Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn dathlu’r Nadolig gyda thrigolion Cartref Gofal Min y Môr
Bu dathlu mawr yng Nghlwb Ieuenctid Aberaeron yr wythnos diwethaf, wrth i aelodau’r grŵp ieuenctid ‘Inspire’ sy’n cael eu cynnal gan Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion drefnu parti, a pharatoi pryd o fwyd ar gyfer trigolion Cartref Gofal Min y Môr.
Roedd y wledd wedi’i chynllunio, a’i baratoi gan y bobl ifanc, gan gynnwys brechdanau twrci a mins peis, ac fe wnaethon nhw blannu Cennin Pedr a Chrocysau mewn potiau planhigion i’w rhoi’n anrhegion i’r trigolion. Trefnwyd gweithgareddau’n ogystal i ddathlu’r Nadolig gyda’i gilydd, gan gynnwys gêm o Bingo!
Dywedodd Gwen Evans, un o’r pobl ifanc a oedd ynghlwm â’r trefniadau: “Roedd hi’n wych gallu coginio, paratoi’r bwffe a gwneud anrhegion, a gobeithio fod y trigolion wedi cael amser da”.
Ategwyd hyn gan David Jones, Rheolwr Tîm ar gyfer y tîm Gwaith Ieuenctid Cymunedol, gan nodi "Y bu’n gyfle da i creu perthnasau gyda’r gymuned ehangach ac i roi rhywbeth yn ôl i’r rhai sydd wedi cyflawni gymaint ar gyfer y genhedlaeth iau dros y blynyddoedd. Mae’r sgiliau, yr ymagwedd a’r gallu’r pobl ifanc i drefnu digwyddiad o’r fath i’w ganmol yn fawr".
Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Llesiant Gydol Oes: “Mae hyn yn enghraifft arbennig o’r modd y mae’n pobl ifanc yn cyfrannu i’n cymdeithas, ac yn brawf o’u caredigrwydd a’u parodrwydd i feddwl am, ac i rannu profiadau gydag eraill”.
Mae’r grŵp ‘Inspire’ yn trefnu nifer o weithgareddau tebyg i hyn. Os ydych chi rhwng 16 – 25 mlwydd oedd ac angen cefnogaeth i ddatblygu sgiliau bywyd ar gyfer y byd gwaith, coleg neu hyfforddiant, mae croeso cynnes iawn i chi yma gyda ni. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: porthcymorthcynnar@ceredigion.gov.uk.