Skip to main content

Ceredigion County Council website

Al Lewis i berfformio yn Amgueddfa Ceredigion

Mae Amgueddfa Ceredigion yn hapus iawn i groesawu y canwr a’r cyfansoddwr, Al Lewis, i’r Amgueddfa am y tro cyntaf eleni fel un o'i berfformiadau Nadolig ar draws Cymru.

Cynhelir y digwyddiad nos Wener 20 Rhagfyr am 7:30pm a bydd Al yn perfformio cyfuniad o'i ganeuon ei hun, fel yr un a ysbrydolwyd gan Dylan Thomas - 'A Childs Christmas In Wales'  yn ogystal â rhai o glasuron y tymor. Noson pryd bydd pawb yn gallu mwynhau hwyl y Nadolig.

Mae Al Lewis wedi rhyddhau 7 albwm. Cafodd ei albwm Saesneg cyntaf 'In the Wake' ei henwebu ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig gyntaf ac mae ei albyms Cymraeg i gyd wedi treulio sawl wythnos yn #1 ar Siartiau Cymraeg BBC Cymru.

Yn cefnogi Al mae Osgled, prosiect cerddorol newydd gan Bethan Ruth o Fachynlleth gyda cherddoriaeth sy’n llawnhaenau electronig arbrofol a synth lleddf yn creu naws freuddwydiol. 

Dywedodd Carrie Canham, Curadur Amgueddfa Ceredigion: “Rydyn ni wrth ein bodd bod Al Lewis wedi dewis dod i chwarae yma – yn cynnig gwledd Nadoligaidd arbennig i ni yn berystwyth. Mae disgwyl iddi fod yn noson o ddathlu a mwynhau.”

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Ceredigion dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Mae cyngherddau nadolig Al Lewis yn denu cynulleidafoedd o bob cwr oherwydd ei fod yn creu naws tymhorol arbennig. Dyma noson berffaith i gychwyn yr Wŷl.”

Mae pris tocynnau yn £14 mlaen llaw, £16 wrth y drws, £12 am gonsesiynau ac am ddim i ofalwyr (gydag ID Gofalwr). Am fwy o wybodaeth a thocynnau ewch i https://ceredigionmuseum.digitickets.co.uk/event-tickets/60714?catID=58487

Am ragor o wybodaeth am Al Lewis ewch i www.allewismusic.com/home-1