Dangosfwrdd Monitro Maethynnau Teifi
Dan arweiniad Cyngor Sir Ceredigion ac mewn cydweithrediad â Bwrdd Rheoli Maethynnau Gorllewin Cymru, mae prosiect monitro Ansawdd Dŵr afon Teifi wedi dadorchuddio’i ddangosfwrdd arloesol ar gyfer rheoli maethynnau. Dyma’r un cyntaf o’i fath ac mae nawr yn fyw ar wefan y Cyngor. Mae’r platfform dyfeisgar hwn yn defnyddio technoleg arloesol i fynd i'r afael â heriau ynghylch ansawdd dŵr yn nalgylch Afon Teifi.
Mae’r dangosfwrdd yn integreiddio data o synwyryddion a osodwyd mewn mannau allweddol ar hyd afon Teifi a’r is-afonydd iddi. Mae’r synwyryddion hyn, gyda chymorth cysylltedd lloeren Lacuna - Low Earth Orbit - yn sicrhau y trosglwyddir data yn barhaus, hyd yn oed o fannau anghysbell. Maent yn cynnig cipolwg amserol a chyfredol i randdeiliaid ar y mesuryddion sy’n hanfodol i ansawdd dŵr, megis lefelau ffosffad ac amrywiadau yn uchder afonydd.
Mae synwyryddion amledd uchel Clearwater wedi bod yn hynod o wydn yn ystod y stormydd diweddar gan barhau i ddarparu data gwerthfawr hyd yn oed mewn amodau heriol. Yn ogystal â monitro ansawdd dŵr mae'r dangosfwrdd yn trosglwyddo lefelau uchder yr afonydd yn ystod tywydd eithafol, gan gynnig cymariaethau o flwyddyn i flwyddyn sy'n fuddiol ar gyfer rheoli maethynnau, rheoli llifogydd, a gwasanaethau eraill y Cyngor.
Gellir weld y Dangosfwrdd Synwyryddion Rheoli Maethynnau yma.