am wyntoedd cryfion
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi datgan rhybudd Coch am wynt ar gyfer Ceredigion a fydd mewn grym o 03:00 tan 11:00 ar ddydd Sadwrn 07 Rhagfyr 2024. Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhagweld gwyntoedd a fydd yn cyrraedd 90mya neu mwy yn gynnar ar fore Sadwrn.
Cynghorir trigolion Ceredigion ac ymwelwyr i gadw eich hun yn ddiogel ac osgoi trafaelu ar y ffyrdd yn ystod amodau tywydd peryglus, gan efallai bydd difrod eang a tharfu ar bŵer a theithio. Mae bod tu allan mewn gwyntoedd cryfion yn beryg; arhoswch dan do os yw hyn yn bosib.
Gallai’r gwyntoedd arwain at dorri cysylltiadau pŵer gan effeithio ar wasanaethau’r Cyngor. Ceisiwch baratoi ymlaen llaw trwy gasglu tortsh, banciau pŵer ffôn ac eitemau hanfodol eraill.
Mae ardaloedd arfordirol hefyd mewn perygl o donnau mawr. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau.
Atgoffir preswylwyr hefyd o'r angen i aros yn ddiogel y tu allan i gyfnod y rhybudd Coch, oherwydd y rhybudd Ambr sydd hefyd mewn grym rhwng 01:00 a 21:00 ddydd Sadwrn 07 Rhagfyr 2024.
Mae rhybudd Melyn am wynt rhwng 15:00 dydd Iau 05 Rhagfyr tan 06:00 dydd Sul 08 Rhagfyr, 2024 yn parhau i fod mewn grym gan gynnwys y rhybudd tywydd Melyn am law rhwng 15:00 Dydd Gwener 06 Rhagfyr tan 12:00 dydd Sadwrn 07 Rhagfyr, 2024.
Ewch i wefan Y Swyddfa Dywydd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sefyllfa’r tywydd: www.metoffice.gov.uk
Bydd unrhyw ddiweddariadau pellach i’r sefyllfa yng Ngheredigion yn cael eu cyhoeddi yma: www.ceredigion.gov.uk/StormDarraghCy