Cynlluniau'r Dyfodol ar gyfer dau safle allweddol yn Llandysul
Bydd yr ymgyrch hwn yn cau 6 Mawrth 2026
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gwahodd trigolion i gymryd rhan mewn ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol defnydd dau safle pwysig yn Llandysul – cyn gartref gofal Awel Deg a chaeau chwarae’r hen ysgol.
Yn dilyn dyfarnu cyllid drwy Gronfa Bartneriaeth Strategol y DU, mae dau ymgynghorydd allanol wedi’u penodi i ddatblygu cynigion ar gyfer y lleoliadau hyn. Fel rhan o’r gwaith cynnar hwn, mae’r Cyngor yn ceisio mewnwelediad lleol i helpu siapio cyfeiriad y cynlluniau.
Mae Common Works Architecture ac Initiate Architecture wedi cynnal digwyddiad yn Y Porth Hotel, Llandysul, ar 28 Ionawr, ble wnaeth trigolion lleol weld syniadau cychwynnol a rhannu eu dyheadau ar gyfer defnydd posibl y safleoedd hyn yn y dyfodol.
Sut i gymryd rhan
Mae ffurflen ar-lein ar gael i’r rhai sy’n dymuno cyflwyno eu syniadau - Llandysul Masterplan - Local Outreach | QuestionPro Survey.
Gallwch hefyd lenwi gopi papur - Cwestiynau arolwg.
Gallwch ofyn am gopi papur y ffurflen o’ch llyfrgell neu ganolfan hamdden leol drwy ffonio ni ar 01545 570 881 neu danfon e-bost i: clic@ceredigion.gov.uk.
Dychwelwch gopïau papur i’ch llyfrgell neu ganolfan hamdden leol, neu i:
Y Tîm Datblygiant a Rheoli Asedau, Gwasanaeth yr Economi ac Adfywio
Cyngor Sir Ceredigion
Penmorfa
Aberaeron
SA46 0PA
Beth sy'n digwydd nesaf?
Rydyn ni ar gamau cynnar iawn ar hyn o bryd.
Bydd y penseiri yn dadansoddi'r ymatebion a dderbyniwyd yn y camau cynnar hyn ac yn eu hymgorffori mewn astudiaeth ddichonoldeb. Bydd ymgynghoriad pellach ar yr astudiaeth ddichonoldeb i wneud yn siŵr ein bod wedi cipio'r holl opsiynau rhesymol.
Yna byddwn yn symud ymlaen i nodi cyllid neu ddatblygu partneriaeth gyda thrydydd parti i gyflawni'r opsiwn a ddewiswyd.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â thîm Datblygiant a Rheoli Asedau'r Cyngor drwy e-bost - estates@ceredigion.gov.uk neu dros y ffôn - 01545 570881.