Monitro a Dangosfwrdd Gwyddoniaeth Dinasyddion Teifi
Bu’r cydweithio rhwng sefydliadau a phobl yn allweddol wrth ddarparu'r dangosfwrdd. Mae Gwyddonwyr o’r Gymuned yn chwarae rôl bwysig drwy fonitro ar lawr gwlad a chyfrannu data ychwanegol drwy offer llaw megis gwirwyr ffosffad a mesuryddion pH a ddarperir gan Gyngor Sir Ceredigion. Mae’r gwaith maes hwn yn ategu’r wybodaeth a geir o’r synwyryddion gan gau bylchau mewn tystiolaeth a chyfoethogi’r data ar y dangosfwrdd.
Yn ogystal â dangosfwrdd y synwyryddion, mae Cyngor Sir Ceredigion hefyd wedi datblygu meddalwedd unigryw ar gyfer casglu data o’r apiau symudol a ddefnyddir gan Wyddonwyr o’r Gymuned allan yn y maes. Mae hon hefyd ar gael bellach ar wefan y Cyngor a bydd yn galluogi defnyddwyr i weld adroddiadau cyfredol y Gwyddonwyr o’r Gymuned, a'u dadansoddi.
Caiff y feddalwedd ei gwella o hyd wrth i'r tîm gyflwyno rhagor o synwyryddion dros yr wythnosau nesaf i ddal mwy o ddarlleniadau ac i gysylltu â’r lloeren.
Mae'r dangosfwrdd yn rhan greiddiol o Brosiect Monitro Maethynnau Teifi sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a’i weinyddu gan dîm Cynnal y Cardi yng Nghyngor Sir Ceredigion, a’i gyflenwi mewn cydweithrediad â’r Bwrdd Rheoli Maethynnau a’i randdeiliaid. Fe'i cefnogir gan brosiect Sbarduno Cysylltedd Gwledig (Rural Connectivity Accelerator) y mae'r Cyngor yn rhan ohono ac sy’n cael ei ariannu gan Adran Wyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg Llywodraeth y DU.
Gellir weld Dangosfwrdd Gwyddoniaeth y Dinesydd yma.