
Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai
Beth yw Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai?
Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai ar gyfer pobl sydd naill ai'n derbyn Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol (gan gynnwys yr Elfen Tai) ac sydd angen cymorth ychwanegol gyda rhent neu gostau tai.
Mae'r Llywodraeth yn darparu swm cyfyngedig o arian i'r Awdurdod Lleol i wneud y taliadau hyn, ac rydym ond yn gallu gwneud taliadau i'r rhai sydd â’r angen mwyaf.
A ydw i'n gallu hawlio Taliad Disgresiwn at Gostau Tai?
Dim ond pan fo’r hawlydd yn gymwys i dderbyn/yn derbyn y canlynol y gall Taliad Disgresiwn at Gostau Tai gael ei ddyfarnu:
- Budd-dal Tai, neu
- Gredyd Cynhwysol sy'n cynnwys yr elfen Tai tuag at rent
a bod yr ymgeisydd angen cymorth ariannol pellach gyda chostau tai ac yn byw yng Ngheredigion.
Sylwer, mae dau fath o Daliad Disgresiwn at Gostau Tai. Mae un yn daliad wythnosol (fel arfer ar sail tymor byr e.e. 26 neu 52 wythnos) sy’n helpu i dalu’r gwahaniaeth rhwng eich rhent a’ch Budd-dal Tai/Credyd Cynhwysol sy’n cynnwys yr Elfen Tai. Y taliad arall yw i’ch cynorthwyo gyda chostau symud h.y. rhenti ymlaen llaw neu flaendal a chostau symud. Mae yna ffurflen gais ar wahân ar gyfer pob dyfarniad felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau'r un gywir ar gyfer eich amgylchiadau.
Sut ydw i'n hawlio Taliad Disgresiwn at Gostau Tai i dalu’r gwahaniaeth pan fo’r rhent yn fwy na’r Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol
Rhaid i chi wneud cais am Daliad Disgresiwn at Gostau Tai drwy ddefnyddio ffurflen gymeradwy’r cyngor ar gyfer Taliad Disgresiwn at Gostau Tai. Gellir lawrlwytho’r ffurflen fel dogfen Word a’i hanfon fel atodiad drwy e-bost at revenues@ceredigion.gov.uk neu fel arall, ei hargraffu a’i chyflwyno i un o’n Canolfannau Gwasanaeth i Gwsmeriaid neu ei phostio.
Mae llyfryn Gwneud Cais am Daliad Disgresiwn at Gostau Tai ar gael i roi rhywfaint o arweiniad o ran llenwi’r ffurflen Daliad Disgresiwn at Gostau Tai.
Sut ydych yn penderfynu os ydw i'n gallu derbyn Taliad Disgresiwn at Gostau Tai?
Byddwn yn asesu eich amgylchiadau i benderfynu a ydych mewn angen ariannol ac a oes gennych amgylchiadau eithriadol.
Byddwn yn cymharu cyfanswm incwm eich cartref â’ch costau wythnosol rhesymol ac yn cyfrifo a oes gennych ddigon o arian ar ôl i dalu’r rhent sy’n weddill.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi unwaith y byddwn wedi gwneud penderfyniad.
A ydw i'n gallu hawlio Taliad Disgresiwn at Gostau Tai i helpu gyda chostau symud?
Efallai y caiff Taliad Disgresiwn at Gostau Tai ei ystyried fel cyfandaliad i gynorthwyo gyda chostau symud h.y. rhenti ymlaen llaw neu flaendal a chostau symud.
I fod yn gymwys i hawlio hyn, rhaid i chi fyw yng Ngheredigion a bod eisoes yn derbyn Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol gan gynnwys yr Elfen Tai.
Gellir hawlio’r taliad gan ddefnyddio'r ffurflen Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn a gellir ei chyflwyno fel y manylir uchod.
Mae rhagor o wybodaeth am y meini prawf cymhwysedd ar gael yn y ddogfen hon (Annex 5) Procedural Framework a byddwn yn eich hysbysu ynglŷn â’r penderfyniad.
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n anghytuno â'ch penderfyniad?
Nid Budd-dal yw’r Taliad Disgresiwn at Gostau Tai ac nid oes hawl statudol i apelio i'r Gwasanaeth Tribiwnlys. Fodd bynnag, os hoffech gael eglurhad neu os ydych yn anghytuno â phenderfyniad a wnaed gan yr Adran Fudd-daliadau, cyfeiriwch at yr adran anghydfodau yn y Fframwaith Gweithdrefnol Taliad Disgresiwn at Gostau Tai.
Beth os bydd fy amgylchiadau'n newid?
Rhaid i chi ein hysbysu ar unwaith, yn ysgrifenedig, os bydd unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau.
Mae'n arbennig o bwysig eich bod yn rhoi gwybod inni am unrhyw newidiadau yn eich incwm, eich patrymau gwario neu'r bobl sy'n byw ar eich cartref. Gan amlaf bydd unrhyw newid mewn amgylchiadau'n effeithio ar y Budd-dal Tai a/neu Ostyngiad yn y Dreth Gyngor. Fodd bynnag, os ydych hefyd yn derbyn Taliad Disgresiwn at Gostau Tai, gallai eich dyfarniad gael ei effeithio hefyd.
Gweler Newid mewn Amgylchiadau am ragor o wybodaeth.