Dathlu talent eithriadol yng Ngheredigion - Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau Caru Ceredigion 2024
Cynhaliwyd Gwobrau Caru Ceredigion 2024 am y tro cyntaf neithiwr, 12 Rhagfyr, i ddathlu cyfraniadau a llwyddiannau eithriadol busnesau, prosiectau cymunedol ac unigolion ar draws y sir.
Wedi'i drefnu gan Cynnal y Cardi dan faner Caru Ceredigion, derbyniwyd dros 130 o geisiadau ar gyfer y gwobrau, gyda 36 yn y rownd derfynol yn cynnwys 12 categori. Roedd y digwyddiad yn noson o ddathlu a chydnabod, a welodd gynghorwyr sir, swyddogion, cynrychiolwyr o bob rhan o'r byd busnes a grwpiau cymunedol yn anrhydeddu ymdrechion a llwyddiannau eithriadol y sir.
Cyflwynwyd y noson gan gyflwynydd BBC Cymru, Ifan Jones Evans a newyddiadurwr ITV Cymru, Nest Jenkins, ill dau’n hanu o’r sir. Yn y cyfamser, cafodd y tlysau ar gyfer y noson eu creu’n ofalus gan fyfyrwyr Dodrefn Lefel 3 Coleg Ceredigion, ynghyd â’r gof o Lanbedr Pont Steffan, Alec Page.
Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Ceredigion sy’n gyfrifol am yr Economi ac Adfywio: “Mae’r gwobrau’n cadarnhau sut rydyn ni wedi gweithio gyda’n gilydd i sicrhau twf economaidd cryf a chynaliadwy i Geredigion, sy’n cael ei greu a’i rannu gan bawb.Pleser oedd gweld cyfraniadau a llwyddiannau eithriadol ein holl enillwyr, a’r rheini ar y rhestr fer. Rwy’n gwybod bod safon yr enwebiadau wedi creu argraff fawr ar ein beirniaid a hoffwn longyfarch pawb a gymerodd ran yn ystod y noson.
“Roedd y noson yn ddathliad o’r gwaith eithriadol sy’n digwydd mewn busnesau a chymunedau ar draws Ceredigion, ac sy’n helpu datblygu cymdeithas uchelgeisiol, wydn ac unigryw lle gall cenedlaethau weld dyfodol clir iddyn nhw eu hunain. Yn olaf, hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y digwyddiad am ei wneud yn ddathliad cofiadwy o lwyddiannau ein cymuned.”
Un o uchafbwyntiau’r seremoni oedd cyflwyno Gwobr Caru Ceredigion, a aeth i Siôn Jones, Cigydd Siôn Jones, ac ef oedd yr enillydd cyffredinol ar draws y categorïau amrywiol.
Dangosodd y cwmni ethos o gynnig cynnyrch lleol o’r safon uchaf i bob cwsmer unigol, gyda Siôn yn meddu ar dros 10 mlynedd o brofiad yn y diwydiant. Mae Siôn wedi dangos diddordeb mewn cigyddiaeth ers yn ifanc iawn ac mae’n gweithio’n agos gyda ffermwyr lleol. Yn ogystal, mae Siôn yn ymweld ag ysgolion i'w dysgu am ddewisiadau bwyd cynaliadwy. Ei weledigaeth yw sefydlu'r busnes fel conglfaen i'r gymuned. Mae'n adnabyddus am ansawdd, ymddiriedaeth a chynaliadwyedd, sy’n ei wneud yn enillydd haeddiannol i gloi noson gofiadwy.
Mae Caru Ceredigion yn ymgyrch gymunedol sydd â’r nod o feithrin ymdeimlad o falchder yn y sir, tra’n annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n gwella’r amgylchedd, cefnogi busnesau lleol, a chryfhau’r gymuned.
Yn y cyfamser, mae Cynnal y Cardi, a ariennir drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, yn gweithio i helpu hybu’r economi a mynd i’r afael â rhai o’r heriau a wynebir gan bobl a mentrau, gyda ffocws ar ddatblygu cyfleoedd i helpu’r economi i dyfu a ffynnu.
Gyda chynlluniau eisoes ar y gweill ar gyfer digwyddiad y flwyddyn nesaf, gallwch weld yr holl ddatblygiadau diweddaraf trwy fynd Gwobrau Caru Ceredigion 2024 - Cyngor Sir Ceredigion
Gwobr Arloesedd Cymunedol |
Enillydd: Dyfodol Ni Ar y rhestr fer: Yr Academi Iechyd Gwledig a Gofal Cymdeithasol (Coleg Ceredigion) Ar y rhestr fer: Catalyddion Gofal Ceredigion |
Gwobr Arloesedd mewn Busnes |
Enillydd: Chuckling Goat Ar y rhestr fer: Delineate Ar y rhestr fer: Needle Rock | Remarkable Upholstery |
Gwobr Prentis y Flwyddyn |
Enillydd: Jason Vale (Needle Rock | Remarkable Upholstery) Ar y rhestr fer: Asha Vernon (Area 43) Ar y rhestr fer: Iestyn Rees-Greaves (Cyngor Sir Ceredigion) |
Gwobr ARFOR |
Enillydd: ArloesiAber Ar y rhestr fer: Madarch Tŷ Cynan Ar y rhestr fer: Theatr Felinfach |
Gwobr Bwyd-Amaeth |
Enillydd: Watson & Pratt’s Ar y rhestr fer: Llaeth Teulu Jenkins Ar y rhestr fer: Welshhomestead Smokery |
Gwobr Ysbrydoliaeth Caru Ceredigion |
Enillydd: HAHAV Ceredigion Ar y rhestr fer: Cerflun Cymunedol Cranogwen Ar y rhestr fer: Gill Evans |
Gwobr Busnes Cymunedol y Flwyddyn |
Enillydd: Area 43 Ar y rhestr fer: Hwb Cymunedol Borth Ar y rhestr fer: Yma |
Gwobr Entrepreneur Ifanc |
Enillydd: Siôn Jones, Cigydd Siôn Jones Ar y rhestr fer: Bryn McGilligan Oliver (BMO Coaching) Ar y rhestr fer: Sara Griffith (Sara Lleucu) |
Gwobr Darganfod Ceredigion |
Enillydd: SeaMôr Dolphin Watching Ar y rhestr fer: Fferm Bargoed Ar y rhestr fer: West Wales Holiday Cottages |
Gwobr Digwyddiad Llai/Cymunedol y Flwyddyn |
Enillydd: Gŵyl Grefft Cymru Ar y rhestr fer: Gŵyl Gomedi Aberystwyth Ar y rhestr fer: Lleisiau Eraill Aberteifi |
Gwobr Digwyddiad Mawr y Flwyddyn
|
Enillydd: JDS Machinery Rali Ceredigion Ar y rhestr fer: Gŵyl Fwyd Llanbed Ar y rhestr fer: Digwyddiad Glaswellt a Thail Cynaliadwy 2024
|
Gwobr Ceredigion a’r Byd
|
Enillydd: Aber Instruments Ar y rhestr fer: Delineate Ar y rhestr fer: Gwasg Gomer
|
Gwobr Caru Ceredigion 2024
|
Siôn Jones, Cigydd Siôn Jones |