Ceredigion yn arwain y ffordd wrth fonitro ansawdd dŵr gyda thechnoleg arloesol
Mae prosiect Monitro Maethynnau Teifi wedi cyflwyno dulliau arloesol o ddiogelu ac adfer system afon Teifi gan dorri tir newydd yng Nghymru ar sawl achlysur. Dan arweiniad Cyngor Sir Ceredigion ac mewn cydweithrediad â'r Bwrdd Rheoli Maethynnau, mae’r prosiect yn cyfuno technoleg arloesol gydag ymdrechion a yrrir gan y gymuned i fynd i'r afael â heriau ynghylch ansawdd dŵr.
Mae synwyryddion a multisondes monitro Amledd Uchel wedi eu gosod mewn mannau strategol ar hyd afon Teifi a'r is-afonydd iddi, gan weithio fel “llygaid” a “chlustiau” technolegol sy’n casglu data bedair gwaith y dydd i olrhain llygredd a nodi ei ffynonellau. Ategir y technolegau hyn gan waith amhrisiadwy Gwyddonwyr o’r Gymuned sy'n cyfrannu data drwy declynnau monitro â llaw.
Nod yr holl ymdrechion hyn yw mynd i'r afael â’r bylchau mewn tystiolaeth, deall patrymau llygredd, a llywio strategaethau i liniaru gan osod sylfaen ar gyfer gwelliannau hirdymor ar draws y rhanbarth.
Dyma lwyddiannau’r Prosiect:
- Monitro’n gynhwysfawr dros ardal eang: Mae Cam Un yn canolbwyntio ar y brif afon tra bod Cam Dau yn ymestyn i dros 20 o is-afonydd gan fynd i'r afael â’r bylchau tystiolaeth yn yr ardaloedd hyn sydd heb eu monitro gymaint.
- Atebion ar sail Data: Mae synwyryddion Amledd Uchel wedi casglu cannoedd o ddarlleniadau ers Mawrth 2024 gan gynnig mewnwelediad i weld o ble y daw llygredd.
- Cynlluniau Rheoli Maethynnau: Maent yn bwydo i mewn i gynlluniau gweithredu ar gyfer afonydd Teifi, Tywi a Chleddau, wedi’u llunio gan y Bwrdd Rheoli Maethynnau, a’r bwriad yw y byddant yn cael eu cymeradwyo yng ngwanwyn 2025. Mae'r cynlluniau hyn yn nodi camau y gellir eu gweithredu i leihau llygredd a gwella ansawdd dŵr.
- Methodolegau y gellir eu ehangu: Bydd y protocolau monitro a ddatblygwyd drwy'r prosiect hwn yn fodel ar gyfer dalgylchoedd eraill yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, gan wella’r ymdrechion parhaus i frwydro yn erbyn llygredd yn yr ardaloedd hyn.
- Technoleg Arloesol a Chydweithredu: Drwy gyfuno offer monitro blaengar gydag ymdrechion Gwyddonwyr o’r Gymuned, a chydweithio â phartneriaid megis Cyfoeth Naturiol Cymru, mae'r prosiect hwn yn meithrin dull cydlynus - a yrrir gan y gymuned - o reoli’r amgylchedd.
Mae’r Bwrdd Rheoli Maethynnau yn tynnu ynghyd awdurdodau lleol, asiantaethau amgylcheddol a grwpiau cymunedol er mwyn mynd i’r afael â heriau maethynnau yn afonydd Teifi, Tywi a Chleddau. Bwriedir i’w hymdrechion ar y cyd adfer Ardaloedd Cadwraeth Arbennig a chefnogi datblygu cynaliadwy.
Yn ôl y Cynghorydd Clive Davies, Aelod o Gabinet Cyngor Sir Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio a Chadeirydd Bwrdd Rheoli Maethynnau Teifi, “Mae'r cyfuniad hwn o gyfathrebu lloeren ac ymgysylltu â dinasyddion yn newid y darlun yn llwyr gan baratoi'r ffordd ar gyfer rheoli’r amgylchedd mewn ffordd glyfrach. Drwy harneisio technolegau blaengar a meithrin cydweithredu, rydym yn cymryd camau pwysig tuag at sicrhau afonydd ac ecosystemau iachach yng Ngheredigion.”
Ychwanegodd Gail Pearce-Taylor, Rheolwr Rhaglen Bwrdd Rheoli Maethynnau GPT, dalgylchoedd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig afonydd Teifi, Tywi a Chleddau: “Drwy fonitro ansawdd y dŵr a mynd i’r afael â llygredd yn afon Teifi bydd y prosiect hwn yn dod â budd i’r gymuned, busnesau a thrigolion drwy helpu i greu afonydd ac ecosystemau iachach. Drwy atal rhagor o ddifrod i’r amgylchedd yn y dyfodol byddwn yn hybu amgylchedd cynaliadwy i bawb.”
Caiff prosiect Monitro Maethynnau Teifi ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a’i weinyddu gan dîm Cynnal y Cardi yng Nghyngor Sir Ceredigion, a’i gyflenwi mewn cydweithrediad â’r Bwrdd Rheoli Maethynnau a’i randdeiliaid.
Gwyliwch fideo byr lle mae'r Cynghorydd Clive Davies yn siarad am y synwyryddion sy'n cael eu defnyddio ar afon Teifi fel rhan o brosiect Monitro Maethynnau Teifi: https://youtu.be/mQ_NPZIEuVE
Ewch i’r dudalen Maethynnau lle gallwch ddefnyddio cyfrifiannell maethynnau i gael syniad o faint o ffosffadau a gynhyrchir gan ddatblygiad arfaethedig yng Ngheredigion: https://www.ceredigion.gov.uk/media/bikj1cv1/nutrient-budget-calculator-west-wales_2-3-5.xlsx