
Gordaliadau a Dyled
Beth yw Gordaliad?
Gordaliad yw pan rydych wedi derbyn taliad Budd-dal Tai a/neu Ostyngiad I Dreth y Cyngor sy’n fwy na’r hyn sydd gennych hawl iddo.
Beth all achosi Gordaliad?
Mae’r rhan fwyaf o ordaliadau’n cael eu hachosi gan newidiadau i amgylchiadau personol a/neu ariannol nad yw’r Awdurdod Lleol wedi’u hysbysu’n syth. Er enghraifft:
- unrhyw newid mewn incwm neu incwm cyfalaf. Mae hyn yn cynnwys dechrau gweithio, newid swyddi, cynnydd mewn cyflog, budd-daliadau’r wladwriaeth a phensiynau preifat
- os yw amgylchiadau oedolion eraill sy’n byw gyda chi fel rhan o’ch cartref yn newid
- os yw pobol yn symud i mewn ac allan o’ch cartref
- os ydych chi neu eich partner yn symud allan
- os ydych yn priodi, sefydlu partneriaeth sifil neu’n dechrau byw gyda rhywun fel petaech wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil.
Ni ddylech ddibynnu ar Jobcentre Plus, Adran Waith a Phensiynau, y Gwasanaeth Pensiynau na’r landlord I’n hysbysu o unrhyw newidiadau.
Os canfyddir bod eich hawliad yn dwyllodrus, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn erlyn lle bo hynny'n briodol a bydd yr Awdurdod Lleol yn adennill unrhyw ordaliad Budd-dal Tai a/neu Gostyngiad Treth y Cyngor.
Os ydych wedi cael gordaliad Budd-dal Tai a/neu Ostyngiad Treth y Cyngor, byddwn yn ysgrifennu atoch ac yn dweud y canlynol wrthych:
- bod gordaliad wedi bod
- rheswm dros y gordaliad
- dyddiadau a swm y gordaliad
- sut rydym wedi cyfrifo’r gordaliad
- beth ydych chi’n ei wneud os ydych chi’n anghytuno â’r gordaliad
Os ydym yn gwneud taliadau uniongyrchol i'ch landlord, byddwn yn ysgrifennu atoch chi a'ch landlord ar yr un pryd.
Peidiwch ag anwybyddu unrhyw lythyrau a anfonwn atoch gan na fydd y gordaliad yn diflannu.
Os ydych chi eisiau gwybod mwy am y penderfyniad neu os ydych chi'n meddwl ei fod yn anghywir, dylech gysylltu â ni o fewn mis o ddyddiad y llythyr hysbysu neu efallai na fyddwn yn gallu ystyried unrhyw anghydfod.
Cysylltwch â ni yn ysgrifenedig neu drwy e-bost.
Gweler Apeliadau am fwy o wybodaeth.
Os ydych wedi cael gordaliad o ostyngiad Treth y Cyngor, byddwn yn debydu eich cyfrif Treth Gyngor gyda'r gordaliad ac yn anfon bil Treth y Cyngor newydd atoch.
Os ydych chi'n dal i dderbyn Budd-dal Tai, byddwn yn tynnu swm o'ch hawl wythnosol i leihau'r gordaliad.
Os talwyd eich landlord yn uniongyrchol, efallai y byddwn yn gofyn i'r landlord ad-dalu i ni mewn rhai amgylchiadau.
Os nad oes gennych hawl i Fudd-dal Tai mwyach, byddwn yn anfon anfoneb atoch y gellir ei had-dalu:
- trwy arian parod / siec / cerdyn credyd yn unrhyw un o’n Canolfannau Gwasanaeth Cwsmeriaid
- Drwy anfon siec at Neuadd Cyngor Ceredigion Penmorfa, Aberaeron Ceredigion SA46 0PA – amgaewch eich anfoneb neu ysgrifennwch rif eich anfoneb ar gefn y siec
- Trwy gerdyn credyd/debyd ar rif ffôn 01970 633252
- Taliad ar-lein
Os nad ydych yn gallu ad-dalu'r anfoneb yn llawn, gallwch wneud trefniant i ad-dalu mewn rhandaliadau. Cysylltwch â ni dros y ffôn neu drwy e-bost gyda'ch cynnig ad-dalu.
Gallwch dalu trwy sefydlu Debyd Uniongyrchol naill ai drwy ein ffonio ar 01970 633252 neu lawrlwytho ffurflen o'r ddolen isod. Fel arall, gallech sefydlu Rheol Sefydlog yn uniongyrchol gyda'ch banc/cymdeithas adeiladu neu lawrlwytho ffurflen o'r tudalen Ffurflenni Cais.
Gellir gwneud taliadau'n uniongyrchol i gyfrif banc yr Awdurdod drwy ddyfynnu IM ac yna'r Cyfeirnod Cwsmer a ddyfynnir ar eich anfoneb e.e. IM1234
Enw'r Banc: | Banc Barclays, 9 10 Sgwar y Guildhall, Caerfyrddin, Sir Gâr, SA31 1PW | ||
Enw ein Cyfrif: | Cyngor Sir Ceredigion County Council Income Account | ||
Ein cod didoli: | 20-18-74 | Rhif ein Cyfrif: | 53775372 |
Os derbynnir eich cynnig rhandaliadau, byddwn yn ysgrifennu atoch i gadarnhau'r trefniant.
Sylwch - Os ydych chi'n cael trafferth talu'r rhandaliadau neu gadw at y trefniant y cytunwyd arno, dylech gysylltu â ni ar unwaith. Byddwn yn ceisio helpu mewn unrhyw ffordd y gallwn.
Mae'r opsiynau sydd ar gael i'r Awdurdod Lleol i adennill gordaliad fel a ganlyn:
- Gallwn ofyn i'ch cyflogwr wneud didyniadau o'ch cyflog heb gymryd camau llys. Gelwir hyn yn Atafaelu Enillion yn Uniongyrchol
- Efallai y byddwn yn gofyn i'r Adran Gwaith a Phensiynau wneud didyniadau o fudd-dal y maent yn ei dalu i chi. Os ydynt yn gallu gwneud didyniadau ar ran yr Awdurdod Lleol, bydd hyn yn golygu y byddwch yn derbyn llai o fudd-dal y wladwriaeth. Byddant yn ysgrifennu atoch os bydd hyn yn digwydd
- Os ydych chi'n landlord nad ydych wedi ad-dalu gordaliad i'r Awdurdod Lleol ac rydych chi'n parhau i dderbyn Budd-dal Tai yn uniongyrchol mewn perthynas â thenantiaid eraill, byddwn yn tynnu'r gordaliad yn llawn o daliadau yn y dyfodol a anfonir atoch chi
Mae'n ofynnol i gyflogwyr wneud didyniadau o gyflog eu gweithwyr ac yna'r symiau a ddidynnir yn cael eu talu i Gyngor Sir Ceredigion i leihau neu glirio'r ddyled.
Mae'r Atafaelu Enillion Uniongyrchol - Canllaw Cyflogwyr yn darparu cyngor ar yr hyn y mae angen i gyflogwr ei wneud os gofynnir iddynt weithredu Atodiad Enillion Uniongyrchol. Mae'n esbonio:
- Sut i weithredu Atafaelu Enillion Uniongyrchol
- Sut i weithredu Atafaelu Enillion Uniongyrchol
- Sut a phryd i wneud taliadau i ni o'r swm a ddidynnwyd
- Cyfrifoldebau'r cyflogwr o dan y gyfraith
Rhaid i'r cyflogwr gwblhau atodlen talu Atodiad Enillion Uniongyrchol bob tro y gwneir didyniad a'i hanfon atom gan roi manylion y symiau a ddidynnir o gyflog y gweithiwr. Gallwch e-bostio copi electronig o'r atodlen atom yn devandcontrol@ceredigion.gov.uk (rhowch 'Hysbysiad DEA' ym mhwnc eich e-bost) neu drwy'r post i'r cyfeiriad a ddangosir ar yr atodlen.
Mae'r weithdrefn lawn yn cael ei esbonio yn yr Atafaelu Enillion Uniongyrchol - Canllaw Cyflogwyr.
Bwriad y canllaw yw helpu cyflogwr i ddeall y prif bwyntiau am Atodiadau Enillion Uniongyrchol ond nid yw wedi'i fwriadu i fod yn ddisgrifiad llawn neu ddatganiad o'r gyfraith.
Os ydych chi'n gyflogwr ac os oes gennych unrhyw gwestiynau nad ydynt wedi'u hateb gan y canllaw, cysylltwch â ni ar 01970 633252.