
Twyll Budd-Dal
Beth i'w wneud os ydych yn amau bod rhywun yn cyflawni twyll budd-daliadau.
Os ydych yn gwybod neu'n amau fod rhywun yn cyflawni twyll budd-daliadau, rhowch wybod os gwelwch yn dda.
Rydym yn ymrwymedig i sicrhau fod pobl yn derbyn eu hawl cywir o Fudd-daliadau Tai a Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a gwneir pob ymdrech i ddelio â phob cais cyn gynted â phosib.
Rhoi gwybod am dwyll Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor
Mae twyll Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (a adnabuwyd yn flaenorol fel Budd-dal y Dreth Gyngor) yn cael ei ymchwilio gan y Cyngor Sir.
Fe fyddwn yn ymchwilio'n rhagweithiol i gyhuddiadau a cheisiadau a dyfarniadau twyllodrus posib ar gyfer y canlynol:
- Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor
- Disgowntiau ac Eithriadau o'r Dreth Gyngor
- Osgoi talu Ardrethi Busnes
Gellir hysbysu am amheuaeth o dwyll trwy'r ffyrdd ganlynol:
Ar-lein ar: revenues@ceredigion.gov.uk
Trwy'r post: Adran Budd-daliadau, Neuadd Cyngor Ceredigion Penmorfa, Aberaeron, Ceredigion, SA46 0PA.
Rhoi gwybod am dwyll Budd-daliadau Tai neu Fudd-daliadau Adran Gwaith a Phensiynau
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau'n gyfrifol am ymchwilio i Dwyll Budd-daliadau Tai a gellir hysbysu am amheuaeth o dwyll trwy'r tair ffordd ganlynol:
Dros y ffôn: Cysylltwch â'r Llinell Gymorth Twyll Budd-daliadau Cenedlaethol ar 0800 854 440. Fe fydd eich galwad yn gyfrinachol a does dim angen i chi roi eich enw na'ch cyfeiriad. Mae'r llinellau ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener rhwng 8.00yb a 6.00yp.
Ar-lein ar: www.gov.uk/report-benefit-fraud
Trwy'r post: Mail Handling Site A, Wolverhampton, WV98 2BP