Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cyhoeddi rhestr fer Gwobrau Caru Ceredigion 2024

Mae rhestr fer Gwobrau Caru Ceredigion 2024 wedi’i datgelu’n swyddogol, gyda rhestr drawiadol o gystadleuwyr yn y rownd derfynol yn cynrychioli 12 categori.

Mae’r gwobrau, sy’n cael eu trefnu gan Cynnal y Cardi dan faner Caru Ceredigion, yn ddathliad o gyfraniadau a llwyddiannau eithriadol busnesau, prosiectau cymunedol, ac unigolion ar draws y sir.

Ar ôl derbyn ymateb rhyfeddol o dros 130 o geisiadau, mae’r 36 o enwebeion yn amrywio o brosiectau cymunedol a arweinir gan wirfoddolwyr a digwyddiadau sydd wedi cael effaith enfawr ar eu cymunedau lleol, i rai o’r busnesau blaenllaw sy’n helpu i roi Ceredigion ar y map, gartref a thramor.

Bydd yr enillwyr yn cael eu datgelu mewn seremoni fawreddog ar 12 Rhagfyr. O dan arweiniad cyflwynydd BBC Radio Cymru, Ifan Jones Evans a newyddiadurwraig ITV Cymru Wales, Nest Jenkins, mae’r noson yn argoeli i fod yn ddathliad ac yn gydnabyddiaeth o’r cyfraniadau rhagorol mae pob un ohonynt wedi’u gwneud i economi a chymunedau Ceredigion.

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Ceredigion sy’n gyfrifol am yr Economi ac Adfywio: “Rydyn ni wrth ein bodd gyda'r ymateb anhygoel a safon uchel y ceisiadau rydyn ni wedi'u derbyn. Mae’r Sir yn gartref i fusnesau rhagorol, entrepreneuriaid ifanc, a phrosiectau cymunedol bywiog, ac mae’r gwobrau hyn yn cynnig llwyfan gwych i ddathlu rhywfaint o’r gwaith rhyfeddol sy’n cael ei wneud.

“Rydyn ni wedi ein plesio’n fawr gan ddyfnder ac ehangder y doniau a’r gwaith da sy’n digwydd, ac mae’r ymateb gwych a gawson ni’n dyst i hynny. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan eleni, llongyfarchiadau mawr i bawb a gyrhaeddodd y rhestr fer, a dymuniadau gorau ar gyfer y rownd derfynol.”

Mae Caru Ceredigion yn ymgyrch gymunedol sydd â’r nod o feithrin ymdeimlad o falchder yn y sir, tra’n annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n gwella’r amgylchedd, cefnogi busnesau lleol, a chryfhau’r gymuned.

Yn y cyfamser, mae Cynnal y Cardi, a ariennir drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, yn gweithio i helpu hybu’r economi a mynd i’r afael â rhai o’r heriau a wynebir gan bobl a mentrau, gyda ffocws ar ddatblygu cyfleoedd i helpu’r economi i dyfu a ffynnu.

Mae rhestr lawn o'r cwmnïau ar y rhestr fer i'w gweld ar: Gwobrau Caru Ceredigion 2024 - Cyngor Sir Ceredigion