Skip to main content

Ceredigion County Council website

Parcio am ddim am dri dydd Sadwrn cyn y Nadolig

Bydd siopa Nadolig yng Ngheredigion yn cael hwb eto eleni gyda pharcio am ddim drwy’r dydd ar dri dydd Sadwrn yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig.

Ni fydd yna gostau parcio ym meysydd parcio Talu ac Arddangos a weithredir gan y Cyngor ar 07, 14, 21 Rhagfyr eleni.

Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet ar faterion Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon: "Rydym yn falch iawn ein bod yn gallu agor ein meysydd parcio am ddim ar y tri Sadwrn cyn dolig eto eleni, boed hynny i siopa, neu i ymweld â caffis, tafarndai a bwytai yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig. Mae ein busnesau lleol yn creu profiad Nadoligaidd gwych yn ein trefi ac felly byddem yn annog pawb i wneud y gorau o'r cyfleoedd i siopa’n lleol dros gyfnod yr ŵyl."

Gallwch weld lleoliadau o holl Feysydd Parcio Talu ac Arddangos a weithredir gan y Cyngor ar ein gwefan www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/teithio-ffyrdd-a-pharcio/parcio-a-gorfodi-parcio-sifil/meysydd-parcio-talu-ac-arddangos/