Canolfannau galw heibio ar agor i’r cyhoedd
Mae’r Canolfannau Hamdden Aberteifi a Phlascrug Aberystwyth ar agor heddiw tan 10.00yh ar gyfer aelodau’r cyhoedd sydd am alw heibio, neu am aros er mwyn cadw’n gynnes, cael cawod neu wefru ffonau symudol os ydych wedi bod heb drydan am beth amser. Bydd paned cynnes yn eich disgwyl. Mae nifer o staff Cyngor Sir Ceredigion wedi gwirfoddoli i gynorthwyo yn y canolfannau hyn, ac fe fydd croeso cynnes iawn yno i chi. Mae Swyddfeydd y Cyngor ym Mhenmorfa ar agor yn ogystal am baned a chyfle i wifrio’ch ffonau symudol. Rydym hefyd yn gweithio i drefnu darpariaeth yn ardal Llambed, a byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth maes o law.
Rydym yn cysylltu â phreswylwyr bregus sy’n hysbys i ni ac yn ymateb unrhyw alwadau am gymorth. A wnewch chi plîs alw gyda’ch chymdogion bregus a rhoi gwybod i ni os oes angen unrhyw gymorth ychwanegol.
Mae’r ‘National Grid’ ac ‘SPEnergy’ ar gyfer Gogledd Ceredigion wrthi’n brysur yn ceisio ail-gysylltu trydan i bob cartref, ac yn gofyn i breswylwyr gadw’n ddigon pell o unrhyw offer sydd wedi disgyn, gan roi bwydo iddyn nhw am unrhyw ddifrod, neu ddiffyg cysylltiad trydan drwy ffonio’u rhif ffon argyfwng 105. Maent hefyd yn cefnogi cwsmeriaid bregus gydag anghenion ychwanegol sydd ar eu rhestr flaenoriaeth, a’r rhif ffôn ar gyfer rhestr flaenoriaeth y ‘National Grid’ yw 0800 096 3080 a gellir cysylltu â SPEnergy ar gyfer Gogledd Ceredigion trwy ffonio 0800 001 5400.
Mae Heddlu Dyfed Powys hefyd yn gofyn fod unrhyw un sydd mewn angen yn cysylltu â nhw ar 101.
Bydd unrhyw ddiweddariadau pellach i’r sefyllfa yng Ngheredigion yn cael eu cyhoeddi yma: www.ceredigion.gov.uk/StormDarraghCy