Skip to main content

Ceredigion County Council website

Diweddariadau Cenedlaethol

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Dyma’ch cyfle i ddweud eich dweud a helpu i sicrhau newid cadarnhaol i bobl hŷn

Mae’r Comisiynydd Pobl Hŷn eisiau clywed gennych chi am unrhyw faterion neu heriau sy’n golygu bod heneiddio yng Nghymru yn anoddach, yn ogystal â’r newidiadau a’r gwelliannau yr hoffech eu gweld.

Mae’r Comisiynydd wrthi’n datblygu ei strategaeth a’i chynllun gwaith, a bydd yn defnyddio tystiolaeth sydd wedi’u rhannu gan bobl hŷn i bennu’r camau y bydd yn eu cymryd, a’r meysydd allweddol y bydd ei gwaith yn canolbwyntio arnynt.

Gallwch chi dynnu sylw at rywbeth sy’n eich poeni neu yn peri pryder i chi, neu rannu enghraifft o rywbeth sy’n gweithio’n dda y gellid ei gyflwyno mewn rhannau eraill o Gymru. Gallai’r hyn rydych chi’n ei rannu fod yn seiliedig ar eich profiadau eich hun, neu brofiadau eich teulu a’ch ffrindiau.

Yn ôl Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: “Rwyf eisiau i Gymru arwain y ffordd o ran grymuso pobl hŷn, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a galluogi pawb i fyw a heneiddio’n dda, ac fel Comisiynydd mae gennyf ran allweddol i’w chwarae er mwyn gwireddu’r weledigaeth hon.

“Mae’n hanfodol bod y camau rwy’n eu cymryd fel Comisiynydd yn cael eu harwain gan leisiau a phrofiadau pobl hŷn, a dyna pam fy mod yn gwahodd pobl hŷn i gysylltu i dynnu sylw at y materion sy’n effeithio ar eu bywydau a rhannu eu barn a’u syniadau am y newidiadau a’r gwelliannau a fyddai’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.

“Hoffwn glywed gan gynifer â phosibl o bobl hŷn o wahanol gefndiroedd a chymunedau ledled Cymru, felly treuliwch ychydig funudau’n llenwi fy holiadur os gallwch chi.

Bydd unrhyw wybodaeth rydych chi’n ei rhannu yn werthfawr iawn wrth i mi ddatblygu fy strategaeth a’m cynllun gwaith, yn ogystal â gweithredu gyda fy nhîm i drawsnewid polisïau ac arferion mewn amrywiaeth o feysydd allweddol.”

Lleisio eich barn:

Gallwch chi ymateb i holiadur y Comisiynydd mewn sawl ffordd.

Gallwch lawrlwytho copi o’r holiadur neu ei lenwi ar-lein:

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: Dweud Eich Dweud

Os hoffech chi gael copi caled o’r holiadur, fel bod modd ei ddychwelyd drwy radbost, ffoniwch 03442 640 670 neu anfon e-bost i gofyn@comisiynyddph.cymru.

Neu os byddai'n well gennych siarad am eich profiadau gydag aeold o dîm y Comisiynydd dros y ffôn, ffoniwch 03342 640 670.

Rhian Bowen-Davies,
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Rhagfyr 2024)

 

 

Neges wrth Helena Herklots Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Byddaf yn gorffen fy nghyfnod fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ar 19 Awst. Mae hi wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd gwasanaethu fel Comisiynydd a chael y cyfle i weithio gyda phobl hŷn a sefydliadau ar hyd a lled Cymru i ddiogelu ac i hyrwyddo hawliau pobl hŷn.

Rwy’n falch o amgáu copi o’m hadroddiad sy’n sôn am effaith y gwaith dros y chwe blynedd diwethaf. Mae’r adroddiad yn dangos, er gwaethaf heriau pandemig Covid a’r argyfwng costau byw, rydyn ni wedi symud ymlaen o ran mynd i’r afael â rhai problemau dwfn a hirsefydlog sy’n wynebu pobl hŷn, yn ogystal â chychwyn gwaith newydd i’n galluogi i heneiddio’n dda. Rydyn ni wedi symud ymlaen drwy sicrhau bod profiadau ac arbenigedd pobl hŷn wrth galon y gwaith, a drwy weithio gyda nifer o sefydliadau ac unigolion sydd wedi rhoi o’u hamser a’u hymrwymiad i weithio ar achos cyffredin. Hoffwn gofnodi fy niolch diffuant i bawb rwyf wedi gweithio gyda nhw, ac i’m tîm ymroddedig.

Wrth i mi gamu lawr bydd y Dirprwy Gomisiynydd, Kelly Davies, yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb nes i’r Comisiynydd newydd, Rhian Bowen-Davies, ddechrau ar 30 Medi.