Skip to main content

Ceredigion County Council website

Gwasanaethau gwastraff Ceredigion dros cyfnod yr Ŵyl

Bydd trefniadau ar gyfer y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd yn amrywio bob blwyddyn i adlewyrchu'r diwrnod o'r wythnos y maent yn disgyn arno.

Gyda dyddiau’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn disgyn ar ddydd Mercher eleni byddwn yn ymdrechu i ddarparu:

  • casgliadau gwastraff - a drefnir fel arfer ar gyfer dydd Mercher - ar y dydd Sadwrn blaenorol. Bydd hyn yn golygu bod casgliadau dydd Mercher 25 Rhagfyr 2024 yn digwydd ar ddydd Sadwrn 21 Rhagfyr 2024 a rhai dydd Mercher 01 Ionawr 2025 ar ddydd Sadwrn 28 Rhagfyr 2024
  • casgliadau fel yr arfer ar ddydd Iau 26 Rhagfyr 2024 (Gŵyl San Steffan)
  • pob casgliad gwastraff arall fel y trefnwyd
  • bydd gwastraff gweddilliol (du), bwyd a chynnyrch hylendid yn cael eu blaenoriaethu lle bydd adnoddau yn caniatáu.

Bydd y casgliadau gwastraff cartref swmpus a gwastraff gardd yn cael eu hatal o 20 Rhagfyr 2024 a byddant yn ailddechrau ar yr wythnos sy’n dechrau ar 6 Ionawr 2025.

Mae nifer o weithlu’r gwasanaeth gwastraff yn ymwneud â darparu gwasanaeth cynnal a chadw dros y gaeaf. Gall hyn wedyn gael effaith uniongyrchol a phellach ar wasanaethau casglu gwastraff.

Pe bai tywydd garw yn ystod y gwyliau bydd hyn yn effeithio ar gasgliadau gwastraff a bydd y dull o ymdrin â'r rhain yn cael ei adolygu mewn ymateb iddynt, gan gymryd i ystyriaeth elfennau perthnasol megis eu hyd ac argaeledd adnoddau.

Bydd yr adnoddau sydd ar gael yn cael eu defnyddio ar sail blaenoriaeth. Mae hyn fel arfer yn golygu canolbwyntio ar y casgliadau gweddilliol (bag du), bwyd a Gwastraff Hylendid Amsugnol (AHP). Mae'r casgliadau bagiau ailgylchu (clir) wythnosol yn rhoi cyfle i adennill y rhain yn gyflym. Mae gwydr yn haws i’w storio ac mae cyfleoedd eraill i gael gwared arno mewn banciau gwydr cymunedol ac yn safleoedd gwastraff cartref y Cyngor.

Bydd diweddariadau dyddiol ar y gwasanaethau casglu gwastraff yn cael eu postio ar y dudalen we ganlynol: Diweddariadau i’r Gwasanaeth Casglu Gwastraff - Cyngor Sir Ceredigion

Safleoedd gwastraff cartref

Mae pob safle gwastraff cartref ar gau ar Ddydd Nadolig a Dydd Calan.

Ar Wyliau Banc eraill, gan gynnwys Gŵyl San Steffan, byddant i gyd ar agor rhwng 10:00-15:00. Dim ond os yw Gŵyl y Banc yn disgyn ar ddiwrnod y byddai ar agor fel arfer y mae hyn yn berthnasol i safle Rhydeinon, Llanarth.

Bydd safleoedd gwastraff cartref Cilmaenllwyd yn Aberteifi, Glanyrafon yn Aberystwyth a Llanbedr Pont Steffan ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 09.00 a 17.00 a rhwng 10.00 a 15.00 o ddydd Sadwrn tan dydd Sul. Bydd safle gwastraff Rhydeinon, Llanarth ar agor dydd Mercher, dydd Sadwrn a dydd Sul rhwng 10.00 a 17.00.

Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Priffyrdd, Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon: “Mae ein timau gweithredol yn gweithio trwy gydol y flwyddyn ym mhob tywydd ac felly maent yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan y cymunedau y maent yn rhan ohonynt ac yn eu gwasanaethu. Hoffwn yn fawr estyn gair o ddiolch diffuant iddynt am eu holl ymdrechion. Gellir amharu ar gasgliadau gwastraff dros gyfnod y Nadolig am wahanol resymau. Byddwn yn ceisio darparu gwasanaethau fel yr hysbysebwyd, darparu diweddariadau rheolaidd ac adfer cyn gynted â phosibl os effeithir ar wasanaethau.”

“Hoffwn yn fawr iawn hefyd achub ar y cyfle i ddiolch i’n cwsmeriaid am eu cefnogaeth barhaus a’u hymgysylltiad cadarnhaol. Mae hyn yn golygu bod Ceredigion ymhlith yr awdurdodau lleol sy'n perfformio orau o ran ailgylchu yng Nghymru a bod y gwastraff na allwn ei ailgylchu yn cael ei drin drwy broses ynni ar gyfer gwastraff. Dyma enghraifft wych o Caru Ceredigion ar waith, gyda’r Cyngor a’n cymunedau yn cydweithio i ymdrin â’n gwastraff yn y modd mwyaf amgylcheddol ac ariannol effeithlon. Diolch yn fawr iawn i chi gyd.”