Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Croeso i dudalen Grwpiau Ceredigion Oed Gyfeillgar. Dros y misoedd nesaf, ein bwriad yw arddangos grwpiau yng Ngheredigion sydd eisoes yn cyflawni ymarfer Oed Gyfeillgar a dod â gwybodaeth i chi am eu digwyddiadau a'u gweithgareddau.


Sbotolau Ar...

Hwb Penparcau

Mae Hwb Penparcau wedi dod o hyd i ffordd syml ond effeithiol o ddod â chenedlaethau at ei gilydd—drwy greu ardal chwarae fechan yn eu caffi cymunedol. Gyda chymorth Grant Ceredigion Oed Gyfeillgar, llwyddwyd i brynu byrddau gweithgareddau ac offer chwarae arall i ddiddanu plant ifanc mewn lle diogel a deniadol. 

Mae’r ychwanegiad hwn wedi gwneud gwahaniaeth mawr i neiniau a theidiau lleol, sy’n gallu dod â’u wyrion gyda nhw, mwynhau paned, tamaid o gacen a sgwrs gyda ffrindiau, tra bod y plant yn chwarae gerllaw. Mae’n helpu i wneud y caffi’n fwy cynhwysol, gan leihau unigrwydd i bobl hŷn a allai fel arall ei chael hi’n anodd dod allan heb ofal plant. 

Drwy gefnogi cysylltiadau rhwng cenedlaethau ac yn cynnig lle i bawb deimlo’n gartrefol, mae Hwb Penparcau yn dangos sut gall newidiadau bychain gael effaith fawr. Mae’r ardal chwarae eisoes wedi dod yn rhan werthfawr o’r caffi, gan annog ymweliadau rheolaidd a chreu awyrgylch mwy bywiog a chymdeithasol i’r gymuned gyfan.

I gael gwybod mwy am yr hyn sydd gan Hwb Penparcau i'w gynnig, ewch i'w gwefan yma: https://penparcau.cymru/

(Gorffenaf 2025)


 

Defnyddiodd Côr Clwb Rygbi Castell Newydd Emlyn

Grŵp o ddynion hŷn a ddaeth ynghyd drwy gariad at gerddoriaeth a chwaraeon—eu Grant Ceredigion Oed Gyfeillgar i fynd â’u lleisiau ar daith yn gynharach eleni. Ym mis Chwefror, teithiodd y côr i Glwb Rygbi Castell Nedd i gefnogi Clwb Rygbi Castell Newydd Emlyn wrth iddynt wynebu Castell Nedd.

Fe wnaeth y grant helpu i dalu cost y bws, gan alluogi’r grŵp i deithio gyda’i gilydd ac i berfformio ar ddiwrnod y gêm. Roedd y digwyddiad yn brofiad llawen i’r côr ac i’r dorf, gan roi cyfle gwerthfawr i feithrin cysylltiadau a chymuned.

Diolch i’r grant, mae’r côr yn parhau i gryfhau cyfeillgarwch, hybu llesiant, a chodi eu lleisiau—gyda’i gilydd.

(Mehefin 2025)


 

Grŵp Celf Llanfarian

Daeth y syniad am Grŵp Celf i fod yn ystod cyfarfod misol yn Neuadd Llanfarian, lle roedd y pwyllgor yn archwilio gweithgareddau a allai bod o fudd i'r gymuned leol. Pan glywsant am Grant Ceredigion Oed Gyfeillgar, gwelon nhw gyfle i droi’r syniad yn weithred— ac roeddent wrth eu bodd yn cael eu cyllid.

Diolch i’r grant, mae’r grŵp nawr yn cynnal sesiynau celf wythnosol am ddwy awr, ac mae cynlluniau ar gyfer cyflwyno crefft yn y dyfodol wrth i’r grŵp dyfu. Mae’r holl ddeunyddiau yn cael eu darparu, ac mae’r sesiynau’n cynnig amgylchedd cynnes, croesawgar, ac yn gymdeithasol i bobl o bob oed i fynegi eu hunain yn greadigol.

P’un ai ydych chi’n chwilfrydig i ddechrau creu, neu jyst eisiau galw heibio i weld beth sydd yn digwydd, mae croeso cynnes yn aros i chi. Mae’r Grŵp Celf yn dal yn ei ddyddiau cynnar, ond mae’r nifer yn tyfu, ac mae’r pwyllgor yn gyffrous am y dyfodol a’r effaith bositif mae’r sesiynau hyn yn eu cael—datblygu sgiliau, hyder, a chreu cysylltiadau cryf yn y gymuned.

Mae'r Grŵp Celf yn cwrdd yn Neuadd Llanfarian pob dydd Iau o 10am i 12pm.

(Mehefin 2025)