Dathlu’r ‘dolig yn Theatr Felinfach
Mae’r Nadolig yn nesáu ac mae sawl cyfle i ddathlu’r ŵyl yn Theatr Felinfach eleni.
Bydd y Pantomeim Nadolig, “Mam Fach! Mae Menyw Moniwmental ‘Ma!”, o’r 7-14 Rhagfyr ac mae yna sawl cymeriad newydd eleni yn barod i’ch croesawu. Mae cymdogaethau Dyffryn Aeron yn wynebu heriau fel bob ardal arall – ond mae presenoldeb tywyll Mr Ŵr a’i gynorthwywyr yn creu helynt bob blwyddyn wrth iddynt drio rhoi plet yng nghwt y gymdogaeth gyda’u cynlluniau ysgeler.
Ond maen’ nhw’n debygol o gwrdd â’u matsh 'leni, pan ddônt ar draws Cymraes unigryw: athrawes, bardd, golygydd, morwr medrus ac ymgyrchydd brwd, sef Cranogwen.
Dewch i fwynhau hwyl pantomeim unigryw Cwmni Actorion Felinfach. Bydd cymorth ar gael i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg newydd. Perfformiadau prynhawn ar y 7 a 14 Rhagfyr Ragfyr. Cysylltwch â’r Theatr am grwpiau o fwy na 10.
Yn ogystal, gig unigryw 50 Shêds o Santa Clôs ar lwyfan Theatr Felinfach ar 17 Rhagfyr. Noson gabaret gymdeithasol a fydd yn siŵr o ddod â swyn Nadoligaidd i chi, gyda tiwns gan Rhys Taylor a’r band. Yn canu ar y noson fydd Sara Davies, enillydd Cân i Gymru 2024 a’r actor/canwr adnabyddus Gwydion Rhys.
Mae’r noson yn addas ar gyfer y teulu oll ac yn ddelfrydol ar gyfer parti gwaith neu dewch â’ch teulu a ffrindiau. Mae dau ddewis tocyn; VIP Sedd Cabaret neu Tocyn Awditoriwm.
Am docynnau a gwybodaeth bellach ewch ar wefan Theatr Felinfach https://theatrfelinfach.cymru/ neu cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01570 470697 neu ebostio theatrfelinfach@ceredigion.gov.uk
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau Theatr Felinfach, dilynwch y theatr ar y Cyfryngau Cymdeithasol ar @TheatrFelinfach; Facebook, YouTube, X (Trydar yn flaenorol) ac Instagram.