Skip to main content

Ceredigion County Council website

Gwaith yn parhau ar Gynllun Amddiffyn Arfordir Aberaeron

Mae Cynllun Amddiffyn Arfordir Aberaeron yn parhau’n raddol ac mae pob ymdrech yn cael ei wneud i leihau'r tarfu ar drigolion, busnesau ac ymwelwyr ag Aberaeron.

Yn ddiweddar, mae Bam wedi cwblhau’r gwaith canlynol;

  • Adeiladu Morglawdd y Gogledd
  • Ailadeiladu wal gynnal gerrig Traeth y De a gosod y grwynau pren newydd
  • Adeiladu’r ategweithiau ar gyfer y gât harbwr mewnol newydd ym Mhwll Cam
  • Cloddio ac adeiladu sylfeini ar gyfer Pier y De newydd
  • Cladin gwaith maen a gosod giât i wal goncrid cyfnerthedig Pen Cei
  • Gosod y brif linell ddraenio ar hyd Pen Cei

Fodd bynnag, mae'r prosiect yn wynebu rhai amodau annisgwyl i’r ddaear gan gynnwys heriau dylunio. Yn benodol, dyddodion o glai ar hyd Traeth y De; materion sefydlogrwydd yn ymwneud â Pier y De; amodau a strwythurau tir annisgwyl ym Mhwll Cam ac offer cyfleustodau heb eu mapio ar hyd Pen Cei. Mae hyn yn golygu y bydd dyddiad cwblhau'r cynllun yn ymestyn y dyddiad gwreiddiol ym mis Ionawr 2025.

Disgwylir i’r gwaith gwblhau fesul cam. Y dyddiadau targed sydd mewn golwg yw:

  • Gwanwyn 2025 ar gyfer Traeth y De; Morglawdd y Gogledd; Pen Cei a Waliau Llifogydd Pwll Cam;
  • a chanol Mehefin 2025 ar gyfer Pier y De gan gynnwys y Wal Llifogydd Afon Aeron a gosod a chomisiynu'r giât llifogydd ym Mhwll Cam.

Bydd y Cyngor a'i gontractwr, Bam, yn parhau i ymdrechu i gyflwyno'r dyddiadau targed hyn. Bydd Bam yn ailagor Cadwgan Place a Phen Cei ar gyfer gwyliau'r Nadolig ac yn cau’r ardal orllewinol o Ben Cei yn y flwyddyn newydd i gwblhau'r gwaith draenio.

Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet Ceredigion sy'n gyfrifol am Briffyrdd ac Amgylcheddol: “Hoffem ddiolch i'r cyhoedd a thrigolion Aberaeron am eu hamynedd a’u dealltwriaeth. Rydym yn gobeithio y bydd pawb yn mwynhau'r buddion tymor hir i'r dref, gan y byddai'r golled i fusnesau a thrigolion yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd yn cynyddu blwyddyn ar ôl blwyddyn os na fydd y gwaith hwn yn cael ei chwblhau. Ar ôl ei gwblhau, bydd y cynllun yn gwella lefel yr amddiffyniad a roddir i'r nifer o fusnesau a chartrefi yn Aberaeron a bydd yn diogelu cymeriad unigryw a hanesyddol yr ardal ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”

Am fwy o wybodaeth, ewch i Amddifyn yr Arfordir - Cyngor Sir Ceredigion