Parêd Llusernau Enfawr Aberteifi fydd y gorau eto
Mae gorymdaith llusernau ysblennydd wedi’i gynllunio gan Theatr Byd Bach yn Aberteifi ar gyfer dydd Gwener 6 Rhagfyr, gyda’u cerfluniau llusernau enfawr ar thema afon Teifi a cherddorion lleol tan gamp Samba Doc a Drymwyr Affrica Aberteifi.
Daw’r cyfan hyn gan dîm Theatr Byd Bach, sioe eleni fydd y gorau eto. Dywedodd un o artistiaid Byd Bach: "Rydyn ni wedi bod yn brysur yn creu llusernau gydag ysgolion lleol, grwpiau a’r cyhoedd y mis yma. Rydyn ni’n cynllunio a chreu llusernau enfawr ar thema afon Teifi. Felly disgwyliwch weld dewis eang o lusernau enfawr wedi’u hysbrydoli gan fywyd gwyllt cyfoethog y Teifi.
“Roedden ni am i’n thema ni ddathlu’r gwaith sy’n digwydd i warchod ac adfer yr afon gan y gymuned drwy brosiectau fel Llais yr Afon sy’n helpu dathlu ei gorffennol, ei phresennol a’i dyfodol. Mae’n rhan mor bwysig o dirwedd y dref.”
Disgwylir y parêd i adael Pendre am 7pm, gan deithio ar hyd Stryd Fawr Aberteifi at y Cei ble bydd tân gwyllt sŵn isel a goleuadau Trywydd Gŵyl y Golau! Bydd gwylwyr yn gweld arddangosfa jyglo tân yn ogystal â phrofi bwyd a diod wedi’u paratoi gan Cegin 1176 ar y Cei.
Dywedodd Siobhan McGovern o Theatr Byd Bach: “Rydym ni wrth ein boddau i gyhoeddi fod castell Aberteifi’n rhan o’r Trywydd Golau a bydd y goleuadau i’w gweld o’r Cei yn ystod y Parêd. Bydd gennym ambell i syrpréis ychwanegol fydd yn siŵr o ddod â gwên i bawb.”
Mae’r goleuadau ychwanegol yn Aberteifi eleni yn rhan o Drywydd Gŵyl y Golau / Festival of Light Trail a drefnwyd gan theatr Byd Bach. Mae’r digwyddiadau hyn yn bosib diolch i gefnogaeth ariannol Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU fel rhan o Gronfa Gymunedol Cynnal y Cardi, a weinyddir gan dîm Cynnal y Cardi ar ran Cyngor Sir Ceredigion, gyda chefnogaeth ychwanegol wrth Gyngor Tref Aberteifi.
Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio: "Mae Aberteifi ar fin cynnal profiad Nadolig anhygoel eleni. Mae'r dathliadau yn dechrau ar 30 Tachwedd gyda chynnau goleuadau Nadolig y dref, côr o blant ysgol lleol, a rhediad tractor Nadolig wedi'i oleuo. The Festival of Light Trail, a gyflwynir gan Bydd Theatr Byd Bychan, gyda chefnogaeth Cyngor Tref Aberteifi a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU, yn cynnwys llusernau hardd ac arddangosfeydd artistig ledled y dref. Gall ymwelwyr fwynhau siopa hwyr, y Ffair Nadolig yng Nghastell Aberteifi, ac amrywiaeth o ddigwyddiadau trwy gydol mis Rhagfyr.
“Mae tymor y Nadolig yn addo gwneud Aberteifi yn gyrchfan hudolus i bawb.”
Darperir gwasanaeth bws Brodyr Richards am ddim gan yr ŵyl ar 6 Rhagfyr er mwyn dod â gwylwyr i’r parêd o Aberaeron ac ar hyd yr arfordir. Am amserlen y gwasanaethau bws am ddim ewch i www.creativecardigan.com