Skip to main content

Ceredigion County Council website

Busnes Ceredigion yn pledio'n euog i naw trosedd hylendid bwyd

Plediodd Mrs Sheena Thomas a Mr Eifion Thomas o Olwg y Môr, Wauntrefalau, Tanygroes, Aberteifi, yn euog gerbron Ynadon yng Nghanolfan Gyfiawnder Aberystwyth ar 12 Tachwedd 2024 i naw trosedd hylendid bwyd. Cafodd yr achos ei gyflwyno gan Dîm Amddiffyn y Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion.

Yn ystod archwiliad hylendid bwyd arferol gan Gyngor Sir Ceredigion ar safle ‘Golwg y Môr’ ym mis Medi 2023, darganfu Uwch Swyddog Iechyd yr Amgylchedd beiriant pacio gwactod wedi'i labelu 'cig wedi'i goginio yn unig' yn cael ei ddefnyddio i becynnu cig amrwd. Gwaharddwyd hyn ar unwaith, fodd bynnag, fe anwybyddwyd y cyfarwyddiad gan barhau’r arfer hwn, a allai o bosib fod wedi arwain at werthu cigoedd wedi'u coginio a oedd wedi'u heintio yng Ngheredigion ac ardaloedd cyfagos. Ceisiodd Mrs. Thomas a Mr. Thomas rwystro’r ymchwiliad drwy beidio â chydweithio'n llawn â swyddogion Ceredigion a newid cofnodion mewn ymgais fwriadol i guddio'r cam.

Clywodd yr Ynadon fod defnyddio peiriant pacio gwactod ar gyfer cigoedd amrwd a chigoedd wedi'u coginio o bosib y ffynhonnell i halogi cigoedd wedi'u coginio yn achos e-coli De Cymru yn 2005 a oedd yn tanlinellu difrifoldeb y troseddau hylendid yn yr achos hwn, a'r risg i'r cyhoedd.  Mynegodd Ynadon Aberystwyth eu syndod am yr hyn a wnaeth y diffynyddion, gan ddweud y gallent fod wedi achosi perygl i gwsmeriaid. Nodwyd bod newid cofnodion i geisio cuddio'r troseddau wedi gwneud "sefyllfa wael yn waeth".

Yn y gwrandawiad dedfrydu ar 4 Rhagfyr 2024 dirwyodd yr ynadon Mrs Thomas a Mr Thomas £5,000 yr un. Cawsant orchymyn hefyd i dalu gordal llys o £1,000 yr un a £3,428 yr un mewn costau cyfreithiol.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: “Mae tîm Amddiffyn y Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio gyda busnesau i gyflawni eu gofynion cyfreithiol i ddiogelu iechyd a diogelwch y rhai sy'n byw, gweithio ac yn ymweld â Cheredigion. Yn yr achos hwn, bu'n rhaid i'r Cyngor gymryd camau ar unwaith i waredu’r risg i iechyd y cyhoedd, ac roeddent yn siomedig bod y cyngor a'r camau a gymerwyd wedi hynny gan y busnes bwyd wedi parhau i beryglu’r cyhoedd.  Nid yw'r Cyngor yn cymryd camau cyfreithiol ar chwarae bach, ac mae'r camau a gymerir yn adlewyrchu'r risg i'r cyhoedd.”