
Budd-dâl
Gallwch wneud cais newydd am Fudd-dal Tai dim ond os yw’r canlynol yn berthnasol:
- Rydych chi a’ch partner yn oed pensiwn
- Rydych yn aros mewn lloches, hostel neu ryw fath o dŷ â chymorth dros dro
Os ydych chi neu’ch partner yn oedran gweithio, mae’r rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Mae rhagor o wybodaeth am Gredyd Cynhwysol ar gael ar ein tudalen Credyd Cynhwysol.
Os oes angen i chi hawlio Budd-dal Tai, defnyddiwch y cais ar y dudalen Ffurflenni Cais.
Sut mae Gostyngiadau i Dreth y Cyngor yn cael eu cyfrifo
Mae swm Gostyngiad Treth y Cyngor yn dibynnu ar eich incwm a’ch cynilion.
Byddwn yn cyfrifo faint o arian sydd angen i chi fyw arno yn seiliedig ar amgylchiadau eich teulu. Os yw eich incwm yn uwch na’ch anghenion – fel y penderfynir gan ffigurau’r llywodraeth – bydd swm y cymorth tuag at eich bil Treth y Cyngor a gewch yn cael ei leihau.
Efallai y bydd eich budd-dal hefyd yn cael ei leihau os oes gennych oedolion eraill yn byw yn eich cartref neu os ydych yn byw mewn eiddo sy’n fwy nag anghenion eich cartref (gallwch ddod o hyd i fanylion pellach isod).
Mae gan bob eiddo rhentu preifat Lwfans Tai Lleol. Uchafswm y budd-dal y gallwch ei gael yw 100% o’r gyfradd hon. Byddech fel arfer yn cael y swm hwn os ydych ar Gymorth Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar Incwm), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn gysylltiedig ag incwm) neu Warant Credyd Pensiwn.
Bydd cyfradd y LTLl y bydd gennych hawl iddo yn dibynnu ar nifer yr ystafelloedd y bydd eu hangen arnoch chi a’ch aelwyd. Mae hawl gennych i un ystafell wely ar gyfer pob:
- pâr (priod neu ddibriod) sy’n oedolion
- unrhyw oedolyn arall sy’n 16 oed neu drosodd
- unrhyw ddau blentyn o’r un rhyw sydd o dan 16 oed
- unrhyw ddau blentyn o dan 10 oed
- unrhyw blentyn arall
Unwaith y byddwch wedi cyfrifo sawl ystafell wely sydd gennych hawl iddi, defnyddiwch y tabl isod i ddarganfod pa LTLl sy’n berthnasol i chi:
Nifer yr ystafelloedd | Cyfradd Lwfans Tai Lleol ar gyfer Ceredigion |
---|---|
1 Ystafell gwely (cyfleusterau a rennir) | £70.00 |
1 Ystafell gwely (hunangynhwysol) | £96.66 |
2 Ystafell gwely | £115.07 |
3 Ystafell gwely | £126.58 |
4 Ystafell gwely | £149.59 |
Bydd gan hawlwyr sengl o dan 35 oed hawl i un ystafell wely ar gyfradd y LTLl i gyfleusterau a rhennir. Bydd gan hawlwyr sengl dros 35 oed a pharau sydd heb blant hawl i un ystafell wely ar gyfradd y LTLl hunangynhwysol, cyn bellid â’u bod yn rhentu eiddo sydd o’r maint hwnnw fan leiaf (h.y. dwy stafell neilltuol, neu un stafell neilltuol, toiled, ystafell ymolchi a chegin).
Efallai y bydd gennych hawl i ystafell wely ychwanegol os:
- oes plentyn anabl neu oedolyn anabl annibynnol sydd angen gofal dros nos
- nad yw cwpl yn gallu rhannu ystafell wely oherwydd anabledd
- nad yw plant yn gallu rhannu oherwydd anabledd
Os ydych chi’n rhentu gan gymdeithas dai gofrestredig neu landlord cofrestredig arall, bydd swm y Budd-dal Tai a gewch yn seiliedig ar nifer yr ystafelloedd gwely sydd eu hangen ar eich cartref:
Mae’r rheolau’n caniatáu un ystafell wely ar gyfer:
- Pobl cwpl sy’n oedolion (priod neu ddibriod)
- Unrhyw oedolyn arall sy’n 16 oed neu’n hŷn
- Unrhyw ddau blentyn o’r un rhyw o dan 16 oed
- Unrhyw ddau blentyn o dan 10 oed
- Unrhyw blentyn arall
- Gofalwr dibreswyl
Os ydych chi’n cael eich gosod i gael un neu fwy o ystafelloedd gwely ychwanegol, efallai y bydd eich Budd-dal Tai yn cael ei leihau.
Os ydych chi’n tan-feddiannu, bydd gostyngiad yn eich Budd-dal Tai o:
- 14% ar gyfer tan-feddiannaeth gan un ystafell wely (tua £13 fesul wythnos)
- 25% ar gyfer tan-feddiannaeth gan ddwy ystafell wely neu fwy (tua £23 fesul wythnos)
Efallai y bydd gennych hawl i ystafell wely ychwanegol os:
- Plentyn anabl neu oedolyn anabl annibynnol sydd angen gofal dros nos
- nad yw cwpl yn gallu rhannu ystafell wely oherwydd anabledd
- nad yw plant yn gallu rhannu oherwydd anabledd
Os ydych chi'n credu bod hyn yn berthnasol i chi, gwnewch eich cais yn ysgrifenedig a bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth feddygol.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar Housing Benefit Claimant Factsheet y Department for Works & Pensions.
Os ydych chi, a’ch partner (os yw’n berthnasol), wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn y Wladwriaeth ac yn gymwys ar gyfer Budd-dal Tai a/neu Ostyngiad Treth y Cyngor, gallwn ôl-ddyddio eich budd-dal/gostyngiad yn awtomatig hyd at 3 mis cyn y dyddiad gwnaethoch eich cais (cyn belled â bod gennych hawl i fudd-dal/gostyngiad ar gyfer y cyfnod hwnnw).
Er mwyn i ni gyfrifo faint o fudd-dal/gostyngiad y bydd gennych hawl iddo, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth ddogfennol o’ch incwm, cynilion a rhent (os yw’n berthnasol) ar gyfer y cyfnod rydych am ei hawlio.
Os nad ydych eto wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn y Wladwriaeth, os ydych yn gymwys i gael Budd-dal Tai, byddwn fel arfer yn talu eich budd-dal o’r dydd Llun ar ôl i chi ofyn i ni am ffurflen gais (os byddwch yn dychwelyd y ffurflen gais o fewn un mis calendr i gysylltu â ni).
Os ydych yn gymwys i gael Gostyngiad Treth y Cyngor, byddwn fel arfer yn talu eich gostyngiad o’r dyddiad y gwnaethoch ofyn am ffurflen gais (os byddwch yn dychwelyd y ffurflen gais o fewn mis i gysylltu â ni).
Weithiau gallwn dalu budd-dal/gostyngiad am gyfnod cyn y dyddiad y gwnaethoch hawlio. Gelwir hyn yn ôl-ddyddio. Yr uchafswm y gallwn ôl-ddyddio eich cais yw:
- 1 mis ar gyfer Budd-dal Tai neu Lwfans Tai Lleol
- 3 mis ar gyfer Gostyngiad Treth y Cyngor
o’r dyddiad y gwnewch eich cais ôl-ddyddio, ar yr amod y gallwch ddangos:
- Roedd gennych ‘achos da’ dros beidio â gwneud eich cais yn gynharach
- Ni allech hawlio trwy gydol y cyfnod yr hoffech i’ch cais gael ei ôl-ddyddio
- Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth ddogfennol o’ch incwm, cynilion a rhent (os yw’n berthnasol) am y cyfnod rydych am ei hawlio
Rhaid gwneud cais am ôl-ddyddio yn ysgrifenedig.
Byddwn yn penderfynu a allwn ôl-ddyddio eich budd-dal/gostyngiad yn seiliedig ar y wybodaeth a roddwch i ni ac os ydych yn anghytuno â’n penderfyniad, gallwn wneud apêl.
Gallai unrhyw newid yn eich incwm neu amgylchiadau effeithio ar eich cais. Mae hyn hefyd yn berthnasol i amgylchiadau unrhyw un sy’n byw yn eich cartref.
Os nad fyddwch yn darparu diweddariad o fewn un mis i’r newid ddigwydd, gallwch golli allan neu orfod talu arian yn ôl.
Mae’r newidiadau y mae angen i chi roi gwybod i ni amdanynt yn cynnwys:
- rydych chi’n newid cyfeiriad
- rydych chi neu’ch partner yn dechrau gweithio, yn newid swydd neu’n cael codiad cyflog
- mae unrhyw newid i unrhyw incwm rydych chi neu’ch partner yn ei dderbyn (budd-daliadau’r Adran Gwaith a Phensiynau, pensiynau ac ati)
- mae un o’ch plant yn gadael yr ysgol neu wedi cael babi
- mae unrhyw un yn symud i mewn neu allan o’r eiddo, hyd yn oed dros dro
- mae gennych bartner newydd neu rydych yn priodi neu’n gwahanu
- mae newid yn eich cynilion
- rydych yn dechrau neu’n stopio talu costau gofal plant neu os yw’r swm yn newid
- mae amgylchiadau unrhyw un yn eich cartref yn newid
Sylwch fod y rhain yn enghreifftiau a dylech ddweud wrthym ar unwaith am unrhyw newid a allai effeithio ar eich budd-dal.
Person 18 oed neu hŷn sy’n byw yn eich cartref neu sy’n defnyddio’ch cartref fel ei brif breswylfa ar sail anfasnachol, fel arfer yn fab, merch, ffrind neu berthynas sy’n oedolion.
Fel arfer, mae Budd-dal Tai a/neu Ostyngiad Treth y Cyngor yn cael ei leihau ar gyfer pob person annibynnol sy'n byw yn eich cartref ac mae'n seiliedig ar yr incwm gros wythnosol y mae'r person annibynnol yn ei dderbyn. Gosodir y ffigurau hyn gan y Llywodraeth.
Yng ngoleuni hyn, bydd angen i chi ddweud wrthym os yw incwm eich person annibynnol yn newid, mae amgylchiadau'n newid, neu os bydd person annibynnol yn symud i mewn i'ch cartref, neu allan ohono.
Pryd na fyddwch yn gwneud didyniad person annibynnol?
Ni wneir didyniad pobl annibynnol yn yr achosion canlynol:
- Os ydych chi neu'ch partner (os yw'n berthnasol) wedi'ch cofrestru'n ddall
- Os ydych chi neu'ch partner (os yw'n berthnasol) yn derbyn Lwfans Gweini
- Os ydych chi neu'ch partner (os yw'n berthnasol) yn derbyn yr elfen gofal o'r Lwfans Byw i'r Anabl ar unrhyw raddfa
- Os ydych chi neu'ch partner (os yw'n berthnasol) yn derbyn yr elfen byw bob dydd o'r Taliad Annibyniaeth Personol
- Os ydych chi neu'ch partner (os yw'n berthnasol) yn derbyn Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
- Ar gyfer Budd-dal Tai – pobl nad ydynt yn ddibynnol o dan 25 oed ac sy’n derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith seiliedig ar incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn gysylltiedig ag incwm) nad yw’n cynnwys swm ar gyfer yr elfen gymorth neu’r gydran gweithgaredd cysylltiedig â gwaith neu Gredyd Cynhwysol (lle cyfrifir y dyfarniad ar y sail nad oes gan y person annibynnol unrhyw incwm a enillwyd)
- Ar gyfer Gostyngiadau Treth y Cyngor – pobl nad ydynt yn ddibynnol sy’n derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith seiliedig ar incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn gysylltiedig ag incwm) neu Gredyd Cynhwysol (lle cyfrifir y dyfarniad ar y sail nad oes gan y person annibynnol unrhyw incwm a enillwyd)
- Pobl annibynnol sy'n derbyn Credyd Pensiynau
- Pobl annibynnol sy'n fyfyrwyr llawn amser (gelli'r gwneud didyniad os yw'r myfyriwr yn gweithio am dâl yng ngwyliau'r haf)
- Pobl annibynnol sy'n hyfforddeion ieuenctid
- Pobl annibynnol sydd yn y carchar
- Pobl annibynnol sydd yn yr ysbyty am 52 wythnos neu fwy
Budd-dal Tai
Noder - diffiniad gwaith am dâl yw bod mewn gwaith am 16 awr neu fwy bob wythnos (gan ddisgwyl tâl am y gwaith)
Didyniadau i bobl nad ydynt yn ddibynnol | Ebrill 2025 |
---|---|
O dan 25 oed ac yn derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (sy’n gysylltiedig ag Incwm) nad yw’n cynnwys swm ar gyfer yr elfen gymorth neu’r elfen gweithgaredd cysylltiedig â gwaith neu Gredyd Cynhwysol (lle cyfrifir y dyfarniad ar y sail nad oes gan yr unigolyn nad yw’n ddibynnol unrhyw incwm a enillir) | Dim |
Yn 25 oed neu’n hŷn ac yn derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, neu’n 18 oed neu’n hŷn a ddim mewn gwaith am dâl | 19.65 |
Yn derbyn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (sy’n gysylltiedig ag Incwm) ar y prif gam (unrhyw oedran) | 19.65 |
Yn derbyn Credyd Pensiwn | Dim |
18 neu’n hŷn ac mewn gwaith am dâl | |
incwm gros: llai na £183 | 19.65 |
incwm gros: rhwng £183 a £265.99 | 45.15 |
incwm gros: rhwng £266 a £347.99 | 62 |
incwm gros: £348 a £462.99 | 101.35 |
incwm gros: £463 a £576.99 | 115.45 |
incwm gros: £577 neu fwy | 126.65 |
Fel arfer, dim ond am y cartref rydych chi'n byw ynddo ac yn talu rhent y talir budd-dal. Fodd bynnag, mae yna rai amgylchiadau lle efallai y byddwch chi'n gallu cael help ar gyfer dau gartref:
Ofn Trais
Pan fyddwch wedi gadael eich hen gartref ac yn parhau i fod yn absennol oherwydd ofn y bydd trais yn digwydd naill ai yn eich cartref gan berson arall neu y tu allan i'ch cartref gan gyn-aelod o'ch teulu, gellir talu budd-dal am uchafswm o 52 wythnos. Er mwyn talu budd-dal, rhaid i chi fwriadu dychwelyd i fyw yn yr eiddo rydych chi wedi'i adael.
Myfyrwyr neu Weithwyr dan Hyfforddiant
Gall cyplau sy'n byw mewn llety rhent ar wahân dderbyn budd-dal i'r ddau eiddo. Rhaid i'r Awdurdod Lleol ystyried bod llety ar wahân yn anochel ac mae'n rhesymol talu budd-dal ar ddau gartref. Nid oes terfyn amser ar y ddarpariaeth hon.
Budd-dal sy’n gorgyffwrdd ar ddau gartref
Yn gyffredinol, mae pobl yn cynllunio symud cartref ymlaen llaw a byddant fel arfer yn gallu osgoi gorfod talu rhent ar ddau gartref trwy roi digon o rybudd i'w cyn-landlord i ddod â'u tenantiaeth i ben.
Fodd bynnag, os ydych wedi symud o un annedd rhent i annedd rhent arall ac mae'n rhaid i chi dalu rhent o hyd am rybudd sy'n ofynnol ar eich cyn-gartref, dim ond am uchafswm o bedair wythnos y bydd yr Awdurdod Lleol yn ystyried dyfarnu budd-dal ar y ddau eiddo am uchafswm o bedair wythnos os bodlonir y ddau amod canlynol:
- dim ond am y cyfnod ar ôl i chi symud i'ch cartref newydd
- dim ond os na ellid osgoi eich atebolrwydd i dalu rhent ar y ddau gartref yn rhesymol.
Teuluoedd Mawr
Os oes gennych deulu mawr ac mae'r Awdurdod Lleol wedi eich lletya mewn dwy annedd ar wahân, gellir talu budd-dal ar y ddau eiddo.
Sylwch fod y pwyntiau hyn yn berthnasol i dderbynwyr Budd-dal Tai yn unig (nid y rhai sy'n derbyn Elfen Tai Credyd Cynhwysol).
Cyflwynwyd y Cap ar Fudd-daliadau gan y Llywodraeth yn Ebrill 2013 er mwyn cyfyngu ar gyfanswm y budd-daliadau gall bobl o oed gweithio eu derbyn, fel na fydd aelwydydd sydd ar fudd-daliadau i’r di-waith yn derbyn mwy mewn taliadau lles na’r cyfartaledd o ran gyflog wythnosol yr aelwydydd sy’n gweithio.
Am ragor o wybodaeth gweler tudalen Benefit Cap y llywodraeth.
Caniatâd tenant
Gallwn drafod hawliad os yw’r tenant yn rhoi caniatâd i ni trwy lofnodi ffurflen caniatâd tenant. Os nad yw hawlydd wedi gofyn am dalu budd-dal yn uniongyrchol i’r landlord, ni allwn roi unrhyw wybodaeth am hawliad o gwbl.
Gallwn hefyd roi gwybodaeth i landlordiaid os yw tenant wedi llofnodi llythyr yn cadarnhau y gall eu landlord weithredu ar eu rhan. Gall caniatâd tenant amrywio rhwng tenantiaid a gallwn gadarnhau bwriadau'r hawlydd pryd bynnag yr ydym yn teimlo ei fod yn addas.
Efallai y byddwn yn rhoi gwybodaeth arall i landlordiaid os yw anghenion yr hawlydd yn ei gwneud yn addas neu os yw'n helpu'r weinyddiaeth budd-daliadau e.e. pan fyddwn yn aros am fwy o wybodaeth gan y tenant.
Gwybodaeth y gallwn ei rhoi
Os byddwch yn cysylltu â ni, rydym yn gyfyngedig gyda'r wybodaeth y gallwn ei rhoi i chi oherwydd bod gwybodaeth hawlydd yn gyfrinachol. Fodd bynnag, gallwn roi gwybodaeth benodol mewn rhai achosion lle mae'r landlordiaid yn cael eu hystyried fel 'person yr effeithir arnynt'. Gallai hyn fod pan:
- Rydym yn adennill gordaliad oddi wrthych. Gallwn roi gwybod i chi am y swm, y cyfnod a'r rhesymau dros adennill gordaliad
- Rydym yn talu Budd-dal Tai yn uniongyrchol i chi. Gallwn roi gwybod i chi y swm, y gyfradd budd-dal wythnosol a'r cyfnod a gwmpesir gan y taliad a anfonir yn uniongyrchol atoch chi, a'r dyddiad y mae taliadau uniongyrchol yn stopio
Ôl-ddyledion Tenant
Budd-dal Tai
Rydym yn argymell, os yw tenant yn dechrau cronni ôl-ddyledion rhent (mwy na 2 wythnos), y dylech gysylltu â ni cyn iddo gyrraedd wyth wythnos. Bydd hyn yn caniatáu inni ymchwilio a oes problem sydd angen mynd i'r afael â hi. Mae'n bosibl y bydd taliadau yn y dyfodol yn cael eu gwneud i chi lle bo hynny'n briodol. I ystyried hyn, bydd angen prawf o'r ôl-ddyledion. Byddwn hefyd yn esbonio pam, os nad ydym yn gallu gwneud taliadau'n uniongyrchol i chi fel y Landlord.
Credyd Cynhwysol
Os nad ydym yn gallu gwneud taliadau i chi fel y Landlord, efallai bod hynny oherwydd bod eich tenant yn derbyn Credyd Cynhwysol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, ac ni ellir talu Budd-dal Tai os yw'r hawlydd yn derbyn Credyd Cynhwysol. Mae hyn oherwydd y bydd taliadau Credyd Cynhwysol yn cynnwys yr holl gostau tai cymwys, lle bo'n briodol - sy'n golygu y bydd hawlwyr yn gyfrifol am dalu eu rhent eu hunain.
Os yw tenant yn cael trafferth talu ei rent, gweler y dudalen Universal Credit and Rented Housing Guide for Landlords am gyngor pellach i Landlordiaid lle mae eu tenant yn derbyn Credyd Cynhwysol.
Os nad oes gennych yr holl dystiolaeth a’r wybodaeth sydd eu hangen arnom i gefnogi’ch cais, peidiwch ag oedi cyn anfon eich ffurflen gais neu gallech golli allan ar fudd-dal. Gallwch anfon y dystiolaeth yn nes ymlaen.
Efallai y bydd angen tystiolaeth i gefnogi eich cais newydd am Fudd-dal Tai, Gostyngiad Treth y Cyngor, Taliad Tai Dewisol, neu cyn y gallwn weithredu newid mewn amgylchiadau, fel prawf o'ch incwm, cynilion neu brawf o daliadau rhent. Fodd bynnag, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth fydd angen i chi, os unrhyw beth, ei ddarparu.
Gellir cyflwyno tystiolaeth drwy atodiad e-bost i revenues@ceredigion.gov.uk gyda'ch rhif cyfeirnod neu enw a chyfeiriad llawn, drwy'r post (peidiwch ag anfon dogfennau gwerthfawr drwy'r post) neu yn un o'n Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid.