Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Cynnydd mewn Prisiau Olew

Oherwydd y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol, mae prisiau olew yn ansicr ac mae llawer o bobl sy'n defnyddio olew i wresogi eu cartrefi yn ei chael hi'n anodd fforddio.

Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi £3.8 miliwn i Lywodraeth Cymru i helpu aelwydydd yng Nghymru sy'n dibynnu ar olew gwresogi.

Mae gan Gymru eisoes gefnogaeth i bobl sydd oddi ar y grid ac sy'n cael trafferth gyda chostau tanwydd drwy'r Gronfa Cymorth yn ôl Disgresiwn (DAF). Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud y canlynol dros dro:

  • Cynyddu'r swm y gallwch ei gael am olew gwresogi i £750 y dyfarniad
  • Cynyddu pa mor aml y gallwch chi gael yr help hwn: ddwywaith mewn 12 mis, yn hytrach nag unwaith

Pwysig: Rhaid i unrhyw un sy'n gwneud cais dangos does ganddyn nhw ddim arian arall, er enghraifft cynilion, a rhaid i bob cais ddod gan Bartner a Gymeradwywyd. Rhaid bod o leiaf 3 mis rhwng dyfarniadau.

 

Er mwyn cael help, rhaid eich bod:

  • yn wynebu caledi ariannol difrifol, er enghraifft eich bod wedi colli eich swydd, wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am eich taliad cyntaf - ac nad oes gennych unrhyw fodd arall o gael cymorth ariannol
  • yn profi argyfwng annisgwyl sy’n golygu nad oes gennych arian i brynu bwyd, nwy a/neu drydan, neu eitemau hanfodol eraill
  • mewn sefyllfa o argyfwng ac angen cefnogaeth ariannol ar unwaith
  • yn byw yng Nghymru
  • dros 16 oed (nid oes terfyn oedran uchaf ar gyfer y grant hwn)
  • heb unrhyw arian arall, er enghraifft cynilion

 

Partneriaid a Gymeradwywyd yng Ngheredigion:

Cyngor Sir Ceredigion: Cymorth Rhianta a Teulu

Ffôn: 01545 570881

Cyngor ar Bopeth Ceredigion: Pris olew yn codi: beth i'w wneud?

Ffôn: 01239 621974  neu 01970 612817

Cymdeithas Gofal: Gwasanaethau Digartrefedd a Chymorth

Ffôn: 0300 140025

Cymdeithas Tai Barcud: Hafan - Barcud

Ffôn: 0300 1113030